Gosod nodau ar gyfer eich menter busnes a'u cyflawni

URN: INSBE016
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen gosod nodau ar gyfer eu menter fusnes a'u cyflawni. I fod yn llwyddiannus, mae angen i chi fod yn bendant ynghylch ble rydych chi am i'ch busnes fynd. Mae gweledigaeth glir o'ch lle yn y farchnad a'ch dyfodol yn eich helpu i ymateb i newidiadau y tu mewn a'r tu allan i'ch busnes.  Byddwch yn gallu mynd i'r afael â'r heriau a gyflwynir i chi ar unrhyw adeg benodol. Mae cael gweledigaeth a nodau yn golygu y gallwch ddeall unrhyw ffactorau a allai effeithio ar eich busnes, manteisio i'r eithaf ar eich cyfleoedd busnes a rheoli'r risgiau. Mae gosod eich nodau busnes a'u cyflawni yn cynnwys egluro diben, natur a gwerthoedd eich busnes, cydnabod cyfleoedd busnes a'u creu, gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, adolygu a monitro cynnydd eich busnes yn erbyn y nodau yn rheolaidd.

Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol am y tro cyntaf;

  2. adolygu'r cynllun busnes presennol;

  3. gwneud newidiadau i gyfeiriad eich busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod natur eich busnes a'i bwrpas
  2. diffinio'r gwerthoedd sy'n sail i'ch busnes
  3. nodi cyfeiriad eich busnes a'i le yn y farchnad
  4. sicrhau bod eich gweledigaeth yn cyd-fynd â chynlluniau datblygu'r busnes
  5. rhannu eich gweledigaeth â rhanddeiliaid sy'n hanfodol i'ch busnes
  6. gofyn am adborth gan gwsmeriaid, staff neu randdeiliaid wrth geisio gwireddu eich gweledigaeth
  7. chwilio am gyfleoedd busnes newydd
  8. creu cyfleoedd busnes lle nodir lle yn y farchnad
  9. nodi datblygiadau busnes posibl a sut gallai'r rhain effeithio ar eich busnes
  10. diffinio manteision ychwanegol cyfleoedd busnes posibl
  11. dyrannu'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni nodau eich busnes
  12. asesu unrhyw risgiau posibl a lleihau effeithiau andwyol ar eich busnes
  13. datblygu cynllunio wrth gefn ar gyfer eich busnes
  14. nodi camau gweithredu ar gyfer cyflawni nodau eich busnes
  15. gwerthuso eich cynnydd tuag at gyflawni eich nodau
  16. coladu'r gwersi a ddysgwyd a diweddaru camau gweithredu
  17. adolygu nodau eich busnes yn rheolaidd
  18. cadw golwg ar y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer rhedeg eich busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Nodau busnes

1.      natur eich busnes a'i ddiben

2.      y gwerthoedd sy'n sail i'ch busnes a sut maent yn cyd-fynd â'ch nodau

3.      lle gallai eich busnes ffitio yn y farchnad

4.      yr hyn y mae angen i chi ei wneud i gyflawni nodau eich busnes

5.      y staff, y cwsmeriaid a'r rhanddeiliaid perthnasol i gyfrannu at eich busnes

6.      sut i sicrhau bod eich nodau'n cael eu cyfleu i bawb sy'n cymryd rhan

7.      sut i fonitro ac addasu eich cynlluniau busnes a'ch datblygiad i ategu eich nodau

8.      y dulliau mesur ar gyfer sicrhau bod eich busnes yn symud tuag at gyflawni nodau eich busnes

Cyfleoedd busnes

9.      yr heriau a'r cyfleoedd yn amgylchedd eich busnes

10.  goblygiadau unrhyw fenter newydd i gyfeiriad, delwedd a nodau eich busnes

11.  sut i nodi cyfleoedd newydd i'ch busnes

12.  y camau i'w cymryd ar gyfer mynd ar drywydd y cyfleoedd a gyflwynir

13.  y gwersi a ddysgwyd o lwyddiannau neu fethiannau busnes blaenorol

14.  sut i gasglu a defnyddio tystiolaeth i ategu eich penderfyniadau

15.  sut i nodi'r risgiau a'u hasesu yn erbyn gwahanol gamau gweithredu

16.  sut i werthuso cynnydd eich busnes a pham mae'n bwysig adolygu eich nodau yn rheolaidd

17.  y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer rhedeg eich busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAEE1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW