Rhedeg busnes gartref
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n rhedeg busnes gartref. Gallwch weithio gartref wrth i chi adeiladu busnes cyn symud i safle ar wahân neu weithio gartref yn y tymor hir i weddu i'ch sefyllfa ariannol neu'ch ffordd o fyw. Mae sawl her i redeg busnes gartref, gan gynnwys cael caniatâd, yswiriant, talu ardrethi busnes a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol. Mae rhedeg busnes gartref yn golygu gweithio mewn ffordd sy'n cyd-fynd orau ag anghenion eich busnes a'ch bywyd preifat, gan ragamcanu lefel y proffesiynoldeb sydd ei hangen ar gyfer eich busnes a rheoli disgwyliadau eich teulu, ffrindiau a chwsmeriaid. Efallai y bydd angen i chi dalu'r ardrethi busnes ar y rhan o'ch eiddo rydych chi'n ei defnyddio ar gyfer eich busnes.
Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;
rhedeg busnes neu fenter gymdeithasol gartref neu o bell;
symud o safle presennol eich busnes i weithio gartref.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r ardrethi busnes y mae angen i chi eu talu ar y rhan o'ch cartref a ddefnyddir ar gyfer eich busnes
- ymchwilio i'r mathau perthnasol o ganiatâd sydd eu hangen arnoch, a'u nodi, ar gyfer rhedeg eich busnes gartref neu o bell
- nodi a oes angen trwyddedau arnoch i redeg eich busnes gartref neu o bell
- prynu yswiriant busnes addas i dalu am y gwaith rydych yn ei wneud gartref
- nodi'r oriau gwaith sydd fwyaf addas i chi a'ch busnes
- cynnwys eich costau busnes yn eich ffurflen hunanasesu flynyddol ar gyfer treth
- cadw cofnodion o dreuliau cymwys er mwyn eu hawlio, megis treth y cyngor, gwres, goleuadau, galwadau ffôn a band eang
- nodi a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar y rhan o'ch eiddo rydych yn ei defnyddio ar gyfer busnes pan fyddwch yn ei werthu
- sicrhau bod cyn lleied o ymyrraeth a tharfu â phosibl ar weithgareddau eich busnes
- cynnal cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol
- dewis lleoedd i gwrdd â'ch cwsmeriaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid
- sicrhau bod y cyfleusterau a'r cyfarpar yn cydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol
- ceisio cyngor ynghylch rhedeg eich busnes gartref pan fydd ei angen arnoch
- arddangos unrhyw arwyddion gofynnol sy'n gysylltiedig â'ch busnes
- ymuno â grwpiau rhwydweithio
- cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â rhedeg eich busnes gartref neu o bell
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Chi eich hun
1. eich oriau gwaith a phatrymau gweithgareddau
2. sut i gadw ffocws a chymhelliant wrth weithio gartref neu o bell
3. sut i gydbwyso'ch gwaith a'ch bywyd personol wrth weithio gartref neu o bell
Canolbwyntio ar fusnes
4. delwedd broffesiynol eich busnes a sut i'w chynnal wrth weithio gartref neu o bell
5. yr yswiriant busnes a'r mathau o ganiatâd sydd eu hangen arnoch i redeg eich busnes
6. yr ardrethi busnes y mae angen i chi eu talu a sut i gael gwerth ardrethol yn rhan o'ch cartref
7. y ffactorau a allai effeithio ar eich busnes wrth weithredu gartref neu o bell
8. sut i osgoi ymyrraeth ac aflonyddwch
9. y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer rhedeg eich busnes gartref ac o bell.
10. y manteision o fod yn fusnes o bell neu gartref yn hytrach na un mewn swyddfa
11. y cyfleusterau anfon negeseuon a'r opsiynau ar gyfer galwadau ffôn y tu allan i'ch oriau gwaith
12. cyfleusterau storio, ffeilio, gweithfannau a'r cyfarpar arall sydd eu hangen arnoch i redeg eich busnes gartref neu o bell
13. y technolegau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gweithio gartref neu o bell
14. y ffyrdd o ddiogelu eich mannau gwaith, systemau cyfrifiadurol ac offer
15. y lleoedd addas ar gyfer cael cyfarfodydd gyda'ch cwsmeriaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid
16. y mannau casglu a'r danfoniadau ar gyfer eich busnes, os yw'n berthnasol
17. manteision rhwydweithio wrth redeg busnes gartref neu o bell
Y gyfraith a rheoliadau
18. y gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â rhedeg eich busnes gartref neu o bell
19. yr arwyddion y mae angen eu harddangos i gydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol