Trefnu a chydlynu teithio a llety busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a chydlynu teithio a llety busnes. Mae'n cynnwys cadarnhau gofynion teithio neu lety a'r gyllideb sydd ar gael. Rydych yn ymchwilio, trefnu a chytuno ar drefniadau ar gyfer teithio neu lety, gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion sefydliadol a theithwyr a'u bod yn rhoi'r gwerth gorau am arian. Rydych yn cadw cofnodion cywir ar gyfer pob agwedd ar y trefniadau teithio neu lety ac yn storio'r rhain yn ddiogel yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n trefnu ac yn cydlynu teithio a llety busnes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau gofynion teithio neu lety gyda chydweithwyr
- cadarnhau'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer teithio neu lety
- ymchwilio i'r teithio neu'r llety sydd ar gael i fodloni gofynion
- cysylltu â theithwyr i wneud yn siŵr bod eu teithiau drafft yn gywir
- trefnu'r teithio neu'r llety sy'n cynnig y gwerth gorau o fewn y gyllideb
- cael arian cyfred tramor, yswiriant teithio a fisâu, os oes angen
- cael yr holl ddogfennau a'r wybodaeth ar gyfer teithio neu lety i fodloni'r gofynion
- coladu'r holl ddogfennau a gwybodaeth ar gyfer teithio neu lety yn unol â'r teithiau a drefnwyd
- cadw cofnodion o deithio neu lety sy'n geisiadau ac yn archebion
- storio gwybodaeth gyfrinachol a chofnodion ariannol yn ddiogel yn unol â pholisi a gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadol
- trefnu taliadau ar gyfer teithio neu lety i fodloni gofynion cyflenwyr
- datrys unrhyw broblemau gyda threfniadau teithio neu lety yn unol â pholisi a gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi trefniadau teithiau, dogfennau a gwybodaeth i'r teithwyr erbyn y dyddiad cau gofynnol
- cadarnhau bod trefniadau teithiau, dogfennau a gwybodaeth yn bodloni gofynion teithwyr
- ymateb i geisiadau teithwyr am wybodaeth ychwanegol, os oes angen
- cadw cofnod o'r gwasanaethau a'r cyflenwyr allanol a ddefnyddir ar gyfer teithio a llety
- gwerthuso'r gwasanaethau a'r cyflenwyr allanol a ddefnyddir i nodi'r rhai sy'n rhoi'r gwerth gorau
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam mae'n bwysig cadarnhau'r gofynion ar gyfer teithio a llety
- sut i gadarnhau'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer teithio neu lety a sut mae hyn yn amrywio ar gyfer gwahanol bobl, swyddogaethau a lefelau o fewn sefydliad
- lle caiff gwybodaeth am y gyllideb ar gyfer teithio a llety ei chadw a sut mae'n ei defnyddio
- sut i drefnu a chynorthwyo teithio neu lety busnes i fodloni disgwyliadau gwahanol gydweithwyr a theithwyr
- y prif fathau o drefniadau teithio neu lety sy'n ofynnol
- y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol i'w dilyn wrth drefnu teithio a llety
- y ffynonellau gwybodaeth, gwasanaethau a chyflenwyr a ddefnyddir i wneud trefniadau teithio neu lety
- sut i gael y gwerth gorau am arian wrth wneud trefniadau teithio neu lety
- sut i nodi a oes angen arian cyfred tramor, yswiriant a fisâu a sut i gael y rhain
- sut i gadw cofnodion o geisiadau teithio neu lety, archebion a chofnodion ariannol
- y mathau o wybodaeth am deithio a llety sy'n gyfrinachol a sut i ddilyn deddfwriaeth gyfredol wrth eu storio
- sut i gael dogfennau teithio a llety a gwybodaeth i'w rhoi i deithwyr
- sut i wneud taliad am deithio neu lety drwy ddefnyddio gweithdrefnau'r sefydliad
- y mathau o broblemau a allai godi gyda threfniadau teithio neu lety
- y gweithdrefnau cywir i'w dilyn wrth ymateb i unrhyw broblemau sy'n codi
- pam mae'n bwysig gwerthuso'r gwasanaethau teithio neu lety a'r cyflenwyr a ddefnyddir a chofnodi canfyddiadau'r gwerthusiad er mwyn ei ddefnyddio yn y dyfodol
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
cyfathrebu
cadarnhau
gwneud penderfyniadau
gwerthuso
rheoli amser
cyd-drafod
cynllunio
datrys problemau
ymchwilio
trefnu
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Digwyddiadau
a Chyfarfodydd; Cyfathrebu