Defnyddio offer swyddfa yn unol â rheoliadau galwedigaethol a chanllawiau diogelwch

URN: INSBA024
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio offer swyddfa yn unol â rheoliadau galwedigaethol a chanllawiau diogelwch. Rydych chi'n cynhyrchu gwaith yn unol â gofynion a therfynau amser y cytunwyd arnynt drwy ddefnyddio ystod o offer swyddfa. Rydych chi'n defnyddio safonau cyfreithiol a sefydliadol iechyd a diogelwch ac arferion gweithredu. Rydych chi'n mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n codi neu'n rhoi gwybod amdanynt ac yn gadael yr offer yn barod ar gyfer y defnyddiwr nesaf. Rydych hefyd yn dilyn cysyniadau ymarfer ergonomig ac yn gosod rhannau perthnasol y corff yn unol â rheoliadau galwedigaethol a chanllawiau iechyd a diogelwch perthnasol wrth deipio mewn gweithfan.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n defnyddio offer swyddfa yn unol â rheoliadau galwedigaethol a chanllawiau diogelwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi gofynion y tasgau i'w cyflawni
  2. cytuno ar derfynau amser ar gyfer tasgau gyda rheolwyr, cydweithwyr neu gwsmeriaid
  3. dod o hyd i'r offer a'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau tasgau
  4. dewis yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau tasgau
  5. cynnal arfer da ergonomig wrth deipio mewn gweithfan gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch sefydliadol a galwedigaethol
  6. gweithredu canllawiau sefydliadol i osod eich corff yn unol â maint, goleddf a'r math o fysellfwrdd sy'n cael ei ddefnyddio
  7. gosod safle eich corff i alinio â maint a siâp y weithfan sy'n cael ei defnyddio
  8. cynnal gweithfannau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith teipio
  9. dilyn canllawiau'r gweithgynhyrchydd, cyfarwyddiadau gweithredu sefydliadol a gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer offer swyddfa
  10. defnyddio cyn lleied o adnoddau â phosib i atal gwastraff
  11. cynnal a chadw offer glân a hylan trwy ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
  12. mynd i'r afael â phroblemau gydag offer ac adnoddau yn unol â gweithdrefnau'r gwneuthurwr a'r sefydliad
  13. rhoi gwybod i'r cydweithiwr priodol am broblemau na allwch ddelio â nhw
  14. cynhyrchu'r cynnyrch gwaith terfynol i fodloni'r gofynion y cytunwyd arnynt
  15. cynhyrchu'r cynnyrch gwaith o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt
  16. paratoi'r offer, yr adnoddau a'r man gwaith yn barod ar gyfer y defnyddiwr nesaf
  17. dilyn y gofynion a'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol ar gyfer defnyddio offer

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chytuno ar ofynion tasg gyda rheolwyr, cydweithwyr a chwsmeriaid
  2. pwysigrwydd cwrdd â therfynau amser tasgau a'r effaith os na chaiff y rhain eu cyflawni
  3. y gwahanol fathau o offer swyddfa, eu nodweddion a'r hyn y gellir eu defnyddio ar eu cyfer
  4. sut i ddewis offer ac adnoddau sy'n briodol ar gyfer y dasg
  5. lleoliad offer ac adnoddau yn y sefydliad a sut gellir cael gafael ar y rhain
  6. y prosesau sefydliadol ar gyfer archebu'r offer sydd eu hangen
  7. cysyniadau ymarfer ergonomig sy'n ymwneud â theipio yn unol â rheoliadau galwedigaethol a chanllawiau iechyd a diogelwch
  8. sut i osod bysedd, arddyrnau, blaenau'r fraich a'r cefn mewn perthynas â maint, goleddf a'r math o fysellfwrdd a'r weithfan sy'n cael eu defnyddio
  9. y rheoliadau galwedigaethol sefydliadol a'r canllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer defnyddio gwahanol fathau o offer swyddfa
  10. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr a sefydliadol wrth weithredu offer
  11. sut i ddefnyddio gwahanol fathau o offer swyddfa yn ddiogel
  12. y rhesymau dros wastraffu cyn lleied o adnoddau â phosibl a sut i wneud hynny
  13. y rhesymau dros gadw offer yn lân ac yn hylan
  14. y dulliau a'r gweithdrefnau sefydliadol a'r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer gofalu am offer a'i gynnal
  15. y mathau o ddiffygion gydag offer ac adnoddau rydych chi'n debygol o'u profi a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer delio â'r rhain
  16. pwysigrwydd gadael offer, adnoddau ac ardal waith yn barod ar gyfer y defnyddiwr nesaf
  17. y rheoliadau, y gofynion a'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a diogelwch ar gyfer defnyddio offer

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. cyfathrebu

  2. cynllunio

  3. datrys problemau

  4. cyfathrebu

  5. trefnu

  6. defnyddio technoleg ac offer

  7. glanhau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAE131, CFABAA241

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; iechyd a diogelwch; allweddellau; offer swyddfa