Monitro perfformiad staff yn eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen monitro perfformiad staff yn eu busnes. Pobl yw'r ased pwysicaf mewn unrhyw fusnes p'un a ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol neu wedi'u his-gontractio. Mae cael y staff cywir, eu hyfforddi a monitro eu perfformiad yn rhan hanfodol o sefydlu busnes a pharhau i'r ddatblygu'n llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys gosod targedau perfformiad, monitro perfformiad staff a'u gwobrwyo am hynny neu ddelio â pherfformiad gwael.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol;
monitro perfformiad staff yn eich busnes neu'ch menter gymdeithasol;
Datblygu staff yn eich busnes neu'ch menter gymdeithasol drwy ehangu neu gynnig cynnyrch neu wasanaethau newydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu'r gwaith sydd ei angen i gyflawni eich amcanion busnes neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
- cynllunio sut bydd staff yn ymgymryd â'r gwaith penodedig o ystyried deddfwriaeth iechyd a diogelwch
- nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'u paru â'r adnoddau sydd ar gael
- gosod targedau i staff sy'n rhoi manylion am yr hyn sydd angen iddynt ei gyflawni
- alinio targedau staff yn erbyn safonau penodol neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
- hysbysu pobl am y gwaith sydd wedi'i ddyrannu ar eu cyfer a pha safon neu lefel a ddisgwylir ar gyfer y perfformiad
- dyrannu gwaith i aelodau staff unigol yn unol â'u sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth, profiad, llwyth gwaith a'r cyfleoedd i ddatblygu
- annog aelodau'r tîm i ofyn cwestiynau, gwneud awgrymiadau a cheisio eglurhad ynghylch y gwaith a ddyrannwyd iddynt
- gwirio ansawdd y gwaith yn rheolaidd yn erbyn safonau gosod neu'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol
- rhoi adborth adeiladol ar berfformiad
- cydnabod perfformiad llwyddiannus a'i wobrwyo
- nodi unrhyw berfformiad gwael
- trafod perfformiad gwael gyda staff gan nodi camau er mwyn gwella
- rhoi cyfle i staff drafod unrhyw broblemau gwirioneddol neu bosibl sy'n effeithio ar eu perfformiad
- trafod y problemau ar adeg ac mewn lle sy'n briodol i natur, difrifoldeb a chymhlethdod y broblem
- defnyddio gwybodaeth a gesglir ar berfformiad unigolion mewn unrhyw broses arfarnu ffurfiol
- nodi a oes angen unrhyw hyfforddiant ychwanegol
- cyfeirio staff at wasanaethau cymorth perthnasol
- cadw parch at yr unigolyn a'r angen am gyfrinachedd
- cadw cofnodion o fanylion personol a pherfformiad yn gwbl gyfrinachol gan gadw at ddeddfwriaeth berthnasol
- adolygu perfformiad staff yn rheolaidd a nodi eu cynnydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Perfformiad staff
1. sut i gynllunio'r gwaith ar gyfer eich staff, gan ystyried materion iechyd a diogelwch wrth gynllunio, dyrannu a gwirio gwaith
2. pam mae'n bwysig hysbysu staff ar y gwaith sydd wedi'i ddyrannu ar eu cyfer
3. y math o dargedau perfformiad, megis Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs), cynhyrchiant, safonau ansawdd, ymatebion cwsmeriaid ac eraill
4. pam mae'n bwysig gosod targedau yn erbyn safonau penodol neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol
5. dulliau gosod y targedau perfformiad
6. sut i asesu cynnydd ac ansawdd y gwaith
7. y dulliau arsylwi, trafod a chael adborth gan gydweithwyr, gan gynnwys cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill
8. sut i roi adborth i unigolion i geisio gwella eu perfformiad
9. sut i alluogi ac annog staff i ofyn cwestiynau, ceisio eglurhad, gwneud awgrymiadau a siarad am eu problemau
10. pam mae'n bwysig nodi perfformiad anfoddhaol neu wael
11. sut i drafod yr hyn sy'n achosi perfformiad gwael a chytuno ar ffyrdd o'i wella
12. sut i gytuno ar gamau gweithredu gydag aelodau unigol staff a'u dilyn
13. y math o broblemau neu ddigwyddiadau annisgwyl a allai ddigwydd a sut i gefnogi staff wrth iddyn nhw ddelio â nhw
14. sut i gofnodi gwybodaeth am berfformiad parhaus staff a defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion arfarnu perfformiad
15. sut i gadw'r cofnodion a'r wybodaeth sydd ynddynt yn gyfrinachol
16. y gwasanaethau cymorth perthnasol a sut i gyfeirio staff at y rhain, pan fo angen
17. sut i ysgogi unigolion drwy nodi llwyddiant a'i wobrwyo
18. y ffiniau wrth ddelio â phroblemau staff unigol
Deddfau a rheoliadau
19. y ddeddfwriaeth berthnasol, y rheoliadau, y canllawiau a'r codau ymarfer sy'n ymwneud â gwneud y gwaith
20. y gofynion ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a galluoedd sy'n berthnasol i'r diwydiant