Cynllunio cyfeiriad eich busnes

URN: INSBE004
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cynllunio cyfeiriad eu busnes. Mae'n bwysig meddwl am beth rydych chi am i'ch busnes ei gyflawni a sut rydych chi am wneud hynny, oherwydd mae'n golygu eich bod chi'n gallu manteisio i'r eithaf ar botensial eich busnes. Mae'n golygu gosod eich targedau a'ch amcanion, paratoi cynlluniau manwl, eu cyflwyno i wahanol randdeiliaid a nodi'r ffynonellau cyllid neu gymorth arall sydd ei angen.

Gallech wneud hyn os ydych yn:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;

  2. ehangu busnes neu fenter gymdeithasol;

  3. newid neu'n addasu'r ffordd y mae busnes neu fenter gymdeithasol yn gweithredu;

  4. adolygu amcanion personol ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu sefyllfa bresennol eich busnes yn y farchnad
  2. diffinio cyfeiriad eich busnes yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir
  3. gosod targedau ar gyfer gwahanol rannau o'ch busnes a sicrhau nad yw'r rhain yn gwrthdaro â'i gilydd
  4. cynllunio'n fanwl sut bydd y gwahanol rannau o'ch busnes yn gweithio a sut bydd y targedau'n cael eu cyrraedd
  5. nodi ffynonellau cyllid a chymorth arall ar gyfer eich busnes
  6. penderfynu sut byddwch yn rhoi eich cynlluniau ar waith ac yn datblygu cynllunio wrth gefn
  7. cyfleu cynlluniau busnes i randdeiliaid a sicrhau ymrwymiad ganddynt
  8. dylunio fframwaith fydd yn eich galluogi i fonitro perfformiad eich busnes yn erbyn eich cynlluniau
  9. sicrhau bod eich cynlluniau mewn fformat sy'n addas i'w defnyddio yn y dyfodol
  10. cydymffurfio â deddfau a rheoliadau sy'n berthnasol i'ch busnes a chael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i'r rhain
  11. ceisio cyngor cyfreithiol a phroffesiynol pan fo angen
  12. adolygu cyfeiriad eich busnes yn rheolaidd a rhoi newidiadau ar waith lle bo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Canolbwyntio ar fusnes

1.      sut i nodi sefyllfa bresennol eich busnes yn y farchnad gan ddefnyddio dadansoddiad Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol (PESTLE)

2.      sut i ddiffinio cyfeiriad eich busnes o ran ei sefyllfa yn y farchnad a'i lwyddiant

3.      sut i osod targedau ac amcanion ar gyfer eich busnes

4.      y gwahanol rannau o'ch busnes, gan gynnwys cyllid, cynhyrchu, gwerthu, marchnata, gwasanaeth i gwsmeriaid, ansawdd, recriwtio staff, gwobrwyo, gwerthuso neu hyfforddi a datblygu

5.      sut gall gwahanol rannau eich busnes wrthdaro â'i gilydd

6.      sut gall targedau ariannol effeithio ar gynhyrchiant, incwm a chostau

7.      ffynonellau cymorth a chyngor gan gymdeithion busnes, canolfannau cynghori busnes, cynghorwyr busnes, mentoriaid neu gwnselwyr, ymgynghorwyr arbenigol, cyfarwyddwyr anweithredol, cyfrifwyr a gweithwyr proffesiynol eraill

Cynllunio busnes

8.      sut i gynllunio eich busnes yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir

9.      y gwahanol ffynonellau cyllid a chymorth arall ar gyfer eich busnes

10.  yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich cynlluniau

11.  yr amrywiaeth o gostau busnes, gan gynnwys cynhyrchion, gwasanaethau, staff, cyllid, adeiladau, safle, offer, marchnata a gweinyddu ac ati.

12.  sut i adolygu a monitro llwyddiant eich cynlluniau

13.  sut i fformatio eich cynlluniau a sicrhau bod gan staff perthnasol fynediad atynt

14.  sut i gyfleu eich cynlluniau a rhannu mynediad â staff perthnasol

15.  sut i ysgogi pobl a'u hannog i roi eich cynlluniau ar waith

Y gyfraith a rheoliadau

16.  y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich busnes

17.  pam mae'n bwysig cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfau a rheoliadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABD3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW