Contract ar gyfer safle busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cael contract ar gyfer safle busnes. Mae cael contract ar gyfer safle newydd yn ymrwymiad sylweddol o ran arian parod y bydd busnes yn ei wneud. Mae bod yn ymrwymiad ariannol yn golygu ysgwyddo cyfrifoldeb dros eiddo y mae angen cytuno arno o dan y telerau contractaidd cywir a thros gyfnod priodol. Mae angen ei yswirio, ei gynnal, ei lanhau a'i gynhesu hefyd. Mae trafodaethau gyda landlordiaid masnachol i sicrhau'r safle cywir yn wahanol i brynu tŷ. Mae contractio ar gyfer eiddo busnes yn cynnwys trafod telerau ac amodau buddiol prynu neu brydlesu, nodi ffynonellau perthnasol o gyngor a gwybodaeth broffesiynol, a chael ymrwymiad gan gefnogwyr neu bartïon perthnasol eraill.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
cytuno ar gontract ar gyfer safle wrth gychwyn busnes neu fenter gymdeithasol;
ystyried symud i safleoedd busnes newydd;
adolygu contract eich safle presennol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r telerau ac amodau y mae angen i'ch busnes eu cael
- asesu telerau ac amodau'r safle rydych chi wedi'i ddewis
- diffinio'r targedau trafod yr ydych am geisio eu cyflawni
- trafod telerau ac amodau contract eiddo gyda'r landlord neu ei asiant
- cyfrifo faint fyddai cael safle a'i redeg yn ei gostio i gyd i'ch busnes cyn i chi lofnodi'r dogfennau
- defnyddio cyngor proffesiynol i'ch helpu i wneud penderfyniad contractio
- cofnodi'r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd
- sicrhau bod y contract yn dangos rolau a chyfrifoldebau'r holl bartïon dan sylw
- cael cytundeb gan unrhyw gefnogwyr neu bartïon perthnasol eraill cyn i chi lofnodi contractau ar gyfer y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Telerau ac amodau
1. y mathau o delerau ac amodau contractaidd ar gyfer safle busnes, megis prydles hirdymor, trwydded, prydles tymor byr, rhentu, prynu rhydd-ddaliad neu ofod gwaith a reolir
2. y gwasanaethau a ddarperir o fewn y contract a phwy sy'n talu amdanynt
3. y gosodiadau a'r ffitiadau sydd eu hangen ar gyfer y safle
4. pwy sy'n gyfrifol am ddodrefnu, cynnal a chadw ac addurno safleoedd
5. taliadau a chostau'r safle sydd i'w talu, megis yswiriant, cyfraddau masnachol, gwaredu gwastraff a thaliadau eraill i lywodraeth leol
6. y deddfau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i safle eich busnes
7. pam mae'n bwysig cymryd cyngor cyfreithiol cyn i chi lofnodi unrhyw gontractau
Trafod
8. pam mae angen i chi osod targedau trafod cyn i chi ddechrau trafodaethau
9. sut i gael y fargen orau i'ch busnes
10. pwysigrwydd sgiliau trafod
11. pam mae angen i chi gofnodi'r hyn a drafodwyd a'r hyn y cytunwyd arno
12. y rhanddeiliaid a'r staff perthnasol fydd yn rhan o'r penderfyniadau neu'n cael gwybod am safle'r busnes
Sefyllfa ariannol
13. amcangyfrif o gostau'r addasiadau, addurniadau, dodrefnu, cyfarpar a symud sydd eu hangen ar gyfer eich safle