Nodi a sicrhau'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer menter eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen nodi a sicrhau'r sgiliau gofynnol ar gyfer menter eu busnes. Beth bynnag yw maint eich busnes, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod gennych y sgiliau cywir fel bod eich busnes yn gallu darparu ei gynhyrchion neu wasanaethau i'r cwsmer. I wneud hyn, mae angen i chi edrych yn feirniadol ar ba sgiliau sydd eu hangen arnoch a phenderfynu ar y ffordd orau o'u sicrhau. Mae nodi'r sgiliau gofynnol ar gyfer eich busnes yn cynnwys asesu pa sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes, pa sgiliau sydd yn eich busnes ar hyn o bryd, a phenderfynu sut i lenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd ac yn ystyried rolau a chyfrifoldebau;
ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol ac angen penderfynu pa sgiliau fydd eu hangen;
newid neu'n addasu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich busnes neu fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio gweithgareddau gweithredol mewn perthynas â rhedeg a rheoli eich busnes
- nodi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr holl brosesau a gweithdrefnau gweithredol
- asesu pob gweithgaredd yn erbyn y sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd
- nodi'r bylchau mewn sgiliau ar hyn o bryd
- cyfrifo faint y bydd yn ei gostio i'ch busnes hyfforddi staff presennol neu gael staff newydd sy'n meddu â'r sgiliau hynny
- nodi'r ffyrdd gorau o gael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes
- recriwtio gweithwyr newydd sydd â'r sgiliau gofynnol, os oes angen
- datblygu sgiliau presennol eich staff
- nodi pryd mae'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen ar eich busnes yn debygol o newid yn y dyfodol
- cynnal adolygiad rheolaidd o'r sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
- creu cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i chi'ch hun a'ch gweithwyr
- dilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol mewn perthynas â hyfforddi a recriwtio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Anghenion busnes
1. hierarchaeth a chwmpas gweithgareddau gweithredol eich busnes
2. sut i nodi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes, megis rheoli, marchnata a gwerthu, gwasanaeth i gwsmeriaid, gweinyddu a chymorth technegol
3. sut i asesu'r nifer a'r mathau o staff sydd eu hangen
4. yr opsiynau ar gyfer rolau cyswllt mewnol neu allanol y dylid eu hadolygu
Recriwtio
5. dulliau recriwtio staff
6. telerau cyfreithiol cyflogaeth, megis amser llawn, rhan amser, parhaol, dros dro neu is-gontractio gweithwyr allanol
7. sut i asesu costau a manteision gwahanol opsiynau staffio ar gyfer eich busnes
8. costau, ffioedd, cyflogau ychwanegol, diswyddo neu becynnau cymhelliant sy'n gysylltiedig â recriwtio
9. manteision, fel gwerth ychwanegol pobl, cyfleoedd busnes newydd neu gynnydd mewn cymhelliant, datblygiad proffesiynol a dyrchafiad
Datblygu staff
10. cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a chofnodion DPP
11. adolygiadau blynyddol, arfarniadau, cyfarfodydd tîm, adolygiadau un-i-un
12. yr opsiynau ar gyfer hyfforddi staff, cyrsiau o fewn cwmni, rhaglenni ar-lein, gweithgareddau DPP
13. y costau ar gyfer hyfforddi staff
14. pam mae'n bwysig cynnal adolygiad rheolaidd o'r sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd ac yn y dyfodol