Sefydlu a rheoli cynllun pensiwn
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n sefydlu ac yn rheoli cynllun pensiwn. Os yw eich gweithwyr rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, yn ennill o leiaf £10,000 y flwyddyn ac yn gweithio yn y DU, rhaid i fusnesau o bob maint gofrestru eu gweithwyr ar bensiwn gweithle. Gelwir darparu cynllun pensiwn gweithle yn 'gofrestru awtomatig'. Fel cyflogwr byddwch chi a'ch gweithwyr yn cyfrannu swm diffiniedig at gronfa bensiwn y gweithwyr bob mis. Telir hwn drwy ganran ddi-dreth o gyflog y gweithwyr bob mis. Fel cyflogwr, gallwch ddewis cyfrannu mwy at bensiwn eich gweithwyr os ydych yn dymuno, os ydych yn bodloni'r lefelau cyfrannu gofynnol. Mae sefydlu cynllun pensiwn yn golygu gwirio'r meini prawf perthnasol ar gyfer cofrestru awtomatig, hysbysu'r gweithwyr am y dyddiad y cânt eu hychwanegu at y cynllun pensiwn, pwy yw darparwr y pensiwn a'r math o bensiwn dan sylw, faint y byddwch chi a'ch gweithwyr yn ei gyfrannu a sut i adael y cynllun os bydd eich gweithwyr yn dewis gwneud hynny.
Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os:
oes angen sefydlu cynllun pensiwn i weithwyr newydd;
ydych yn adolygu'r cynllun pensiwn presennol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ceisio arweiniad a chyngor gan ffynonellau'r llywodraeth neu gynghorwyr proffesiynol ynghylch sefydlu cynlluniau pensiwn a'u rheoli
- nodi'r cynllun pensiwn a'r darparwr yr ydych am gofrestru eich gweithwyr ar eu cyfer
- nodi eich cyfraniad misol tuag at gronfa bensiwn y gweithwyr
- hysbysu eich gweithwyr yn ysgrifenedig am y math o bensiwn y maent wedi cofrestru ar ei gyfer a darparwr y pensiwn
- rhoi gwybodaeth i staff am eu cyfraniadau pensiwn misol a sut bydd y didyniad cyflogres yn gweithio
- cynnig cyfle i'ch gweithwyr amrywio'r swm y maent am ei gyfrannu at eu cronfa bensiwn
- darparu'r holl becynnau gwybodaeth perthnasol i'ch gweithwyr sy'n cynnwys manylion am sut i beidio â bod yn rhan o'r cynllun os ydynt yn dymuno
- dilyn gweithdrefnau perthnasol pan fydd gweithiwr yn dewis rhoi'r gorau i fod yn rhan o'r cynllun y mae wedi cofrestru ar ei gyfer yn awtomatig
- ail-gofrestru eich gweithwyr ar y cynllun os ydynt yn dymuno
- cwblhau datganiad cydymffurfio i hysbysu Rheoleiddiwr y Pensiynau am eu dyletswyddau fel cyflogwr bob 3 blynedd ar ôl gorffen ail-gofrestru
- trefnu cyfarfod gyda chynrychiolydd y cynllun pensiwn ar gyfer eich gweithwyr
- cyfeirio eich gweithwyr at gynghorydd cymwys os ydynt yn dymuno ymgynghori ymhellach ar eu hawl i bensiwn
- sefydlu dull didyniad cyflogres ar gyfer eich gweithwyr
- cadw cofnodion o ddidyniadau staff o gyflogau a thaliadau i'r cynllun
- cadw cofnodion o unrhyw ohebiaeth neu gyfarfodydd wrth ymgynghori â staff am y cynllun a ddewisir
- gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol o ran cynlluniau pensiwn a chadw eich gwybodaeth yn gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a chyngor
1. ble i gael gwybodaeth am gynlluniau pensiwn
2. y pecynnau gwybodaeth perthnasol a chanllawiau ar y cynllun y mae eich gweithwyr wedi cofrestru ar ei gyfer
3. sut i wirio bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol
4. sut i ddelio â chynrychiolwyr cynlluniau pensiwn neu gynghorwyr ariannol
Deddfau a rheoliadau
5. y ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â chynlluniau pensiwn
6. y meini prawf cymhwyso ar gyfer cofrestru'n awtomatig
7. sut i gadw golwg ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â phensiynau a allai effeithio ar eich busnes
8. datganiad cydymffurfio i Reoleiddiwr y Pensiynau
Cynlluniau pensiwn
9. sut i ddewis darparwr cynllun pensiwn ar gyfer eich busnes
10. uchafswm y taliadau a chosbau y gall darparwr eich cynllun eu codi arnoch ar hyn o bryd
11. pam mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch gweithwyr am y cynllun pensiwn y maent wedi cofrestru ar ei gyfer
12. manylion y cynllun pensiwn y mae angen i chi roi gwybod i'ch gweithwyr amdano
13. sut i ymateb i ymholiadau staff a cheisiadau am ragor o wybodaeth
14. sut i hwyluso cyfarfodydd rhwng darparwr y cynllun a'ch gweithwyr
15. pa gofnodion y mae'n rhaid eu cadw mewn perthynas â chynllun pensiwn gweithwyr
16. sut i gyfrifo pa gyfraniad gan y staff y gall eich busnes ei fforddio, os yn berthnasol
Cyfraniadau pensiwn a chyflogres
17. isafswm y cyfraniad pensiwn i chi fel cyflogwr
18. sut i sefydlu dull didyniad cyflogres
19. sut i roi gwybod i staff yn glir am y ffordd y caiff eu cyfraniadau eu didynnu a'u trin, a phryd y cânt gyfle i adolygu eu taliadau
20. sut i ymateb i geisiadau am ddidyniadau cyflogres
21. pryd caiff cyfraniadau eu hanfon at ddarparwr y cynllun
22. sut y cedwir cofnodion o daliadau a chyfraniadau
23. sut i ychwanegu staff newydd at y cynllun
24. sut i reoli ceisiadau gan staff i newid eu cyfraniadau, rhoi'r gorau i fod yn rhan o'r cynllun neu ail-ymuno â'r cynllun