Dod o hyd i gyflenwyr ar gyfer eich busnes

URN: INSBE015
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen dod o hyd i gyflenwyr ar gyfer eu busnes. Mae prynu'r cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch am y pris, yr amser a'r ansawdd cywir yn effeithio ar faint o elw mae eich busnes yn ei wneud. Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â chyfleustodau (fel nwy, dŵr a thrydan) a thechnolegau perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer eich busnes. Os ydych chi'n defnyddio cyflenwadau'n rheolaidd, bydd rheoli stoc, gan gynnwys pryd ac o ble rydych chi'n prynu deunyddiau, yn bwysig. Mae dod o hyd i gyflenwyr ar gyfer eich busnes yn golygu datblygu dealltwriaeth glir o'r hyn sydd ei angen i gyflawni cynllun eich busnes, gwneud penderfyniadau prynu, a chymharu prisiau, gwerth gorau, ansawdd a dibynadwyedd gwahanol gyflenwyr.

Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;

  2. dod o hyd i gyflenwr newydd a chytuno ar delerau ar gyfer darn newydd o gyfarpar wrth ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;

  3. newid y cyflenwyr yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd i gynyddu elw'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich busnes neu fenter gymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch i gyflawni nodau eich busnes
  2. nodi unrhyw galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol sydd eu hangen ar gyfer eich menter
  3. creu rhestr sy'n manylu ar y cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch a phryd
  4. ymchwilio i wahanol gyflenwyr cyfarpar, offer a deunyddiau
  5. cymharu gwahanol opsiynau rhwng cyflenwyr
  6. cyfrifo costau a manteision cyfarpar, offer a deunyddiau gan wahanol gyflenwyr
  7. gosod y targedau a'r uchafswm ar gyfer prynu cyflenwadau
  8. blaenoriaethu a chydbwyso opsiynau yn erbyn eich anghenion
  9. asesu'r effaith a gaiff cytundebau ar elw gwerthu a phroffidioldeb
  10. cytuno ar y costau a'r telerau ar gyfer prynu'r cyflenwadau
  11. cadw cofnodion o gytundebau gyda chyflenwyr
  12. gwirio beth yw'r deddfau a'r rheoliadau ar gyfer cyflenwadau i'ch busnes
  13. trefnu i'r cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau gael eu cyflenwi
  14. nodi unrhyw gyflenwadau rheolaidd a chynnwys y rhain yn eich cynlluniau ariannol
  15. defnyddio systemau i gofnodi eich cyflenwadau a rheoli stoc
  16. cydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol mewn perthynas â chyfarpar, offer a deunyddiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Canolbwyntio ar fusnes

1.      nodau eich busnes o ran cynnyrch, cyfran o'r farchnad, proffidioldeb prisiau, llif arian, trosiant a ragwelir, cyfalaf ac asedau

Cyflenwadau

2.      y cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes

3.      y wybodaeth berthnasol am y cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau, megis gwybodaeth gyfrifo, cwsmeriaid, cyflenwyr, gwybodaeth am y farchnad, llyfr archebion a rhagolygon gwerthiant

4.      y dodrefn, y gosodiadau a'r ffitiadau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes

5.      cyflenwadau swyddfa, gan gynnwys cyfrifiaduron, deunydd ysgrifennu, mannau storio a systemau ffeilio

6.      y cyfleustodau, fel nwy, dŵr a thrydan

7.      yr adnoddau i'w defnyddio wrth brynu cyflenwadau

8.      sut i sicrhau gwerth gorau am arian, ansawdd a dibynadwyedd wrth brynu cyflenwadau

9.      sut i gyfrifo costau llawn cyflenwadau, er enghraifft, prisiau cyflenwadau, trin a storio stoc, danfoniadau hwyr ac yswiriant

10.  dadansoddiad budd o ran cost gwahanol gyfarpar, offer a deunyddiau

11.  sut i gymharu canlyniadau'r dadansoddiad â faint o elw a ddisgwylir gennych

12.  yr amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cael cyfarpar, fel dewis rhwng prynu cyfarpar newydd, ail-law neu logi

13.  y wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod am gyflenwyr, megis eu prisiau, costau cudd, ansawdd, dibynadwyedd, yr isafswm o ran archebu, amser dosbarthu a thelerau talu

14.  costau llawn cyflenwadau, pris cyflenwadau, trin a storio stoc, danfoniadau hwyr ac yswiriant

15.  sut i leihau gwariant ar beiriannau a chyfarpar ymlaen llaw

16.  sut i wneud defnydd da o gyfalaf gweithio

Rheoli stoc

17.  sut i reoli eich cyfarpar, offer a deunyddiau

18.  sut i gyfrifo lefelau stoc a'u rheoli

19.  pa mor hir mae eich cyflenwadau'n para

20.  sut i storio eich cyfarpar, offer a deunyddiau

21.  sut i leihau gwastraff a chael gwared ar gynnyrch gwastraff mewn ffordd ecogyfeillgar

22.  sut i gadw cofnodion o'ch stoc

23.  sut i storio offer a deunyddiau a chynnal a chadw cyfarpar yn ddiogel

Deddfau a Rheoliadau

24.  y deddfau a'r rheoliadau perthnasol mewn perthynas â chyfarpar, offer a deunyddiau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABS1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW