Diffinio a datblygu eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n gorfod diffinio a datblygu eu cynhyrchion a'u gwasanaethau. Mae'r broses hon yn bwysig ar gyfer cynnig y cynnyrch neu'r gwasanaeth cywir ar gyfer y farchnad, codi'r pris cywir amdano a gwerthu'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau i wneud elw. Mae diffinio'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn golygu nodi eu natur unigryw o'u cymharu â chynhyrchion a gwasanaethau eraill i gyrraedd eich targedau.
Mae angen i chi wneud hyn os ydych chi yn:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;
ehangu busnes neu fenter gymdeithasol;
newid neu'n addasu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich busnes neu fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio i gynhyrchion a gwasanaethau y gallech eu cynnig
- cynnal ymchwil i'r farchnad i nodi pwy fyddai'n cystadlu yn eich erbyn a sut mae eu cynhyrchion a'u gwasanaethau yn wahanol i'ch rhai chi
- penderfynu ar gynhyrchion a gwasanaethau eich busnes
- ymchwilio i'r mathau o ganiatâd, trwyddedau neu dystysgrifau a allai fod eu hangen ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- nodi pwyntiau gwerthu unigryw eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau (USPs)
- penderfynu pwy fydd eich cwsmeriaid a sut byddwch yn gwerthu eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
- nodi dulliau cyflwyno'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau i gwsmeriaid
- penderfynu sut y byddwch yn hyrwyddo eich cynnyrch a'ch gwasanaethau i'ch cwsmeriaid targed
- gweithio allan y galw tebygol am eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- ymchwilio i unrhyw ofynion am ganiatâd, trwyddedau neu dystysgrifau
- ymchwilio i holl gostau darparu eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- cyfrifo faint o elw y gallwch ei wneud o'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- penderfynu pa bris i'w godi am eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- penderfynu ar yr amseroedd cyflwyno, y telerau talu, a lefelau'r gwasanaeth y byddwch yn eu cynnig i'ch cwsmeriaid
- nodi faint o gynhyrchion a gwasanaethau i'w gwerthu neu eu dosbarthu
- datblygu eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- gweithredu'r systemau perthnasol sy'n ofynnol mewn perthynas â gweithgareddau gwerthu a marchnata
- monitro gwerthiannau a boddhad cwsmeriaid a gwerthuso'r elw o'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- adolygu eich cynnyrch a'ch gwasanaethau yn rheolaidd ac addasu eich cynigion, os oes angen
- cydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol mewn perthynas â chynhyrchion a gwasanaethau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynhyrchion a gwasanaethau
1. beth sydd angen ei ystyried wrth ymchwilio i ba gynhyrchion a gwasanaethau y gallech eu cynnig
2. sut i gael gwybod am ganiatâd, trwyddedau neu dystysgrifau sydd eu hangen
3. sut i ddisgrifio'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau a nodi eich pwyntiau gwerthu unigryw
4. sut i gyfrifo cost darparu eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
5. sut mae costau'n effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau
6. gwahanol ffyrdd o brisio cynhyrchion a gwasanaethau a'u buddion
7. y targedau ariannol ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
Ymchwilio i'r farchnad a chystadleuwyr
8. sut i ymchwilio i'r farchnad a'i phrisiau
9. dulliau perthnasol o farchnata eich cynnyrch a'ch gwasanaethau gan gynnwys dulliau ar-lein
10. y ffactorau sy'n effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau tebyg ar y farchnad
11. sut i gael gwybod pwy allai eich cwsmeriaid fod a'u hanghenion
12. ble i gael gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
13. sut gall cynhyrchion a gwasanaethau y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn fod yn wahanol
14. sut i ddadansoddi'r farchnad a'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
Gwerthu
15. sut i osod targedau gwerthu realistig
16. sut mae pris yn effeithio ar werthiant
17. ble a phryd y gellir gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau
18. y systemau perthnasol y gellir eu defnyddio ar gyfer olrhain gwerthiannau a boddhad cwsmeriaid
19. dulliau cyflwyno'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau
20. pris, ansawdd, amseroedd cyflwyno, telerau talu, lefelau gwasanaeth