Creu’r seilwaith ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen creu'r seilwaith ar gyfer eu busnes. Mae angen i chi gynllunio prosesau, gweithdrefnau a systemau i ffurfio seilwaith eich busnes. Bydd y seilwaith cywir yn eich busnes yn eich helpu i gyflawni nodau eich busnes a chynyddu eich gallu i gystadlu trwy wella effeithlonrwydd, caniatáu i staff weithio gyda'i gilydd, rheoli costau cynnal, eich helpu i gynnig gwasanaeth integredig o safon uchel a chynnal cyfathrebu mewnol ac allanol. Mae'n golygu diffinio'r seilwaith ar gyfer eich busnes, ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gweithredu eich seilwaith a'i werthuso i sicrhau ei fod yn gweithio i'ch busnes.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;
adolygu'r isadeiledd presennol;
ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;
newid neu addasu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich busnes neu fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gosod y nodau a'r amcanion ar gyfer eich busnes
- coladu anghenion a disgwyliadau eich cwsmeriaid o'ch busnes
- diffinio eich gofynion o ran isadeiledd y busnes sy'n cwrdd â'ch nodau a'ch amcanion
- ymchwilio ac asesu'r opsiynau sydd ar gael fydd yn eich helpu i greu isadeiledd eich busnes
- nodi'r rhanddeiliaid mewnol ac allanol y dylid ymgynghori â nhw neu eu hysbysu wrth gynllunio gofynion o ran isadeiledd
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu isadeiledd eich busnes
- diffinio'r hyn yr ydych chi a'ch staff am i isadeiledd eich busnes ei gyflawni
- diffinio rolau a chyfrifoldebau o fewn eich busnes
- ceisio unrhyw gyngor angenrheidiol gan arbenigwyr ar yr atebion technegol a chyfreithiol i greu isadeiledd eich busnes
- gwerthuso a phenderfynu ar isadeiledd addas sy'n ategu eich anghenion chi ac anghenion eich cwsmeriaid
- datblygu a phrofi'r isadeiledd
- cynllunio sut y rhoddir yr isadeiledd ar waith a'i fonitro
- rhoi gwybod i'ch staff am gynnydd wrth gynllunio'r isadeiledd, ei ddatblygu a'i roi ar waith
- trefnu'r hyfforddiant perthnasol i'ch staff
- ceisio adborth gan bobl berthnasol am isadeiledd eich busnes a'i werthuso
- defnyddio adborth i lywio datblygiadau yn y dyfodol
- diweddaru eich isadeiledd yn rheolaidd neu pryd bynnag y bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Canolbwyntio ar fusnes
1. nodau ac amcanion eich busnes a sut y gallai isadeiledd eich busnes eich helpu i'w cyflawni
2. sut i ddiffinio gofynion isadeiledd eich busnes
3. y cymdeithion a'r ymgynghorwyr allanol sydd eu hangen ar gyfer eich isadeiledd
4. y rhanddeiliaid mewnol ac allanol y mae angen i chi ymgynghori â nhw wrth greu isadeiledd eich busnes
5. systemau a phrosesau gweinyddu eich busnes
6. hierarchiaeth rolau a chyfrifoldebau yn eich busnes a sut y dyrennir y rhain
7. sut mae isadeiledd eich busnes yn diwallu eich anghenion chi a'ch cwsmeriaid
8. sut y gallai isadeiledd eich busnes eich helpu i wella'ch gwasanaeth i gwsmeriaid
9. y mathau o gymorth cyfreithiol a chyngor proffesiynol a ble i ddod o hyd i'r rhain
Isadeiledd
10. yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio isadeiledd, ei ddatblygu a'i roi ar waith
11. sut i ddatblygu isadeiledd yn unol â'ch nodau, eich amcanion a'ch blaenoriaethau
12. sut i ddatblygu cynllun gweithredu gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau, amserlenni, cyllidebau a chynlluniau wrth gefn
13. yr atebion technegol sydd eu hangen ar gyfer eich isadeiledd
14. sut i werthuso'r gwahanol opsiynau o ran isadeiledd gan ystyried addasrwydd, sgiliau staff, cyllideb ac amserlen gweithredu
15. sut i fonitro cynnydd y cynllun trwy gyfarfodydd prosiect rheolaidd a chyfrifoldebau adrodd
16. sut i gael adborth rheolaidd gan gwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid perthnasol eraill ynglŷn â'r isadeiledd
17. sut i roi'r adborth ar yr isadeiledd ar waith i wella cynlluniau ar gyfer datblygu yn y dyfodol
18. yr hyfforddiant sydd ei angen er mwyn i'r staff wneud y defnydd gorau posibl o isadeiledd eich busnes