Is-gontractio gwaith ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen is-gontractio gwaith ar gyfer eu busnes. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bach yn defnyddio adnoddau eraill i gyflawni gwasanaethau megis paratoi cyfrifon, dylunio brand ar gyfer eich busnes, gosod a chynnal a chadw technoleg ac offer arall, gwaredu gwastraff neu gyflenwi cydrannau, deunyddiau, offer neu gyfarpar. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gwasanaethau neu'r cyflenwadau gofynnol gan is-gontractwr. Mae gwaith is-gontractio yn cynnwys cytuno ar gontractau ar gyfer y gwasanaethau a'r cyflenwadau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich busnes, delio â methiannau i fodloni contractau, a thrafod gyda chyflenwyr i wella contractau yn y dyfodol.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
gael sgiliau arbenigol o'r tu allan i'ch busnes neu fenter gymdeithasol ar gyfer swydd sydd angen ei gwneud;
cyflogi rhywun i gwblhau swydd am gyfnod byr gan fod mwy o waith;
dod o hyd i rywun sy'n gallu gwneud y gwaith yn gyflymach neu'n rhatach nag y gallwch chi ei wneud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r sgiliau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch i is-gontractio ar gyfer eich busnes
- sicrhau bod gwasanaethau neu gyflenwadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn diwallu anghenion eich busnes
- sicrhau eich bod chi a'r is-gontractwyr yn deall telerau ac amodau'r contract
- cytuno ar y ffyrdd o gyfathrebu ag is-gontractwyr
- cau pen y mwdwl ar y contract rhwng eich busnes a'r contractwr
- cadarnhau gyda'r is-gontractwyr sut y byddwch yn gwirio bod eu perfformiad yn bodloni'r gofynion
- nodi unrhyw fethiannau i fodloni'r gofynion a'u cofnodi
- datrys unrhyw fethiannau, cofnodi sut y cawsant eu datrys a rhoi gwybod i'r contractwyr
- ceisio cyngor cyfreithiol lle bo angen
- gwneud yn siŵr bod ceisiadau i amrywio telerau'r contract yn rhesymol, yn cael eu cyfiawnhau gan y ffeithiau a'u cofnodi
- trefnu'r taliad sydd i'w wneud yn unol â sut y cyflawnwyd y contract
- egluro a chofnodi'r rhesymau dros unrhyw daliad sy'n wahanol i delerau'r contract gwreiddiol
- cytuno ar unrhyw newidiadau gyda'r contractwyr a rhoi gwybod iddynt am y goblygiadau
- cofnodi unrhyw fethiannau i fodloni gofynion ac unrhyw newidiadau i drefniadau gyda chontractwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Is-gontractio gwaith
1. y telerau ac amodau ar gyfer y contract
2. safonau'r perfformiad mewn gwasanaeth neu'r cyflenwad ar gyfer pob contract
3. sut i asesu a yw perfformiad mewn contract yn bodloni gofynion eich busnes
4. sut i gyfathrebu ag is-gontractwyr a staff perthnasol eraill
5. sut i nodi'r hyn sy'n achosi methiant i fodloni'r perfformiad gofynnol
6. sut i wneud yn siŵr nad yw methiannau'n digwydd eto
7. y ffyrdd o ddatrys methiant i fodloni gofynion drwy gael camau unioni, amrywio'r contract, dechrau trafodaethau rhwng cwsmeriaid ac is-gontractwyr a chael is-gontractwyr amgen
8. y systemau ar gyfer cofnodi amrywiadau mewn perfformiad a'r camau cywiro y cytunwyd arnynt
Deddfau a rheoliadau
9. sut i gael cyngor ynghylch cymryd camau unioni am berfformiad anfoddhaol, gan gynnwys cymryd camau cyfreithiol
10. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gwasanaethau dan gontract