Cynllunio eich strategaeth ymadael â busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cynllunio eu strategaeth ar gyfer ymadael â busnes. Mae'n bwysig oherwydd byddwch chi'n gadael eich busnes ar ryw adeg neu'n penderfynu ei drosglwyddo i rywun arall. P'un ai trwy gau, gwerthu eich busnes, ei drosglwyddo i aelod o'r teulu, ei roi ar farchnad stoc neu uno'ch busnes, mae'n bwysig cynllunio sut byddwch yn ymadael ymhell ymlaen llaw fel y gallwch symud ymlaen mewn modd sy'n achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl pan fyddwch chi'n barod. Mae ymgorffori strategaeth ymadael yn eich cynlluniau busnes yn dangos eich bod yn meddwl yn strategol ar gyfer y tymor hir, yn ogystal â chryfhau eich busnes. Beth bynnag fo'ch rheswm, mae angen i chi gynllunio eich dull ymadael yn ofalus i sicrhau bod eich ymadawiad yn gadael eich busnes yn y sefyllfa orau bosibl. Mae'n golygu penderfynu sut a phryd rydych chi am ymadael â'ch busnes, cymryd cyngor ar yr opsiynau ymadael a gwirio pa mor ddichonol yw eich cynllun.
Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:
datblygu cynllun busnes;
datblygu strategaeth ymadael neu drosglwyddo;
adolygu eich cynllun busnes neu strategaeth ymadael gyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- amcangyfrif yr amserlen ar gyfer cau, gwerthu neu drosglwyddo eich busnes
- ymgynghori â gweithwyr proffesiynol perthnasol ar yr amrywiaeth o opsiynau ymadael a'r goblygiadau i'ch cynlluniau
- datblygu strategaeth olyniaeth eich busnes a gwneud cynlluniau wrth gefn
- alinio'r strategaeth ymadael â'ch cynllun busnes
- nodi pwy sydd angen cymryd rhan yn y broses gynllunio neu olynu
- sicrhau bod cyllid a gweinyddiaeth eich busnes yn gyfredol
- datblygu canllaw ar gyfer prosesau a gweithdrefnau eich busnes
- nodi darpar brynwyr ar gyfer eich busnes
- sefydlu gwerth eich busnes
- amcangyfrif sut y gall y gwerth newid dros amser a'r ffactorau sy'n effeithio arno
- asesu cryfderau a gwendidau eich busnes
- asesu beth allai ddigwydd os bydd y sefyllfa'n newid ac os cewch eich gorfodi i ymadael mewn ffordd wahanol
- cydymffurfio â'r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich busnes
- adolygu eich strategaeth ymadael yn rheolaidd a gwneud newidiadau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Canolbwyntio ar fusnes
1. sut i osod nodau ac amcanion eich busnes
2. sut gall y nodau a'r amcanion ddylanwadu ar eich strategaeth ymadael
3. cryfderau a gwendidau eich busnes
4. gwerth eich busnes
5. y ffactorau sy'n effeithio ar werth eich busnes
6. sut i sicrhau bod gweinyddiaeth a chyllid eich busnes yn gyfredol
7. y deddfau a'r rheoliadau perthnasol
Strategaeth ymadael
8. yr amrywiaeth o opsiynau ymadael, gan gynnwys gwerthu, olyniaeth, cau, rhoi eich busnes ar y farchnad neu uno
9. sut i gynllunio strategaeth ymadael, gan gynnwys cynllunio wrth gefn os bydd amgylchiadau'n newid
10. pwy mae angen ymgynghori â nhw wrth ddatblygu'r strategaeth ymadael
11. sut bydd eich strategaeth ymadael arfaethedig yn effeithio ar y ffordd rydych yn rhedeg eich busnes
12. sut a phryd i adolygu'ch strategaeth ymadael
13. ble i ddod o hyd i gyngor proffesiynol ar gynllunio i drosglwyddo eich busnes neu ymadael ag ef