Paratoi contractau a'u cynnal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi contractau a'u cynnal. Mae'n cynnwys gwahodd, derbyn, gwerthuso tendrau, dewis y contractwr llwyddiannus a dyfarnu contractau. Mae'n cynnwys paratoi manylebau ar gyfer contractau, ateb ymholiadau cyn tendro, paratoi a chytuno ar feini prawf ar gyfer dethol, trafod contractau gyda chyflenwyr a monitro perfformiad contractwyr.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes mewn rolau goruchwylio neu reoli sy'n paratoi contractau a'u cynnal.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Penodi contractwyr drwy'r broses gynnig
1. hyrwyddo gwahoddiad i dendro gan gynnwys gwybodaeth lawn am y broses dendro
2. paratoi manylebau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau
3. sicrhau bod manylebau a chontractau yn glir, yn rhesymegol ac yn ymarferol ac yn cynnwys y derminoleg gywir
4. ateb ymholiadau cyn tendro o fewn amserlenni penodedig
5. paratoi a chytuno ar y meini prawf dethol yn y manylebau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau
6. cofnodi, agor a derbyn tendrau yn unol â'r broses dendro a nodwyd
7. nodi'r gofynion ar gyfer contractwyr o fewn amserlenni
8. gwerthuso tendrau yn erbyn meini prawf a dewis y cynigydd llwyddiannus
9. hysbysu cynigwyr aflwyddiannus a rhoi adborth iddynt lle bo'n briodol
10. dyfarnu'r contract, gan gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau
Monitro perfformiad contractwyr
11. datblygu a chynnal perthynas â chontractwyr a chyflenwyr
12. cyfathrebu â chontractwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r broses
13. gwirio cydymffurfiaeth â chontract yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a threfniadol
14. sicrhau bod amcanion y contract yn cael eu cyflawni
15. cytuno ar gamau gweithredu i unioni unrhyw beth sy'n wahanol i amcanion y contract
16. ymdrin ag unrhyw wyriadau neu achosion o dorri'r contract o fewn amserlenni penodedig
Gwerthuso perfformiad contractwyr
17. cytuno ar y meini prawf ar gyfer gwerthuso perfformiad contractwr
18. casglu a dadansoddi gwybodaeth gan ddefnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt
19. nodi ac adrodd ar berfformiad contractwyr a meysydd i'w gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o gynhyrchion a gwasanaethau i'w contractio
- y gwahanol fathau o gontractau a chytundebau
- y manylebau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau
- sut i baratoi manyleb ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau
- y derminoleg berthnasol ar gyfer manylebau a chontractau
- diben a manteision cael meini prawf dethol gwrthrychol
- diben a manteision gwahodd ystod o gontractwyr posibl i wneud cais am y contract
- y pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth werthuso tendrau
- sut i nodi gofynion allweddol ar gyfer contractwyr
- sut i drafod gyda chyflenwyr ac ateb eu hymholiadau o fewn amserlenni penodedig
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a threfniadol sy'n rheoli'r broses o dendro a dyfarnu contractau
- sut i roi'r adborth i gynigwyr aflwyddiannus
- diben a manteision meithrin perthynas waith gyda chontractwyr
- y dulliau monitro'r hyn y gellir ei gyflawni a chydymffurfio â chontract
- sut i olrhain a yw amcanion y contract yn cael eu cyflawni
- beth yw amrywiad neu dorri contract a beth i'w wneud os yw'n digwydd
- y meini prawf i'w defnyddio i werthuso perfformiad cyflenwyr yn unol â'r contract
- y dulliau werthuso ac adrodd ar gryfderau perfformiad contractwyr a chyflenwyr a meysydd i'w gwella
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
dadansoddi
gwerthuso
cyd-drafod
monitro
cynllunio
blaenoriaethu
datrys problemau
adrodd
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Adnoddau
Busnes; Busnes Craidd a Gweinyddiaeth; Cyfathrebu