Cael deunyddiau sydd eu hangen i reoli gwybodaeth busnes

URN: INSBE010
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cael deunyddiau i reoli gwybodaeth busnes. Mae'n cynnwys monitro'r deunyddiau sydd eu hangen, cael gafael arnynt a'u gwella i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth busnes cyfoes. Gall y deunyddiau gynnwys deunyddiau cyfeirio ar bapur, yn ogystal â ffynonellau eraill mewn fformat digidol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r mathau o ddeunyddiau gwybodaeth sydd eu hangen ar eich cwsmeriaid
  2. adolygu'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer rheoli gwybodaeth busnes
  3. ymgynghori â defnyddwyr deunyddiau ar beth sydd o dan sylw yn y wybodaeth
  4. coladu'r gofynion ar gyfer deunyddiau gwybodaeth
  5. nodi unrhyw dueddiadau neu ddatblygiadau o ran dosbarthu deunyddiau gwybodaeth
  6. nodi'r adnoddau sydd ar gael i gael gafael ar y deunyddiau gwybodaeth
  7. pennu fformat y deunyddiau gwybodaeth i'w dosbarthu a'u cyhoeddi
  8. penderfynu ar ddulliau addas i gael gafael ar y deunyddiau gwybodaeth
  9. cydymffurfio â gweithdrefnau ar gyfer cyrchu deunyddiau gwybodaeth a chael gafael arnynt
  10. cytuno ar amserlenni realistig ac adnoddau ar gyfer cael gafael ar y deunyddiau gwybodaeth
  11. cael gafael ar ddeunyddiau gwybodaeth addas sy'n cyfrannu at gynnyrch neu wasanaeth y busnes
  12. nodi unrhyw broblemau o ran cael gafael ar y deunyddiau gwybodaeth
  13. cofnodi a storio'r deunyddiau gwybodaeth gan ddefnyddio'r systemau priodol
  14. cynnal y deunyddiau gwybodaeth i fodloni gofynion y cwsmeriaid
  15. diogelu ffynonellau gwybodaeth rhag difrod a defnydd amhriodol neu newid
  16. cytuno ar feini prawf gwerthuso i fesur effeithiolrwydd deunyddiau gwybodaeth
  17. asesu effeithiolrwydd cyffredinol y deunyddiau gwybodaeth yn erbyn y meini prawf gwerthuso y cytunwyd arnynt
  18. nodi unrhyw agweddau ar y deunyddiau gwybodaeth y gellid eu gwella neu eu diweddaru
  19. nodi'r dulliau mwyaf priodol ar gyfer gwella'r deunyddiau gwybodaeth
  20. nodi'r adnoddau sydd eu hangen i roi'r gwelliannau ar waith
  21. cyflwyno rhesymeg glir dros y gwelliannau gan ddefnyddio tystiolaeth addas
  22. ymgynghori ar y gwelliannau â'r holl randdeiliaid perthnasol
  23. cofnodi canlyniadau'r ymgynghoriad a'u hymgorffori yn eich deunyddiau gwybodaeth
  24. sicrhau bod y deunyddiau gwybodaeth ac unrhyw welliannau arfaethedig yn cydymffurfio â deddfwriaeth, codau ymarfer, canllawiau a gofynion moesegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Deunyddiau gwybodaeth

1.      y mathau o ddeunyddiau gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth y busnes

2.      yr agweddau ar gynnyrch neu wasanaeth y busnes y mae angen i'r deunyddiau gwybodaeth eu cynnwys

3.      y mathau o gwsmeriaid sy'n defnyddio eich deunyddiau gwybodaeth

4.      fformat y deunyddiau gwybodaeth

5.      sut i gael manylion am y defnydd a wneir o ddeunyddiau gwybodaeth

6.      gofynion posibl y deunyddiau gwybodaeth

7.      yr amrywiadau tymhorol neu amrywiadau eraill yn y galw am ddeunyddiau gwybodaeth

8.      sut i ymchwilio i'r gofynion ar gyfer deunyddiau gwybodaeth

9.      y mathau o dueddiadau neu ddatblygiadau a allai ddigwydd i ddylanwadu ar ddiweddariad

10.  sut i asesu effaith technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ar ddeunyddiau

11.  y canllawiau, dulliau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyrchu deunyddiau gwybodaeth a chael gafael arnynt

12.  y ffactorau a allai effeithio ar yr amserlenni ar gyfer cael gafael ar ddeunyddiau gwybodaeth

13.  yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cael gafael ar ddeunyddiau gwybodaeth

14.  sut i asesu cyfraniad y deunyddiau gwybodaeth i'r cynnyrch neu'r gwasanaeth

15.  y mathau o broblemau a allai ddigwydd a'r camau i'w datrys

16.  y systemau ar gyfer cofnodi a storio deunyddiau gwybodaeth

17.  pam mae'n bwysig defnyddio systemau'r sefydliad

Cynnal a gwella'r defnydd a wneir o ddeunyddiau gwybodaeth

18.  pa mor aml y dylid diweddaru'r deunyddiau gwybodaeth

19.  pwy ddylai fod yn gysylltiedig ag adolygu'r deunyddiau gwybodaeth

20.  sut i ddiogelu gwahanol fathau a fformatau o ddeunyddiau gwybodaeth

21.  y mathau posibl o ddifrod a allai ddigwydd i ddeunyddiau gwybodaeth

22.  sut gallai deunyddiau gwybodaeth gael eu defnyddio neu eu newid yn amhriodol

23.  y manylion y gellir eu casglu am effeithiolrwydd y deunyddiau gwybodaeth

24.  yr agweddau ar y deunyddiau gwybodaeth y dylid eu gwella

25.  sut i ddadansoddi effeithiolrwydd deunyddiau gwybodaeth

26.  y meini prawf ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd deunyddiau gwybodaeth

27.  sut i wella a diweddaru gwahanol fathau o ddeunyddiau gwybodaeth

28.  pa fathau o welliannau a diweddariadau y gellid eu hawgrymu

29.  yr adnoddau ar gyfer rhoi gwelliannau a diweddariadau ar waith

30.  pam mae'n bwysig rhoi sail resymegol glir ar gyfer gwelliannau a diweddariadau

31.  pa fathau o dystiolaeth a allai fod yn angenrheidiol i ategu'r rhesymeg dros wneud gwelliannau a diweddariadau

32.  â phwy y dylid ymgynghori ynglŷn â gwelliannau a diweddariadau i ddeunyddiau gwybodaeth

33.  y systemau a'r gweithdrefnau ar gyfer cofnodi gwerthusiadau, y defnydd a wneir o ddeunyddiau gwybodaeth

Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol

34.  y gofynion cenedlaethol, lleol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol sy'n ymwneud â chyfle cyfartal, gwahaniaethu, iechyd a diogelwch, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data

35.  pam mae'n bwysig cydymffurfio â gofynion cyfreithiol

36.  y goblygiadau a ddaw yn yn sgîl peidio â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol

37.  ble i gael gafael ar wybodaeth am ofynion cyfreithiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABI4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

lbusnes, gwybodaeth, ymholiadau, cleientiaid, anghenion, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaethau, nodi, cwestiynau, cyflwyno, cynnyrch, llwyddiant, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, ymchwil, datblygu, dadansoddi, adrodd, canlyniadau, staff, gweinyddu