Paratoi cyflwyniad a'i gyflwyno
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi cyflwyniad a'i gyflwyno. Rydych chi'n cytuno ar ddiben, cynnwys, arddull a hyd y cyflwyniad cyn mynd ati i ymchwilio i'r cyflwyniad a'i ddatblygu i weddu i'ch cynulleidfa. Wrth wneud y cyflwyniad, rydych yn defnyddio tôn llais, cyflymder, lefel sain ac iaith y corff i atgyfnerthu neges y cyflwyniad a chynnal diddordeb y gynulleidfa. Rydych chi'n gwneud trefniadau wrth gefn ar gyfer problemau posibl a allai godi. Mae'r safon hefyd yn cynnwys myfyrio ar ddeilliannau'r cyflwyniad i nodi pwyntiau dysgu personol a gwelliannau ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n paratoi cyflwyniadau a'u cyflwyno.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r gynulleidfa fydd yn gwrando ar y cyflwyniad a'u hanghenion
- cytuno ar amcanion, cynnwys, arddull ac amser y cyflwyniad gyda rhanddeiliaid
- ymchwilio i gynnwys i'w ddefnyddio yn y cyflwyniad
- nodi'r offer, y feddalwedd a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer creu'r cyflwyniad a'i gyflwyno
- paratoi'r cyflwyniad i fodloni amcanion ac anghenion y gynulleidfa
- paratoi taflenni a deunyddiau i ategu'r cyflwyniad
- rhoi cyfle i gydweithwyr gynnig eu syniadau a'u barn ar y dyluniad
- paratoi cynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd offer yn methu neu broblemau eraill
- ymarfer cyflwyno'ch cyflwyniad
- gwneud yn siŵr bod yr offer a'r adnoddau'n gweithio'n iawn
- paratoi deunyddiau cyflwyno ar gyfer y gynulleidfa
- cyflwyno eich hun i'r gynulleidfa a datgan nodau'r cyflwyniad
- siarad yn glir ac yn hyderus, gan ddefnyddio iaith sy'n briodol i'r pwnc a'r gynulleidfa
- defnyddio'r offer neu'r cyfarpar perthnasol i gynnal y cyflwyniad
- amrywio tôn y llais, cyflymder a lefel y sain i bwysleisio pwyntiau allweddol a chynnal diddordeb y gynulleidfa
- defnyddio iaith eich corff mewn ffordd sy'n atgyfnerthu eich neges
- mesur ymatebion y gynulleidfa yn ystod y cyflwyniad ac addasu eich cyflwyniad yn unol â hynny
- crynhoi'r pwyntiau allweddol ar ôl eich cyflwyniad
- rhoi cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau
- gwrando'n ofalus ar gwestiynau ac egluro eich dealltwriaeth
- diwallu anghenion y gynulleidfa wrth ateb cwestiynau
- casglu adborth ar y cyflwyniad
myfyrio ar eich perfformiad eich hun a nodi pwyntiau i'w dysgu
datrys unrhyw broblemau sy'n codi wrth ddatblygu, paratoi a chyflwyno
- gwerthuso'r cyflwyniad a nodi newidiadau fydd yn gwella cyflwyniadau yn y dyfodol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gadarnhau gofynion y cyflwyniad gyda rhanddeiliaid
- manteision ac anfanteision defnyddio cyflwyniadau i roi gwybodaeth
- yr offer, y feddalwedd a'r adnoddau i'w cyflwyno
- sut i ymchwilio a dewis cynnwys ar gyfer cyflwyniadau
- y gwahanol ffyrdd o ddatblygu cyflwyniadau a'u nodweddion
- sut i ddewis y dull gorau ar gyfer gwneud cyflwyniadau
- sut i baratoi cyflwyniadau diddorol, perthnasol, addysgiadol ac sy'n ymgysylltu
sut i deilwra cyflwyniadau i'r gynulleidfa i ddiwallu eu hanghenion unigol ac fel grŵp
sut gellir defnyddio taflenni a deunyddiau ategol i gynorthwyo cyflwyniadau
- sut i deilwra'r cyflwyniad i anghenion y gynulleidfa
- diben a manteision ymarfer gwneud cyflwyniadau
- yr effaith y mae iaith, iaith y corff, tôn y llais, lefel y sain a chyflymder yn ei chael ar y gynulleidfa a sut i ddefnyddio'r rhain i sicrhau'r ymgysylltiad mwyaf
- sut i ymarfer gwneud cyflwyniadau o fewn yr amser a ddyrennir
- sut i addasu'r dull cyflwyno drwy ymarfer ymlaen llaw
- sut gall taflenni gynorthwyo cyflwyniadau
- y mathau o offer a ddefnyddir ar gyfer cyflwyniadau a'u nodweddion
- pwysigrwydd gwirio offer ymlaen llaw
- sut i ddefnyddio'r offer ar gyfer gwneud cyflwyniadau
- y mathau o broblemau a allai godi gydag offer cyflwyno a sut i'w datrys
- sut i fesur ymatebion cynulleidfa i'r cyflwyniad
- pwysigrwydd ymateb yn effeithiol i gwestiynau'r gynulleidfa a'r effaith y mae hyn yn ei chael
- y dulliau casglu adborth gan y gynulleidfa ar y cyflwyniad
- sut i werthuso'r cyflwyniad o safbwynt personol a sefydliadol
- sut i nodi newidiadau yn eich ymarfer eich hun ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- cyfathrebu
- gwerthuso
- rheoli amser
- trefnu
- cynllunio
- cyflwyno