Dylunio a chynhyrchu dogfennau mewn amgylchedd busnes
URN: INSBA013
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chynhyrchu dogfennau proffesiynol o safon uchel yn unol â manylebau y cytunwyd arnynt. Mae'n cynnwys egluro'r gofynion ar gyfer y dogfennau, gwirio gwaith, golygu a chywiro'r rhain yn ôl yr angen.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes sy'n dylunio ac yn cynhyrchu dogfennau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar ddiben, cynnwys, arddull, safonau ansawdd ar gyfer y dogfennau
- cadarnhau'r dyddiadau ar gyfer cwblhau'r dogfennau
- dyrannu a pharatoi'r adnoddau gofynnol er mwyn cynhyrchu'r dogfennau
- ymchwilio i'r cynnwys gofynnol a'i baratoi
- defnyddio'r dechnoleg berthnasol er mwyn cynhyrchu'r dogfennau
- drafftio'r dogfennau yn unol â manylebau a'r fformat y cytunwyd arnynt
- adolygu'r drafftiau ac ymgorffori sylwadau adolygu
- gwirio'r dogfennau a'u diwygio yn ôl yr angen
- dylunio a chynhyrchu'r dogfennau yn yr arddull y cytunwyd arni
- integreiddio gwrthrychau nad ydynt yn destun yn y gosodiad y cytunwyd arno
- cadw a storio'r ddogfen yn ddiogel mewn lleoliadau perthnasol
- glynu wrth y ddeddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data a chyfrinachedd
- egluro gofynion dogfennau, pan fo angen
- defnyddio'r dulliau perthnasol ar gyfer rheoli fersiwn y dogfennau
- adolygu, golygu a diweddaru'r dogfennau'n rheolaidd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, cynnwys, arddull, safonau ansawdd y dogfennau
- y dyddiadau ar gyfer cwblhau'r dogfennau
- sut i ddyrannu a pharatoi'r adnoddau gofynnol er mwyn cynhyrchu'r dogfennau
- y gwahanol fformatau y gellir cyflwyno'r dogfennau ynddynt
- y gwahanol fathau o dechnoleg sydd ar gael ar gyfer mewnbynnu, fformatio a golygu dogfennau a'u prif nodweddion
- y manylebau a'r fformatau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynhyrchu'r dogfennau
- sut i geisio adolygu'r dogfennau ac ymgorffori'r sylwadau
- sut i wirio'r dogfennau, gan gynnwys sillafu a gramadeg
- sut i ddylunio'r dogfennau yn yr arddull y cytunwyd arni
- sut i integreiddio a dylunio testun a gwrthrychau nad ydynt yn destun
- sut i gadw'r ddogfen a'i storio'n ddiogel
- y ddeddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data a chyfrinachedd
- y dulliau rheoli fersiynau o'r dogfennau
- pam mae'n bwysig adolygu'r dogfennau a'u diweddaru'n rheolaidd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
gwirio
dylunio
gwrando
rheoli amser
cyd-drafod
trefnu
cwestiynu
ymchwilio
defnyddio technoleg
rheoli fersiynau
adolygu, prawfddarllen, golygu
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cynhyrchu
Dogfennau; TG; Iechyd, Diogelwch a Diogeledd Pobl, Safleoedd ac Eiddo
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFABAA211, CFABAA212
Galwedigaethau Perthnasol
Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol
Cod SOC
2441
Geiriau Allweddol
Busnes; gweinyddiaeth; dogfennau