Rheoli’r broses olynu ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen rheoli'r broses olynu ar gyfer eu busnes. Ar ryw adeg bydd angen i chi drosglwyddo eich busnes i rywun arall. Bydd yn rhaid i chi ystyried pryd y bydd olyniaeth yn dechrau ac yn gorffen, sut i drosglwyddo gwybodaeth allweddol i'ch olynydd/olynwyr ac unrhyw rôl sydd gennych yn y busnes yn y dyfodol. Mae'n bwysig cynllunio sut y gallai'r cyfnod pontio weithio, unrhyw ailstrwythuro fydd ei angen, a chynlluniau wrth gefn. Mae dewis yr olynydd cywir a sicrhau ei fod yn barod, yn fodlon ac yn gallu ysgwyddo'r cyfrifoldebau, yn allweddol i oroesiad eich busnes. Rhaid i chi ddeall y ffactorau a allai achosi i'r olyniaeth fethu, megis cynlluniau olyniaeth aneglur, trafodaeth am olyniaeth wedi'i gadael yn rhy hwyr, olynwyr anghymwys, anfodlon neu sydd heb eu paratoi'n ddigonol, tensiynau teuluol, rhagflaenwyr nad ydynt am ildio rheolaeth neu sy'n tanseilio'r olynydd. Mae'n cynnwys cyfathrebu â'r ag olynwyr posibl, dewis yr olynydd/olynwyr cywir, paratoi'r olynydd/olynwyr i gymryd yr awenau a pharatoi eich hun ar gyfer gadael y busnes.
Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:
bwriadu ymddeol neu symud ymlaen i fentrau eraill;
datblygu strategaeth ymadael ar gyfer eich busnes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r amrywiaeth o opsiynau olynu ar gyfer eich busnes
- ymgynghori ag arbenigwyr i wneud yn siŵr bod eich cynlluniau olyniaeth yn dreth-effeithlon
- penderfynu pryd y byddai hwylusydd annibynnol neu gynghorydd cyfreithiol o fudd i'ch helpu chi i ddatblygu cynlluniau ar gyfer olyniaeth
- trafod syniadau ac opsiynau ar gyfer olyniaeth gydag ymgeiswyr posibl
- sefydlu beth mae'r olynwyr am ei gyflawni o ganlyniad i gymryd drosodd eich busnes
- cytuno ar werthoedd, nodau ac amcanion y busnes ar gyfer y dyfodol gydag olynwyr posibl
- nodi a rheoli unrhyw wrthdaro mewn buddiannau ar gyfer olynu mewn busnes
- esbonio prosesau, gweithdrefnau, rolau a chyfrifoldebau eich busnes
- asesu sgiliau a dyheadau'r olynydd/olynwyr posibl a pha mor debygol ydynt o wneud eich busnes yn llwyddiannus
- penderfynu ar y trefniadau o ran cyfranddaliadau er budd y busnes
- cadarnhau unrhyw rôl fydd gennych yn y busnes yn y dyfodol
- trefnu'r hyfforddiant neu'r broses drosglwyddo angenrheidiol ar gyfer eich olynydd/olynwyr
- gwneud cynlluniau wrth gefn a threfniadau amgen ar gyfer yr olyniaeth
- cadw'r holl ddogfennau sy'n ymwneud ag olyniaeth hirdymor neu dros dro yn gyfoes ac yn ddiogel
- hysbysu'r holl randdeiliaid perthnasol am eich trefniadau olynu
- mynd i'r afael â ffactorau a allai achosi i'r olynu fethu
- ymbaratoi i adael y busnes
- trosglwyddo eich cyfrifoldebau i'ch olynwyr ar yr adeg y cytunwyd arno
- trosglwyddo'r busnes gan ddilyn gofynion perthnasol o ran y gyfraith a threth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio olyniaeth
1. y broses o baratoi ar gyfer paratoi olyniaeth a chynlluniau wrth gefn
2. yr amrywiaeth o strategaethau ymadael i'w hystyried, megis gwerthu masnach, prynu prif gyfran, cau'r busnes, ac ati
3. pam mae'n bwysig penderfynu ar lwybr yr olyniaeth cyn ymgynghori ar y goblygiadau o ran treth
4. y technegau i alluog proses olynu lwyddiannus i olynwyr posibl
5. y ffactorau a'r amgylchiadau a allai beri i olynydd i fethu
6. dyrannu rolau a chyfrifoldebau ar ôl olynu
7. y goblygiadau posibl i strwythur y busnes ar ôl trosglwyddo
8. y math o rôl y gallech ei chael yn y busnes yn y dyfodol
9. y dogfennau perthnasol megis cynlluniau olynu, cytundebau partneriaeth, cytundebau cyfranddalwyr ac ewyllysiau
10. pam mae'n bwysig eich bod yn gadael i'ch olynydd/olynwyr wneud penderfyniadau a chymryd yr awenau dros y busnes ar yr adeg y cytunwyd arno
11. y rhanddeiliaid y mae angen eu hysbysu am olynu
12. y polisi y dylai'r busnes ei ddilyn o ran dosbarthu cyfranddaliadau
13. y rhinweddau a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich olynwyr
14. y gweithdrefnau hyfforddi a throsglwyddo a allai fod eu hangen er eich olynwyr
15. ffynonellau cymorth a chyngor cyfreithiol ynghylch cynllunio olyniaeth
16. y ffyrdd o baratoi eich hun i adael y busnes
17. sut i gysylltu â'r ymgeiswyr posibl ynghylch trefniadau olyniaeth
18. y ffyrdd o ddatrys unrhyw wrthdaro mewn buddiannau a nodir
19. pwysigrwydd cyfathrebu â darpar olynwyr
Deddfau a rheoliadau
20. y trethi, y dyletswyddau a'r gostyngiadau sy'n berthnasol pan fyddwch yn gwerthu busnes neu ased busnes neu'n ei roi fel rhodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Uchelgais
- Ynni
- Gweledigaeth strategol
- Sgiliau rhyngbersonol
- Gwybodaeth dechnegol