Cynnal ymchwil a’i dadansoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal ymchwil a'i dadansoddi. Mae'n cynnwys cynllunio ymchwil gyda rhanddeiliaid a'i chynnal o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt. Rydych chi'n dewis data perthnasol, dilys, dibynadwy a chywir o wahanol ffynonellau a'i addasu yn ôl yr angen. Mae'r safon hefyd yn cynnwys coladu data yn barod i'w ddadansoddi a'i drefnu mewn fformat y cytunwyd arno. Rydych chi'n defnyddio technegau dadansoddi priodol i gynhyrchu canlyniadau cywir a diduedd. Rydych chi'n paratoi adroddiad ymchwil ac yn cyflwyno'ch casgliadau yn y fformat y cytunwyd arno, ac yn cael adborth gan randdeiliaid.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cynnal ymchwil a'i dadansoddi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio nodau ac amcanion yr ymchwil
- cytuno ar nodau ac amcanion yr ymchwil gyda rhanddeiliaid
- cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer yr adroddiad ymchwil gyda rhanddeiliaid
- cadarnhau'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer yr ymchwil
- nodi'r dulliau ymchwil cynradd ac eilaidd i'w defnyddio
- dewis data i'w ddadansoddi o wahanol ffynonellau
- gwneud yn siŵr bod data yn berthnasol, yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn gywir
- cael adborth gan gydweithwyr am y data os oes angen
- addasu data crai, os oes angen
- coladu data er mwyn ei baratoi i'w ddadansoddi
- dewis technegau dadansoddi sy'n addas i'r diben
- defnyddio technegau dadansoddi sy'n cyd-fynd â nodau ac amcanion yr ymchwil
- gwneud yn siŵr bod eich dadansoddiad yn gywir drwy ddefnyddio technegau sydd wedi'u cymeradwyo gan eich sefydliad
- addasu'r dadansoddiad data lle bo angen
- cynhyrchu canlyniadau cywir a diduedd
- dod i gasgliadau o'r dadansoddiad o ddata
- paratoi adroddiad ymchwil sy'n cwrdd â'r nodau a'r amcanion y cytunwyd arnynt gyda rhanddeiliaid
- cyflwyno casgliadau yn brydlon ac yn y fformat y cytunwyd arno
- cwblhau'r ymchwil o fewn yr amserlen y cytunwyd arni
- cael adborth ar eich casgliadau gan randdeiliaid
- defnyddio fframweithiau moesegol perthnasol i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch gwybodaeth ymchwil a gafwyd
- gwerthuso'ch ymchwil i nodi gwelliannau ar gyfer y dyfodol o ran sut rydych chi'n dewis, coladu a dadansoddi ymchwil ac adrodd arni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddiffinio nodau ac amcanion ymchwil
- sut i weithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar nodau, amcanion a therfynau amser
- y gwahaniaethau rhwng dulliau ymchwil cynradd ac eilaidd
- y gwahaniaethau rhwng dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol
- y gwahanol ffynonellau data sydd ar gael
- y dulliau y gellir eu defnyddio i chwilio am ddata
- sut i gyrchu data a'i dynnu ar gyfer ymchwil
- pam y gallai fod angen addasu data
- y dulliau a ddefnyddir i addasu data wrth eu casglu a'u dadansoddi
- y technegau a ddefnyddir i wneud yn siŵr bod data yn berthnasol, yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn gywir
- diben cael adborth ar ddata a gafwyd o ymchwil
- y gwahanol ffyrdd o drefnu data a gasglwyd
- sut i goladu a threfnu data i'w ddadansoddi
- y technegau dadansoddi sy'n cynhyrchu canlyniadau cywir a diduedd
- y gwahanol fformatau a allai fod eu hangen wrth adrodd ar ddata
- pwysigrwydd cyflwyno data yn y fformat adrodd y cytunwyd arno
- pam mae'n rhaid cwblhau ymchwil yn ôl yr amserlenni y cytunwyd arnynt ac effaith bosibl oedi wrth adrodd
- sut i gasglu adborth am yr ymchwil gan randdeiliaid
- sut i werthuso ymchwil i nodi a chynllunio ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol
- y fframweithiau moesegol perthnasol i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch gwybodaeth ymchwil a gafwyd
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
dadansoddi
cyfathrebu
gwneud penderfyniadau
dewis
cynllunio
cyflwyno gwybodaeth
ymchwilio
defnyddio technoleg
datrys problemau
ysgrifennu adroddiadau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cynhyrchu
Dogfennau; TG; Iechyd, Diogelwch a Diogeledd Pobl, Adeiladau ac Eiddo; Rheoli
Gwybodaeth a data