Gweithio gyda bwrdd mewn menter gymdeithasol

URN: INSBE024
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n gweithio gyda bwrdd mewn menter gymdeithasol. Gall mentrau cymdeithasol gael eu cyfarwyddo gan sawl math o gyrff llywodraethu, byrddau cyfarwyddwyr, pwyllgorau rheoli ac ymddiriedolwyr, yn dibynnu a yw'r fenter gymdeithasol yn gorff corfforedig ai peidio. Er mwyn ei gadw'n syml, defnyddir y termau 'bwrdd' ac 'aelodau bwrdd'. Beth bynnag y maent yn cael eu galw, mae ganddynt rôl bwysig mewn menter gymdeithasol. Bydd gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan ddefnyddio'r aelodaeth gywir, hawliau pleidleisio, sgiliau a gwybodaeth berthnasol yn eu helpu i wneud penderfyniadau sy'n cynorthwyo gwaith y sefydliad. Mae angen i aelodau'r bwrdd feddu ddeall beth yn union yw eu rolau a'u cyfrifoldebau. Mae gweithio gyda bwrdd cyfarwyddwyr mewn menter gymdeithasol yn golygu dewis yr aelodau cywir, gan wneud yn siŵr eu bod yn deall yr amcanion corfforaethol a sut mae'r fenter yn cael ei rhedeg.

Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych:

  1. yn sefydlu menter gymdeithasol newydd;

  2. yn gyfrifol am lywodraethu menter gymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r wybodaeth, y sgiliau, y cymhwysedd a'r arbenigedd sydd eu hangen i fod yn aelodau'r bwrdd
  2. nodi cylch gwaith eich cyfrifoldebau fel yn unol â sut y nodir y rhain yng nghyfansoddiad y fenter gymdeithasol
  3. dewis aelodau bwrdd a'u hethol, lle bo hynny'n bosibl, yn unol â'r meini prawf perthnasol
  4. trafod rheolau awdurdod ar gyfer aelodau'r bwrdd a chytuno arnynt
  5. dyrannu rolau a chyfrifoldebau i aelodau'r bwrdd
  6. sicrhau bod anghenion hyfforddi a datblygu aelodau eich bwrdd yn cael eu nodi a'u diwallu
  7. sicrhau bod gan aelodau'r bwrdd wybodaeth am eu cyfrifoldebau cyfreithiol, strwythur menter gymdeithasol a'r codau ymddygiad y disgwylir iddynt eu dilyn
  8. nodi'r materion y mae angen i aelodau eich bwrdd edrych arnynt a'u helpu i wneud penderfyniadau, gan ddefnyddio'r egwyddorion, y canllawiau a'r rheolau y cytunwyd arnynt
  9. dadansoddi gwybodaeth i nodi patrymau, tueddiadau, blaenoriaethau a phroblemau o ran eu pwysigrwydd a'u brys
  10. gwirio dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth wrth wneud penderfyniadau
  11. annog rhanddeiliaid allweddol i fod yn rhan o'r broses o benderfynu pa gyfeiriad y dylai'r fenter gymdeithasol ei ddilyn
  12. dirprwyo'r tasgau ymhlith aelodau'r bwrdd fel y bo'n briodol
  13. ymateb i gyfarwyddiadau, ceisiadau ac ymholiadau'r bwrdd
  14. nodi'r camau gweithredu a'r penderfyniadau sy'n gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol y bwrdd
  15. cwblhau unrhyw gamau y penderfynir arnynt gan y bwrdd a gwneud yn siŵr bod gan randdeiliaid wybodaeth am sut i ddylanwadu ar benderfyniadau'r bwrdd a'u herio
  16. helpu'r bwrdd a rhanddeiliaid allweddol i gyfathrebu'n effeithiol â'i gilydd
  17. helpu'r bwrdd i adolygu ei berfformiad a bod yn atebol i randdeiliaid
  18. meithrin perthnasoedd gwaith gydag aelodau'r bwrdd a rhanddeiliaid
  19. adrodd ar berfformiad cymdeithasol neu fanteision cymdeithasol
  20. hysbysu'r bwrdd am unrhyw newidiadau mewn cyfraith gorfforaethol a allai effeithio ar y fenter gymdeithasol
  21. adolygu cylch gwaith y swyddogaethau a chyfrifoldebau aelodau'r bwrdd yn rheolaidd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Y Bwrdd

1.      y wybodaeth, y sgiliau, y cymhwysedd a'r arbenigedd sydd eu hangen i fod yn aelodau'r bwrdd

2.      sut i ddefnyddio gwerthoedd ac egwyddorion y fenter gymdeithasol i ddatblygu aelodau'r bwrdd

3.      y pwerau a'r cyfrifoldebau y mae cyfansoddiad cyfreithiol y fenter gymdeithasol yn eu rhoi i reolwyr ac aelodau'r bwrdd

4.      y cyfleoedd dysgu a datblygu a nodwyd ar gyfer aelodau'r bwrdd

5.      sut i helpu'r bwrdd i ddatblygu polisïau a strategaethau fydd yn gwella perfformiad y fenter gymdeithasol

6.      pwerau'r bwrdd a'u perthynas â rhanddeiliaid

7.      dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol y bwrdd

8.      y côd ymddygiad y mae'n rhaid i'r bwrdd ei ddilyn, yn enwedig mewn perthynas â'u gweithredoedd, gwrthdaro posibl mewn buddiannau, ac ar ba sail y gellir diswyddo aelod o'r bwrdd

9.      sut i wneud yn siŵr bod canllawiau'r bwrdd yn cael eu dilyn wrth reoli'r fenter gymdeithasol a'i rhedeg

10.  pryd y dylid chyflwyno materion rheoli gerbron y bwrdd

11.  y materion yr ymdrinnir â hwy mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol a sut i alw cyfarfod cyffredinol arbennig

12.  hawliau pleidleisio pob aelod o'r bwrdd

13.  nifer y pleidleisiau sydd eu hangen i gymeradwyo gwahanol fathau o benderfyniadau

14.  sut i wirio bod penderfyniadau'r bwrdd yn gyfreithiol, ac yn cyd-fynd â gweledigaeth, strategaeth a pholisïau'r fenter

15.  pam mae'n bwysig i'r bwrdd gyfathrebu â rhanddeiliaid

16.  sut i ddefnyddio sicrwydd ansawdd i wneud yn siŵr bod rheolwyr ac aelodau'r bwrdd yn cwblhau eu dyletswyddau cyfreithiol gyda gofal a sylw

17.  y camau i'w cymryd os yw'r bwrdd yn methu â gweithredu gyda gofal a sylw

Y gyfraith a rheoliadau

18.  y gyfraith gorfforaethol mewn perthynas â'r fenter gymdeithasol

19.  y manteision a'r anfanteision sy[n gysylltiedig â chael eu hymgorffori a phryd i'w ystyried

Cynllunio strategol

20.  sut i ddatblygu strategaeth y fenter gymdeithasol,

21.  y cynllun strategol sy'n adlewyrchu'r diben a'r weledigaeth sydd wedi'u datgan ar gyfer y fenter gymdeithasol

22.  sut i ddefnyddio'r cynllun strategol i redeg y fenter gymdeithasol

Perfformiad cymdeithasol neu fanteision cymdeithasol

23.  sut i adrodd ar berfformiad cymdeithasol neu fanteision cymdeithasol

24.  yr amcanion masnachol i'w cyflawni

25.  sut mae amcanion cymdeithasol a masnachol yn berthnasol i'w gilydd

Rhanddeiliaid allweddol

26.  pryd i gynnwys rhanddeiliaid allweddol yn y penderfyniadau y mae'r bwrdd yn eu gwneud

27.  sut i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid allweddol am benderfyniadau'r bwrdd

28.  y rhanddeiliaid allweddol sydd ag awdurdod i herio penderfyniadau'r bwrdd a sut y gallant wneud hynny

Gwneud penderfyniadau

29.  sut i ddadansoddi gwybodaeth i nodi patrymau, tueddiadau, blaenoriaethau a materion o ran eu pwysigrwydd a'u brys

30.  sut i wirio dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth wrth wneud penderfyniadau

31.  sut i ddefnyddio gwerthoedd a phwrpas y fenter gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau ynghylch rhedeg y fenter gymdeithasol

32.  sut i ddirprwyo penderfyniadau ond bod yn gyfrifol o hyd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAOP11

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

menter gymdeithasol, cyfarwyddwr bwrdd, rheoli, pwyllgor, ymddiriedolwr, gwybodaeth, deall, rhanddeiliad, gwybodaeth, cyfrifoldeb