Ennill cwsmeriaid ar gyfer eich busnes a'u cadw

URN: INSBE017
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n ennill cwsmeriaid ar gyfer eu busnes ac yn eu cadw. Mae cwsmeriaid yn hanfodol ar gyfer eich busnes. Bydd angen i chi roi cymaint o ymdrech i ennill eich cwsmeriaid a'u cadw â'r hyn a wnewch wrth ddarparu cynnyrch neu wasanaethau. Bydd gweithio'n agos gyda'ch cwsmeriaid i ddeall eu cymhellion a'u hanghenion yn cyfrannu at eu cadw. Ar ben hynny, byddwch yn gallu arloesi i ddenu cwsmeriaid newydd. Bydd sefydlu eich busnes sy'n rhoi eich cwsmeriaid yn gyntaf yn helpu i'ch cadw gam o flaen y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn ac yn ennill teyrngarwch amhrisiadwy gan gwsmeriaid. Mae dal gafael ar gwsmeriaid yn golygu deall pwy yw eich cwsmeriaid, ymchwilio i'w hanghenion, datblygu perthynas dda â nhw, ceisio eu hadborth ar eich cynhyrchion neu wasanaethau, ceisio gwella'r gwasanaeth y mae eich busnes yn ei ddarparu yn barhaus, yn ogystal ag atgoffa cwsmeriaid pam y dylent barhau i ddefnyddio eich busnes.

Gallech wneud hyn os ydych yn:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;

  2. rhedeg busnes neu fenter gymdeithasol ar hyn o bryd;

  3. ehangu eich busnes neu eich menter gymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio'r cwsmeriaid sydd gennych a darpar gwsmeriaid
  2. ymchwilio i anghenion gwahanol grwpiau neu fathau o gwsmeriaid, a'u coladu
  3. nodi anghenion eich cwsmeriaid ar hyn o bryd a'u gofynion posibl yn y dyfodol
  4. ystyried a yw eich cynhyrchion neu wasanaethau yn apelio at y cwsmeriaid sydd gennych ar hyn o bryd neu ddarpar gwsmeriaid
  5. nodi pam mae cwsmeriaid yn dewis gweithio gyda'ch busnes neu brynu eich cynnyrch neu wasanaethau
  6. adnabod y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a nodi eich mantais gystadleuol i'ch cwsmeriaid
  7. diffinio eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau a chyflwyno'r rhain i'ch cwsmeriaid
  8. cynghori eich cwsmeriaid ar sut rydych chi'n ceisio diwallu eu hanghenion
  9. esbonio datblygiadau newydd posibl i'ch cwsmeriaid
  10. gwneud yn siŵr bod eich strategaeth farchnata yn cyd-fynd ag anghenion a dewisiadau eich cwsmeriaid
  11. sefydlu seilwaith eich busnes i geisio sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y boddhad mwyaf posibl
  12. cyfrannu at ddal gafael ar gwsmeriaid drwy ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid
  13. annog a gwobrwyo teyrngarwch cwsmeriaid
  14. gwella cynhyrchion a gwasanaethau i'ch cwsmeriaid i fodloni a mynd y tu hwnt i'w disgwyliadau
  15. atgyfnerthu hyder eich cwsmeriaid eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir drwy ddewis eich cynnyrch neu eich gwasanaethau
  16. annog adborth gan eich cwsmeriaid a gweithredu arno
  17. adolygu eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn rheolaidd a gwneud newidiadau lle bo angen
  18. cadw golwg ar y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfau a rheoliadau perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Marchnad

1.      sut i nodi'r lle ar gyfer eich busnes yn y farchnad

2.      y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gwsmeriaid er mwyn i chi allu teilwra eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau

3.      sut i ddosbarthu eich cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion a'u gwerth i'ch busnes

4.      y wybodaeth am y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn, megis sut mae eich cynnyrch neu wasanaeth yn wahanol i'w rhai nhw, eu cryfderau a'u gwendidau, eu prisiau am gynhyrchion neu wasanaethau tebyg

5.      nodau eich busnes, eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau

6.      y ffordd orau o roi gwybodaeth i'r cwsmeriaid sydd gennych ar hyn o bryd a darpar gwsmeriaid

Seilwaith busnes

7.      effaith seilwaith eich busnes ar ansawdd y gwasanaeth a roddir i gwsmeriaid

8.      y systemau TG a chyfathrebu perthnasol, prosesau bilio neu brosesau rheoli perthynas â chwsmeriaid

Profiad cwsmeriaid a'u hadborth

9.      sut i feithrin perthynas â'ch cwsmeriaid i fodloni eu disgwyliadau a mynd y tu hwnt iddynt

10.  sut gallwch wella'r profiad y mae eich cwsmeriaid yn ei gael wrth ddelio â'ch busnes

11.  ystod y gwasanaethau, y manteision a'r gwobrau y gallwch eu cynnig i'ch cwsmeriaid, megis bod ar gael ar eu cyfer, teilwra cynhyrchion neu wasanaethau i ddiwallu eu hanghenion penodol a chynnig gostyngiadau i gwsmeriaid am eu teyrngarwch

12.  sut i atgoffa cwsmeriaid yn rheolaidd o fanteision delio â'ch busnes

13.  y mathau o adborth i'w cael gan gwsmeriaid

14.  y dulliau cael adborth gan gwsmeriaid

15.  sut i gymryd camau ar sail adborth gan gwsmeriaid

16.  pam mae angen i chi adolygu eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn rheolaidd

17.  sut i gadw eich cwsmeriaid yn well a chynyddu eu boddhad

18.  y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAEE2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW