Archwilio marchnadoedd rhyngwladol ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n archwilio marchnadoedd rhyngwladol ar gyfer eu busnes. Mae llawer o wahaniaethau rhwng masnachu dramor a masnachu yn y DU. Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau hyn a sicrhau bod eich busnes yn elwa o archwilio marchnadoedd rhyngwladol. I wneud hyn mae angen i chi gydymffurfio â'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol, gan gynnwys telerau ac amodau masnachu dramor. Byddwch yn ymchwilio i farchnadoedd allforio, yn ystyried costau a manteision allforio, yn cynllunio'r adnoddau ac yn cael gafael ar ffynonellau gwybodaeth perthnasol.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
ehangu eich ystod o gynhyrchion neu wasanaethau;
dod o hyd i gwsmeriaid newydd ar gyfer y cynhyrchion neu'r gwasanaethau sydd gennych ar hyn o bryd;
agor busnes neu fenter gymdeithasol newydd yn rhywle arall.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r angen i edrych ar y cyfleoedd rhyngwladol
- ymchwilio i wybodaeth am farchnadoedd rhyngwladol i ddewis cyfleoedd addas i'ch busnes
- nodi ffactorau a allai effeithio ar sut bydd eich busnes yn cael ei redeg mewn gwahanol farchnadoedd
- ystyried a oes angen newid eich cynhyrchion neu wasanaethau sy'n gweddu i farchnad ryngwladol
- archwilio sut y byddwch chi'n hyrwyddo'ch cynhyrchion neu eich gwasanaethau yn rhyngwladol
- nodi'r cyfleoedd i werthu neu ddosbarthu eich cynnyrch neu wasanaeth mewn gwledydd eraill
- nodi'r sgiliau a'r galluoedd y bydd angen i chi a'ch staff eu datblygu er mwyn masnachu'n rhyngwladol
- asesu gwahanol fathau o gytundebau contractaidd i nodi'r rhai mwyaf addas ar gyfer eich busnes
- gwerthuso lefelau'r gystadleuaeth o fewn y marchnadoedd rydych chi'n eu hystyried
- nodi'r costau a allai fod yn gysylltiedig â masnachu'n rhyngwladol
- nodi risgiau a manteision hyfforddi'n rhyngwladol
- nodi'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer masnachu'n ryngwladol
- ceisio cyngor arbenigol a chymorth iaith pan fydd ei angen arnoch
- asesu a fydd masnach ryngwladol yn cynhyrchu elw a ddymunir ar y buddsoddiad
- nodi'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar fasnachu rhyngwladol y bydd angen i chi eu dilyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Masnach ryngwladol
1. ffynonellau gwybodaeth am y marchnadoedd rhyngwladol posibl
2. sut i wneud ymchwil i sicrhau bod marchnad i'ch cynhyrchion neu wasanaethau
3. y mathau o ddulliau dosbarthu, gan gynnwys trwy asiantau, dosbarthwyr, manwerthwyr lleol a thramor ac allforwyr
4. yr amrywiaeth o lwybrau i'r marchnadoedd rhyngwladol
5. y ffactorau a allai effeithio ar redeg eich busnes mewn marchnadoedd rhyngwladol
6. y mathau o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer masnachu'n rhyngwladol
Cystadleuaeth
7. y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn y gwledydd yr ydych yn ymchwilio iddynt
8. sut i asesu gweithgareddau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn gan gynnwys allforwyr eraill o'r DU a gwledydd eraill
9. eich mantais gystadleuol yn y marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol
10. sut mae eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn cymharu â marchnadoedd rhyngwladol ac yn gweddu iddynt o ran canfyddiad o'r farchnad
11. cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
Cyllid
12. yr amgylcheddau ariannol yn y gwledydd tramor lle rydych yn bwriadu masnachu
13. costau masnachu dramor, cyfraddau cyfnewid tramor, teithio, trafnidiaeth a dosbarthu, ffioedd asiantau, yswiriant, credyd, gwarantau credyd allforio, dyletswyddau mewnforio, pecynnu, hyrwyddo neu ddyledion drwg
14. sut i gynllunio llif arian i sicrhau bod digon o arian wrth ddatblygu'r marchnadoedd rhyngwladol
15. sut i addasu eich prisiau ar gyfer gwahanol farchnadoedd
16. sut i gyfrifo pa elw rydych chi'n debygol o'i ennill, pa elw sy'n dderbyniol i chi a chyfrifo'ch elw o fasnachu'n rhyngwladol
Deddfau a rheoliadau
17. y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar fasnach ryngwladol
18. y dyletswyddau allforio a mewnforio, cyfyngiadau mewnforio
19. yr amodau cyflogaeth mewn gwledydd tramor
20. diogelwch eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau, atebolrwydd, rheoli ansawdd ac amddiffyn o ran hawlfraint, eiddo deallusol, nod masnach, dylunio, patent
21. y gwahanol fathau o gytundebau contractaidd, cynghreiriau, trwyddedu, masnachfreinio, ac ati.
22. manteision masnachu dramor, megis marchnadoedd estynedig, maint y gwerthiant, cytundebau masnachu neu mwy o elw
23. risgiau masnachu dramor, megis llai o werthiant na'r disgwyl, newidiadau mewn cyfraddau cyfnewid, problemau dosbarthu, taliadau hwyr, tor-cyfraith o ran patent a hawlfraint, deddfwriaeth, colli'r cwsmeriaid sydd gennych yn y DU ar hyn o bryd
24. y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes i fasnachu'n llwyddiannus dramor
25. sut i wneud yn siŵr y bydd allforio yn hyfyw yn ariannol i'ch busnes