Trefnu digwyddiadau corfforaethol a’u cydlynu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu digwyddiadau a'u cydlynu. Mae'n cynnwys cyfathrebu â rhanddeiliaid ynghylch cyllidebau, nodi lleoliadau, cynhyrchu deunyddiau ar gyfer digwyddiadau, cynorthwyo gweithgareddau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. Mae'r safon hefyd yn cynnwys trefnu'r digwyddiad rhithwir trwy offer digidol, technolegau neu blatfformau cydweithredu perthnasol. Mae hefyd yn cynnwys rheoli dyddiaduron electronig i wneud apwyntiadau, eu diweddaru a'u cydlynu.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n gyfrifol am drefnu digwyddiadau corfforaethol a'u cydlynu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli dyddiaduron electronig
1. gwneud cofnodion cywir a chlir mewn dyddiaduron ar gyfer pob apwyntiad a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â digwyddiadau
2. diweddaru'r dyddiadur i adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt
3. anfon gwahoddiadau ar gyfer y digwyddiad at bawb sy'n mynd iddo
4. datrys problemau trwy gyd-drafod trefniadau amgen os oes apwyntiadau'n cyd-daro
5. rhoi cadarnhad o newidiadau y cytunwyd arnynt i'r mynychwyr sydd wedi'u heffeithio
Trefnu'r digwyddiad a'i gynnal
6. cytuno ar gynllun ar gyfer y digwyddiad yn unol â'r amcanion y cytunwyd arnynt
7. nodi'r dechnoleg ddigidol berthnasol neu'r platfform cydweithredu ar gyfer cynnal digwyddiad rhithwir
8. sicrhau bod pawb sy'n mynd i'r digwyddiad wedi cael y gwahoddiadau electronig ac yn cadarnhau eu presenoldeb
9. rhoi gwybod i bawb sy'n mynd i'r digwyddiad am y platfform digidol rydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer y cyfarfod rhithwir
10. profi'r feddalwedd ymlaen llaw gyda phawb sy'n mynd i'r digwyddiad
11. mynd i'r afael ag unrhyw risgiau posibl a nodi cynlluniau wrth gefn
12. dyrannu lleoliadau addas a chyfrifo eu costau yn unol â gofynion cyllideb y cytunwyd arnynt
13. nodi a chytuno ar yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen ar gyfer y digwyddiad
14. cysylltu ag aelodau staff y lleoliad i gadarnhau gofynion y digwyddiad
15. dilyn y gofynion cyfreithiol a chytundebol perthnasol
16. sicrhau bod y digwyddiad yn cydymffurfio â gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd
17. helpu i gynhyrchu deunyddiau ar gyfer digwyddiad a'u dosbarthu
18. rhoi cyfarwyddiadau ymuno a deunyddiau am y digwyddiad i'r rhai sy'n mynd iddo
19. gwneud trefniadau ar gyfer cynnal ymarferion, os oes angen, i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn unol â'r cynllun
20. dirprwyo tasgau i aelodau tîm y digwyddiad a sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu a'u hyfforddi i gyflawni eu rolau
21. sicrhau bod yr holl gyfleusterau ac adnoddau angenrheidiol yn eu lle yn ystod y digwyddiad
22. cydlynu gweithgareddau ac adnoddau yn ystod y digwyddiad yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt
23. ymateb i anghenion y rhai sy'n bresennol trwy gydol cyfnod y digwyddiad
24. sicrhau bod y siaradwyr yn bresennol ac yn cyflwyno mewn trefn ac yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt
25. sicrhau bod yr holl gynnwys gweledol yn ei le ac yn cael ei gyflwyno mewn fformat y cytunwyd arno
26. datrys unrhyw broblemau mewn modd proffesiynol ac amserol
27. monitro cydymffurfiad â gofynion iechyd, diogelwch a diogelwch perthnasol
Ar ôl y digwyddiad
28. clirio'r lleoliad a'i adael yn unol â thelerau'r contract
29. cynnal gweithgareddau dilynol, yn ôl yr angen
30. dosbarthu'r ffurflenni adborth i bawb oedd yn bresennol
31. dadansoddi unrhyw adborth o'r digwyddiad a'i rannu ag aelodau staff perthnasol
32. cytuno ar bwyntiau dysgu allweddol a defnyddio'r rhain i gynnal digwyddiadau yn well yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cofnodion yn y dyddiadur mewn perthynas â phob apwyntiad a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â digwyddiadau
- sut i ddiweddaru'r dyddiadur i adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt
- y gwahoddiadau electronig ar gyfer y digwyddiad i bawb sy'n mynd iddo
- y trefniadau amgen os oes apwyntiadau yn cyd-daro
- y newidiadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y mynychwyr sydd wedi'u heffeithio
- sut i drefnu a chydlynu cynlluniau digwyddiadau i gyflawni amcanion y brîff
- y gwahanol fathau o ddigwyddiadau a'u prif nodweddion
- y dechnoleg ddigidol berthnasol neu'r platfform cydweithredu ar gyfer cynnal digwyddiad rhithwir
- pam mae'n bwysig profi'r technolegau cyn y digwyddiad
- sut i nodi lleoliadau addas ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau
- y mathau o adnoddau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau
- y mathau o risgiau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau a sut i sicrhau bod cyn lleied o'r rhain â phosibl
- yr offer sydd ei angen ar gyfer y digwyddiad a sut i'w brofi
- yr arddangosfeydd gweledol a'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y digwyddiad
- y math o wybodaeth fydd ei hangen ar y rhai sy'n mynd i'r digwyddiad ac unrhyw ofynion arbennig a allai fod ganddynt
- sut i gydlynu'r siaradwyr sy'n cyflwyno'u hunain yn ystod y digwyddiad yn unol â threfn ymddangos ac amserlenni y cytunwyd arnynt
- y mathau o weithgareddau ac adnoddau y gallai fod angen eu cydlynu yn ystod digwyddiad
- y mathau o broblemau a allai godi yn ystod digwyddiadau a sut i ddatrys y rhain
- y pwyntiau i'w harsylwi wrth glirio digwyddiad a'i adael
- y mathau o weithgareddau dilynol y gallai fod angen eu cynnal
- y gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd wrth drefnu digwyddiadau
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer contractau
- diben a gwerth gwerthuso digwyddiad a'r dulliau y gallwch eu defnyddio
- y mathau o bapurau y gallai fod angen eu cylchredeg ar ôl digwyddiad
- y cyfrifoldebau a'r gweithdrefnau cyllidebol
- y mathau o wybodaeth y mae'n rhaid i chi eu cael
- diben cadw'r cofnodion yn gyfredol
- diben ceisio cydbwyso anghenion pawb sy'n gysylltiedig
- y gwahanol fathau o broblemau a allai godi wrth wneud ceisiadau newydd a'r atebion i'r problemau hyn
- y ffurflenni adborth ar gyfer coladu ymatebion gwerthuso ar ôl y digwyddiad
- sut i ddadansoddi'r adborth a goladwyd a nodi pwyntiau i'w gwella
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
gwirio
cyfathrebu
gwneud penderfyniadau
sgiliau rhyngbersonol
rheoli adnoddau
rheoli amser
cynllunio
monitro
cyd-drafod
trefnu
datrys problemau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Digwyddiadau
a Chyfarfodydd; Cyfathrebu