Asesu a gwerthuso hyfywedd busnes a syniadau busnes newydd
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen asesu a gwerthuso hyfywedd busnes a syniadau busnes newydd. Fe'ch cynghorir i gynnal ymchwil fanwl i'r syniadau ar gyfer eich busnes i'w wneud yn llwyddiant. Gallai eich syniad fod yn gynnyrch neu'n ddyfais hollol newydd, yn newid i gynnyrch sy'n bodoli eisoes, neu'n wasanaeth newydd. Bydd hyn yn eich helpu i asesu a gwerthuso a yw'n werth datblygu syniad ymhellach i bennu ei botensial i lwyddo.
I wneud hyn mae angen i chi:
Archwilio eich syniad busnes i ddiffinio sut y bydd yn gweithio'n ymarferol.
Ymchwilio i anghenion eich cwsmeriaid, gweithgareddau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn, a'r farchnad/marchnadoedd posibl ar gyfer eich syniad busnes.
Nodi goblygiadau unrhyw ddeddfau a'r adnoddau y bydd angen i chi neu eich staff eu datblygu.
Nodi'r cymwyseddau sydd gennych chi a'ch staff ar hyn o bryd yn ogystal â'r rhai y bydd angen eu datblygu.
Gwerthuso a fydd eich syniad busnes yn gallu talu costau sefydlog ac amrywiol a nodir i gyflawni eich elw gofynnol.
Dysgu sut i sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd os byddwch yn penderfynu datblygu eich syniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynhyrchu unrhyw wybodaeth, prototeipiau neu samplau i ategu eich syniadau
- gofyn am gyngor neu gymorth gan weithwyr proffesiynol priodol i gynorthwyo eich busnes
- ystyried eich cyfrifoldebau a chynnal asesiad risg o'ch syniadau busnes
- nodi tueddiadau'r farchnad a'r galw masnachol am eich syniadau busnes
- cynnal ymchwil i adnabod y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn y farchnad
- nodi mantais gystadleuol eich syniadau busnes
- ymchwilio i'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich syniad busnes a sut mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
- ysgrifennu cynnig busnes sy'n esbonio pam rydych yn credu y dylai buddsoddwyr gefnogi eich syniadau
- sicrhau bod eich cynnig busnes yn cynnwys gwybodaeth allweddol sydd ei hangen ar gyfer cael cymorth
- nodi pa wybodaeth am sgiliau, ac ymddygiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi neu eich staff i gyflwyno'ch syniadau busnes ac a oes unrhyw ofynion o ran ardystio
- nodi pa gyfarpar, offer, deunyddiau neu staff ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch i gyflwyno eich syniadau busnes
- coladu holl gostau cysylltiedig eich syniadau busnes
- cyfrifo faint y gallwch ei godi ar eich cwsmeriaid i dalu am eich costau a chyrraedd maint yr elw a dargedir gennych
- asesu a gwerthuso eich syniad busnes a phenderfynu a ddylech fynd ar ei drywydd, ei addasu neu gael gwared arno
- ystyried gwerth asedau anniriaethol y busnes
- ystyried pa sgiliau, asedau a buddsoddiad y gallwch eu cynnig i fusnes
- nodi'r potensial yr ydych am ei gael o'r busnes
- crynhoi'r cyfleoedd busnes ac asesu eu cryfderau a'u gwendidau yn erbyn eich targedau
- asesu'r sefyllfa ariannol, a'r potensial ar gyfer twf eich busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Canolbwyntio ar fusnes
1. sut i nodi pwynt gwerthu unigryw eich syniadau busnes ac asesu ei hyfywedd
2. eich nodau a'ch amcanion ar gyfer rhedeg busnes
3. y wybodaeth, y prototeipiau neu'r samplau y gallai fod eu hangen arnoch i ategu eich syniadau
4. sut i benderfynu a yw eich syniad busnes yn werth ei ddatblygu neu ei addasu
Ymchwil i'r farchnad a thueddiadau busnes
5. sut i gynnal ymchwil i'r farchnad
6. tueddiadau yn y farchnad, cystadleuaeth, cyfleoedd a'r materion y mae'r sector yn eu hwynebu yn y farchnad
7. sut gall gweithredoedd a dewisiadau cwsmeriaid effeithio ar lwyddiant eich syniadau busnes
8. y newidiadau gwleidyddol a masnachol a allai effeithio ar eich syniadau busnes
9. y digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a allai gyfyngu ar eich cyfleoedd busnes neu eu gwella
10. sut i wybod a fydd y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn effeithio ar eich busnes
11. sut i nodi'r adnoddau gofynnol a faint fydd y rhain yn ei gostio
Sgiliau a galluoedd
12. y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau perthnasol y gallai fod eu hangen arnoch chi a'ch staff ar gyfer y busnes
13. eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun fel darpar berchennog busnes a sut y gallai'r rhain effeithio ar y math o fusnes yr ydych yn am ei brynu
14. sut i werthuso'r sgiliau, y galluoedd a'r wybodaeth sydd gennych chi a'ch gweithwyr
15. sut y gellir datblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth sy'n addas i'ch busnes
Deddfau a rheoliadau
16. y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich syniadau busnes
17. sut i gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol
18. beth yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau a Diogelu Cyflogaeth (TUPE) a sut y gallai'r rhain effeithio ar eich busnes
Sefyllfa ariannol
19. sut i gostio cynnyrch a gwasanaeth, cyfrifo pris gwerthu a diffinio faint sydd angen ei werthu i gyrraedd y targed a osodwyd
20. sut i ddeall a defnyddio rhagolygon llif arian a chyfrifon elw a cholled, a pha wybodaeth fyddai ei hangen arnoch i'w cynhyrchu