Dod o hyd i safle busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen dod o hyd i safle busnes. Wrth ddewis safle ar gyfer eich busnes mae angen i chi feddwl yn ofalus am eich anghenion eich hun a'ch busnes. Mae'r math o safle sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych, a materion eraill fel, a oes angen i chi fod yn agos at eich cwsmeriaid neu gyflenwyr, neu faint o le y bydd ei angen arnoch ar gyfer cyfarpar neu storio. Bydd amodau'r brydles a'r gost hefyd yn cael effaith sylweddol ar eich busnes. Mae cael safle yn ymrwymiad sylweddol ac mae angen prydles neu gontract fel arfer. Felly, bydd angen i chi hefyd chwilio am wybodaeth berthnasol a chynghorwyr cymwys addas. Mae dod o hyd i safle busnes yn cynnwys asesu'r effaith y bydd safle yn ei chael arnoch chi a'ch busnes, adolygu eich anghenion busnes a'u paru â safle sydd ar gael, gan gynnwys cael mynediad at wybodaeth a chyngor proffesiynol perthnasol.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;
adolygu eich safle presennol;
ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;
newid neu addasu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich busnes neu fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi eich gofynion busnes ar gyfer y safle
- canfod unrhyw ofynion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar eich anghenion ar gyfer safle busnes
- penderfynu ar y math o safle sydd ei angen ar gyfer eich busnes
- cymharu lleoliadau posibl ar gyfer eich busnes
- diffinio'r gofynion o ran gofod, storio a mynediad ar gyfer eich safle
- diffinio gofynion mynediad safle
- diffinio ffactorau eraill safle i fodloni gofynion eich busnes
- adolygu gwahanol safleoedd i'w paru ag anghenion eich busnes
- nodi unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyd-fynd ag anghenion eich busnes
- adolygu'r telerau ac amodau, a chost y safle
- asesu effaith costau, a thelerau ac amodau ar eich busnes
- cael cyngor ynghylch y safle gan gynghorwyr cyfreithiol, eiddo ac arbenigol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Canolbwyntio ar fusnes
1. pa fath o safle sydd ei angen ar eich busnes o ran gofod, storio a gofynion mynediad
2. caniatâd cynllunio, datblygiadau a ganiateir a newidiadau o ran gofynion defnydd eich awdurdod lleol
Ymchwil
3. yr opsiynau ar gyfer dod o hyd i safle i gyd-fynd ag anghenion eich busnes
4. pam mae lleoliad penodol yn gweddu i'ch anghenion busnes
5. manteision gwahanol leoliadau a ffactorau eraill o ran eu cyfleustra
Sefyllfa ariannol
6. sut allai'r safle effeithio ar gostau sefydlog, llif arian a'r elw a enillir gan eich busnes
7. sut i gyfrifo costau a manteision symud i safle
8. y costau ariannol ar gyfer cynnal a chadw, yswiriant, diogelwch, cyfraddau masnachol a threthi eraill, ffioedd, dodrefnu ac addurno
9. telerau ac amodau contractaidd eich safle busnes
Gwybodaeth a chyngor
10. lle i gael gwybodaeth am safle addas
11. y wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch am gontractau a phrydlesi
12. sut i wirio bod y wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfoes
13. sut i ddelio ag eiddo a chynghorwyr proffesiynol