Storio, rhannu, adalw ac archifo gwybodaeth

URN: INSBA022
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â storio, rhannu, adalw ac archifo gwybodaeth gan ddefnyddio systemau ffeilio perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol.  Gall y systemau a ddefnyddiwch fod yn rhai electronig neu ar bapur. Rydych yn nodi, casglu, storio, diweddaru a dileu gwybodaeth mewn lleoliadau cymeradwy, gan ddefnyddio gweithdrefnau a deddfwriaeth sefydliadol. Rydych yn cael mynediad at systemau gwybodaeth i ddod o hyd i wybodaeth ofynnol, ei rhannu, ei hadalw a'i chyflwyno o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt. Rydych yn nodi ac yn cytuno ar y wybodaeth sydd i'w harchifo ac yn cadw cofnodion o wybodaeth wedi'i harchifo ar gyfer y cyfnod cadw. Ar gyfer unrhyw broblemau sy'n codi, byddwch yn eu datrys neu'n rhoi gwybod i gydweithiwr wrth storio, rhannu, adalw ac archifo gwybodaeth.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n storio, rhannu, adalw ac archifo gwybodaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi gwybodaeth ar gyfer storio, rhannu neu adalw
  2. defnyddio gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cael gafael ar wybodaeth
  3. defnyddio'r systemau perthnasol ar gyfer storio, rhannu ac adalw gwybodaeth
  4. dilyn y gofynion seiberddiogelwch ar gyfer storio, rhannu neu adalw gwybodaeth
  5. datrys neu roi gwybod am broblemau gyda'r system sy'n digwydd wrth storio gwybodaeth
  6. cadarnhau gofynion ac amserlenni ar gyfer storio, adalw neu rannu gwybodaeth gyda chydweithwyr neu gwsmeriaid
  7. dod o hyd i'r wybodaeth ofynnol yn y systemau gwybodaeth
  8. adalw'r wybodaeth ofynnol o'r systemau gwybodaeth
  9. datrys unrhyw broblemau sy'n codi wrth adalw gwybodaeth a rhoi gwybod amdanynt
  10. rhoi gwybodaeth i gydweithwyr neu gwsmeriaid yn y fformat y cytunwyd arno
  11. bodloni'r amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer adalw gwybodaeth
  12. adalw gwybodaeth wedi'i harchifo ar gais
  13. dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol i gynnal diogelwch a chyfrinachedd y wybodaeth
  14. nodi gwybodaeth i'w harchifo
  15. cytuno ar y cyfnod cadw ar gyfer gwybodaeth wedi'i harchifo
  16. archifo gwybodaeth o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
  17. cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a gofynion deddfwriaethol a sefydliadol wrth archifo gwybodaeth
  18. cadw cofnodion archif drwy ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadol
  19. diweddaru cofnodion gwybodaeth wedi'u harchifo
  20. dileu gwybodaeth o'r archif yn unol â pholisi a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  21. datrys problemau sy'n codi wrth archifo gwybodaeth neu roi gwybod amdanynt
  22. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i reoli gwybodaeth a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae gwybodaeth yn cael ei storio, ei rhannu, ei hadalw neu ei harchifo
  2. y dulliau y gellir eu defnyddio i gasglu gwybodaeth i'w storio a'i rhannu
  3. gofynion seiberddiogelwch ar gyfer storio, rhannu neu adalw gwybodaeth
  4. y mathau o systemau gwybodaeth mewnol ac allanol a'u prif nodweddion
  5. y gwahanol leoliadau ffeilio ar gyfer storio a rhannu gwybodaeth
  6. sut i fodloni amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer storio, rhannu, adalw ac archifo gwybodaeth
  7. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol mewn cysylltiad â diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth wrth storio, rhannu, adalw ac archifo
  8. y ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â diogelu data
  9. y gweithdrefnau sefydliadol a gweithdrefnau'r cyflenwyr allanol i'w dilyn i gael mynediad at systemau storio
  10. y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer dileu gwybodaeth a pham mae'n rhaid eu dilyn
  11. sut i wneud yn siŵr bod gwybodaeth yn gywir cyn ei storio neu ei rhannu
  12. y problemau sy'n codi gyda systemau wrth storio, adalw ac archifo
  13. pwy i roi gwybod iddynt am broblemau gyda'r system ffeilio
  14. sut i gytuno ar amserlenni gyda chydweithwyr a chwsmeriaid
  15. sut i wirio bod gwybodaeth sydd wedi'i hadalw yn bodloni gofynion cydweithiwr neu gwsmeriaid
  16. sut i roi gwybodaeth yn y fformat gofynnol i gydweithwyr neu gwsmeriaid
  17. pam mae'n bwysig bodloni amserlenni y cytunwyd arnynt a'r effeithiau posibl os na chedwir at y rhain
  18. pam mae gwybodaeth yn cael ei harchifo
  19. sut i archifo gwybodaeth
  20. sut i gadw cofnodion archif drwy ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol a chyflenwyr
  21. pan gaiff gwybodaeth ei dileu o systemau storio a ffeilio archifau
  22. sut mae gwybodaeth yn cael ei dileu o systemau storio a ffeilio archifau
  23. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i reoli gwybodaeth a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. cyfathrebu

  2. trefnu

  3. cynllunio

  4. datrys problemau

  5. defnyddio technoleg


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAD332, CFABAD334

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; data; storio; adalw; archifo