Rheoli a phrosesu gwybodaeth sy'n cynorthwyo busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n rheoli ac yn prosesu gwybodaeth sy'n cynorthwyo busnes. Mae ymdopi â gweithdrefnau gweinyddol o ddydd i ddydd yn bwysig er mwyn rhoi gwybodaeth cymorth busnes i'ch cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys cynnal dyddiaduron, cofnodion cysylltiadau cleientiaid a thasgau dilynol. Mae'n cynnwys trefnu deunyddiau gwybodaeth, a gweinyddu gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo a darparu gwasanaethau cymorth busnes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal cofnodion cwsmeriaid yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a chanllawiau'r sefydliad
- defnyddio system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) eich sefydliad i gadw cofnodion
- defnyddio'r systemau perthnasol ar gyfer cynllunio a rheoli eich gweithgareddau eich hun a gweithgareddau cydweithwyr eraill
- sicrhau bod y deunyddiau gwybodaeth angenrheidiol ar gael er mwyn i'r gwasanaeth cymorth busnes allu gweithredu o ddydd i ddydd
- paratoi deunyddiau i hysbysu cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill am y gwasanaethau cymorth busnes rydych yn eu darparu
- storio deunyddiau busnes yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- cyflenwi deunyddiau i gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill
- cynllunio a threfnu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau i ddarparu gwasanaethau cymorth busnes
- datrys problemau sy'n gysylltiedig â chyfarfodydd a digwyddiadau
- cylchredeg cofnodion cyfarfodydd neu ddigwyddiadau neu roi mynediad atynt
- cyfrannu at gyflwyno gwasanaethau cymorth busnes mewn ffordd sy'n egluro ac yn hyrwyddo'r manteision a'r gweithgareddau a gynigir
- sicrhau bod eich gweithgareddau'n ategu ac yn hyrwyddo gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid
- dilyn safonau ansawdd eich sefydliad mewn perthynas â gwasanaeth i gwsmeriaid
- cynnal diogelwch a chyfrinachedd wrth storio a phrosesu gwybodaeth cymorth busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
1. sut i wrando a chwestiynu, crynhoi a chyfnewid gwybodaeth i nodi anghenion cwsmeriaid
2. sut i drafod anawsterau, eu herio a mynd i'r afael â nhw
3. gofynion eich cydweithwyr a'ch cysylltiadau a'r ffyrdd o weithio sydd orau ganddynt
Cofnodion cwsmeriaid
4. y ddeddfwriaeth berthnasol a'r canllawiau sefydliadol o ran storio cofnodion eich cwsmeriaid a'u cynnal
5. sut i sefydlu cofnodion, eu cynnal, monitro cysylltiadau a gwaith dilynol gan ddefnyddio systemau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) eich sefydliad
Systemau rheoli gwybodaeth a digwyddiadau
6. pam mae'n bwysig defnyddio'r systemau perthnasol i gynllunio a chydlynu gweithgareddau ac adnoddau
7. sut i wneud cofnodion gan ddefnyddio systemau gwybodaeth a rheoli eich sefydliad
8. sut i flaenoriaethu a chydbwyso gofynion ac adnoddau sy'n cystadlu â'i gilydd
9. sut i drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i drefniadau a sicrhau bod pawb sy'n gysylltiedig wedi cael gwybod
10. y mathau o faterion diogelwch a chyfrinachedd sy'n berthnasol i'r systemau gwybodaeth a rheoli
Deunyddiau
11. y pecynnau gwybodaeth a'r deunyddiau eraill sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau cymorth busnes
12. sut caiff deunyddiau eu caffael o fewn y gyllideb sydd ar gael
13. y gwahanol fathau o ddeunyddiau gwybodaeth y mae angen eu trefnu
14. pam mae'n bwysig storio gwybodaeth yn ddiogel
15. sut i osod a strwythuro deunyddiau gwybodaeth er mwyn i ddefnyddwyr allu cael gafael arnynt yn rhwydd
16. sut i ddefnyddio systemau cyfrifiadurol a pheirianyddol o storio gwybodaeth
Cyfarfodydd neu ddigwyddiadau
17. dulliau cynnal y cyfarfodydd neu'r digwyddiadau, megis wyneb yn wyneb neu'n rhithwir
18. y diben a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau
19. rolau a chyfrifoldebau'r staff dan sylw, gan gynnwys unrhyw ofynion iechyd, diogelwch a diogeledd
20. rhestr y mynychwyr, pryd a sut maent yn cael eu gwahodd, ac unrhyw ofynion arbennig sydd ganddynt
21. sut i gyflwyno gwasanaethau cymorth busnes i wahanol gynulleidfaoedd
22. y mathau o broblemau a allai godi yn ystod y digwyddiad neu'r cyfarfod a sut i'w datrys
23. a fydd unrhyw gofnodion yn cael eu cadw neu eu cylchredeg wedyn, gan bwy a sut
Gwasanaeth i gwsmeriaid
24. beth yw ystyr y term `gwasanaeth i gwsmeriaid 'a phwy yw eich cwsmeriaid
25. y safonau ansawdd mewn perthynas â gwasanaeth i gwsmeriaid a gwella'n barhaus
26. sut i gadw at amserlenni a safonau ansawdd ar gyfer eich cwsmeriaid
27. pam mae'n bwysig monitro bodlonrwydd cwsmeriaid a sut i wneud hynny
28. y mathau o broblemau y gallai eich cwsmeriaid eu hwynebu a sut i'w datrys