Gweithredu gwasanaethau gweinyddol a’u cynnal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu gwasanaethau gweinyddol a'u cynnal. Nod y gwasanaethau hyn yw diwallu anghenion penodol, gan argymell gwelliannau, lle bo angen. Mae'n cynnwys gweithio gyda defnyddwyr yn rhan o'r broses ddylunio, cynllunio a gweithredu, gan wneud yn siŵr bod gwasanaethau'n cael eu defnyddio o fewn manylebau wrth gael adborth i fodloni'r gofynion. Mae'n weithgaredd cylchol gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai y bydd angen adolygu a gwerthuso rhai gwasanaethau gweinyddol, cyn cynllunio rhai newydd.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes mewn rolau goruchwylio neu reoli sy'n gyfrifol am weithredu gwasanaethau gweinyddol a'u cynnal.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gwasanaethau gweinyddol i'w cynllunio a'u gweithredu
- datblygu a chofnodi manylebau yn unol â gofynion cyfreithiol a threfniadol
- cytuno ar fanylebau a chyllidebau ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
- creu opsiynau dylunio ar gyfer gwasanaethau gweinyddol o fewn manylebau a chyllidebau y cytunwyd arnynt
- cytuno ar gynlluniau ar gyfer gweithredu gwasanaethau gweinyddol
- gwirio bod cynlluniau'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- gweithredu gwasanaethau gweinyddol yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt
- cynnwys defnyddwyr wrth gynllunio sut y caiff gwasanaethau gweinyddol eu gweithredu
- gweithio gyda defnyddwyr i fodloni gofynion ar gyfer gwasanaethau gweinyddol, systemau a gweithdrefnau i'w cynorthwyo
- rhoi cymorth i ddefnyddwyr i'w galluogi i ddefnyddio gwasanaethau gweinyddol
- cymryd camau i darfu cyn lleied â phosibl ar allbwn gwaith a'r amgylchedd gwaith wrth roi'r gwasanaeth ar waith
- monitro'r gwasanaethau gweinyddol i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio o fewn gofynion penodedig
- cymryd camau os nad yw gwasanaethau gweinyddol yn cael eu defnyddio o fewn y gofynion
- annog defnyddwyr i roi sylwadau ar wasanaethau gweinyddol ac awgrymu sut y gellid eu gwella
- casglu'r wybodaeth berthnasol ar gyfer gwerthuso gwasanaethau gweinyddol
- gwneud gwelliannau i'r gwasanaethau gweinyddol yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- cyfleu gwelliannau'r gwasanaethau gweinyddol i bawb sy'n gysylltiedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwasanaethau gweinyddol yn eich maes cyfrifoldeb eich hun
- y manylebau a'r cyllidebau ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
- lefelau eich awdurdod eich hun o ran gweithredu, monitro a chynnal gwasanaethau gweinyddol
- sut i gytuno ar fanylebau a chyllidebau ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
- sut i baratoi cynlluniau ar gyfer rhoi gwasanaethau gweinyddol ar waith
- y defnyddwyr perthnasol ar gyfer rhoi gwasanaethau gweinyddol ar waith a'u cynnal
- sut i roi cymorth wrth gynllunio gwasanaethau gweinyddol a'u rhoi ar waith
- y mathau o gymorth sydd ar gael a sut i ddewis y math mwyaf priodol o gymorth a'i roi i ddefnyddwyr gwasanaethau gweinyddol
- sut i nodi ffactorau a allai amharu ar allbwn ac amgylchedd gwaith
- sut i fonitro'r gwasanaethau gweinyddol o fewn gofynion penodol
- y camau i'w cymryd os nad yw gwasanaethau'n cael eu defnyddio o fewn y gofynion
- sut i annog defnyddwyr i wneud sylwadau ac awgrymu gwelliannau i'r gwasanaethau gweinyddol
- sut i gasglu'r wybodaeth ar gyfer gwerthuso gwasanaethau gweinyddol
- y newidiadau gofynnol i wasanaethau gweinyddol presennol neu roi rhai newydd ar waith
- sut i nodi gwelliannau posibl mewn gwasanaethau gweinyddol a'r manteision a allai ddeillio ohonynt
- pa aelodau staff perthnasol sydd angen cael gwybod am y gwelliannau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
gwirio
cyfathrebu
ymgynghori
gwneud penderfyniadau
gwrando
rheoli gwybodaeth
rheoli amser
cyd-drafod
cynllunio
darllen
ymchwilio
defnyddio technoleg
cwestiynu
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Gwasanaethau
Cymorth i Fusnesau