Datblygu gweithwyr ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen datblygu gweithwyr ar gyfer eu busnes. Bydd helpu pobl i wella eu sgiliau yn caniatáu i'ch busnes gynyddu cynhyrchiant, gwella ansawdd y gwasanaeth neu'r cynhyrchion rydych yn eu cynnig ac yn helpu eich busnes i ddatblygu'n barhaus. Mae datblygu eich gweithwyr yn golygu penderfynu ar eu hanghenion datblygu, cynllunio a gosod targedau ar gyfer datblygu, a chwblhau eu hyfforddiant o fewn y cwmni neu'n allanol.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
wneud eich busnes neu fenter gymdeithasol yn fwy cynhyrchiol;
gwella ansawdd cynnyrch neu wasanaeth eich busnes neu fenter gymdeithasol;
gwneud newidiadau i rolau staff i ddatblygu ac ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;
monitro cynnydd gweithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal adolygiad rheolaidd o anghenion datblygu gweithwyr yn unol â blaenoriaethau ac amcanion y busnes
- casglu gwybodaeth am anghenion datblygu staff a'i defnyddio i wneud penderfyniadau perthnasol
- nodi a chytuno ar anghenion datblygu ar gyfer gweithwyr trwy arfarniad neu drafodaeth
- dadansoddi'r sgiliau sydd eu hangen ac ym mha drefn y mae angen eu dysgu
- cytuno ar nodau dysgu a chwblhau cynllun gweithredu ar gyfer pob gweithiwr
- nodi cyfleoedd hyfforddi priodol sy'n addas i anghenion unigol
- dewis dull hyfforddi, mentora neu ddatblygu sy'n bodloni anghenion dysgu unigol pob gweithiwr
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer datblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad
- datblygu, hyfforddi neu fentora gweithwyr, gan newid y dull yn seiliedig ar adborth neu eu cynnydd
- trefnu hyfforddiant neu ddatblygiad allanol lle na ellir hyfforddi gweithwyr yn eich busnes
- caniatáu i weithwyr ymarfer eu sgiliau, cymhwyso eu gwybodaeth a chael profiad mewn ffordd drefnus
- annog gweithwyr i fyfyrio ar eu datblygiad
- cydnabod llwyddiant unigol a'i wobrwyo
- nodi rhwystrau i ddysgu ac adolygu'r anghenion datblygu
- gwirio cynnydd eich gweithwyr tuag at nodau dysgu a rhoi adborth
- ceisio arweiniad gan arbenigwyr, pan fo angen
- cadw cofnodion cywir, cyfrinachol a chyfredol o anghenion a chynlluniau datblygu
- gwirio bod canlyniadau hyfforddiant a datblygiad o fudd i'ch busnes
- dilyn y deddfau, y rheoliadau a'r arferion gorau perthnasol sy'n ymwneud â datblygu gweithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu gweithwyr
1. y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y cynhyrchion a'r gwasanaethau y mae eich busnes yn eu gwerthu
2. y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am anghenion datblygu gweithwyr unigol
3. yr arfarniadau, adroddiadau adolygu perfformiad, cynlluniau busnes, adborth gan gydweithwyr, rhanddeiliaid a chwsmeriaid
4. sut i nodi'r sgiliau y mae angen i weithwyr eu datblygu
5. sut i bennu targedau ar gyfer datblygiad unigol a chytuno arnynt
6. sut i ysgrifennu cynllun gweithredu a chytuno ar nodau dysgu
7. yr hyfforddiant a ddarperir gennych yn eich busnes trwy hyfforddiant yn y swydd, cyrsiau byr, mentora neu hyfforddi
8. yr hyfforddiant y gall fod angen ei ddarparu'n allanol drwy fynd ar gwrs neu gontractio hyfforddwr allanol
9. yr adnoddau ar gyfer datblygiad gweithwyr, megis amser dysgu, rhaglenni hyfforddi, ffioedd a staff dirprwyol
10. yr ystod o gyfleoedd datblygu, fel dysgu yn y swydd, hyfforddiant o fewn y cwmni, cyrsiau ar-lein, cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth, rhaglenni pwrpasol wedi'u teilwra i anghenion busnes, mentora a hyfforddi
11. ffynonellau gwybodaeth am gyrsiau a digwyddiadau hyfforddi
12. pa gymorth gan y llywodraeth a allai fod ar gael i fusnesau bach, megis grantiau hyfforddi, cyrsiau am ddim neu ddileu ffioedd
13. sut i wirio dealltwriaeth a chynnydd staff unigol
14. sut i werthuso datblygiad staff yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion eich busnes
Mentora a hyfforddi
15. sut i nodi cyfleoedd dysgu a'u paru ag anghenion ac amcanion unigol
16. y mathau o ddysgu trwy hyfforddi neu fentora
17. y gwahanol ddulliau a dewisiadau dysgu yn dibynnu ar anghenion unigol
18. yr adnoddau a'r deunyddiau, a'r dulliau strwythuro gweithgareddau dysgu
19. sut i annog gweithwyr i fyfyrio ar eu cyflawniadau eu hunain
20. sut i nodi'r rhwystrau er mwyn dysgu gwersi a sut i'w goresgyn
21. sut i ddadansoddi a defnyddio datblygiadau ym maes dysgu, gan gynnwys ffyrdd newydd o gyflwyno megis dysgu yn seiliedig ar dechnoleg, dysgu ar-lein ac ati.
22. sut i ysgogi gweithwyr trwy gydnabod eu llwyddiant a'u gwobrwyo
Deddfau a rheoliadau
23. y deddfau, y rheoliadau a'r arferion gorau perthnasol