Cynorthwyo trafodaethau mewn amgylchedd busnes

URN: INSBA011
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo trafodaethau mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys cyfrannu at drafodaethau gyda thrydydd partïon er mwyn cyflawni amcanion a gynlluniwyd, paratoi strategaeth cyd-drafod, gwneud cynigion sy'n bodloni amcanion sefydliadol ac amcanion y trydydd parti, a chadw cofnodion cywir o ddeilliannau'r drafodaeth. Mae'n cynnwys nodi a blaenoriaethu amcanion ac unrhyw le i gyfaddawdu cyn y drafodaeth, awgrymu atebion i oresgyn problemau a sicrhau y ceir cytundeb sy'n bodloni'r holl bartïon dan sylw, lle bo hynny'n bosibl.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cynorthwyo trafodaethau mewn amgylchedd busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi strategaeth drafod ar gyfer yr holl faterion perthnasol
  2. nodi a blaenoriaethu amcanion ac unrhyw le i gyfaddawdu cyn i'r trafodaethau ddechrau
  3. nodi'r amcanion y gallai'r trafodwr/trafodwyr eraill fod yn ceisio eu cyflawni
  4. ymchwilio ac asesu cryfderau sefyllfa cyd-drafod y trafodwr/trafodwyr eraill, cyn i'r trafodaethau gael eu cynnal
  5. nodi unrhyw broblemau posibl mewn trafodaethau ac awgrymu atebion i'w goresgyn
  6. sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r trafodaethau yn cael eu briffio a'u paratoi'n llawn cyn i'r trafodaethau gael eu cynnal
  7. cynorthwyo trafodaethau yn unol â fframweithiau masnachol a moesegol
  8. paratoi cynigion sy'n bodloni amcanion a bennwyd ar gyfer yr holl bartïon o dan sylw
  9. sicrhau bod pawb yn deall ac ymateb i'w ymholiadau a'u gwrthwynebiadau
  10. ymgynghori ag uwch-staff sy'n gwneud penderfyniadau pan fydd materion yn codi sy'n gofyn am lefel uwch o awdurdod i gytuno arnynt
  11. sicrhau bod cytundeb sydd er boddhad pawb sy'n rhan o'r trafodaethau, lle bo hynny'n bosibl
  12. sicrhau bod y trafodaethau'n cael eu cwblhau mewn ffordd sy'n creu ewyllys da ac yn hyrwyddo delwedd broffesiynol o'r sefydliad
  13. cadw cofnodion o'r trafodaethau a'r deilliannau a chytuno arnynt gyda'r holl bartïon dan sylw
  14. coladu a dadansoddi'r gwersi a ddysgwyd pan nad yw'r trafodaethau wedi bod yn llwyddiannus
  15. adolygu eich technegau cyd-drafod yn rheolaidd i nodi gwelliannau a'u rhoi ar waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y strategaethau a'r technegau cyd-drafod
  2. y broses o gyd-drafod mewn amgylchedd busnes
  3. y fframweithiau masnachol a moesegol sy'n berthnasol i drafodaethau
  4. rolau a lefelau cyfrifoldeb cydweithwyr gwaith cyn y trafodaethau
  5. y manteision o fod wedi pennu amcanion a pharatoi cyfleoedd i gyfaddawdu
  6. rolau a lefelau cyfrifoldeb cydweithwyr yn ystod y broses gyd-drafod
  7. y gwahaniaethau mewn diwylliant a allai effeithio ar y trafodaethau 
  8. diben a manteision bod yn hyblyg yn ystod trafodaethau wrth barhau i geisio cyflawni amcanion penodol
  9. y deilliannau a bennwyd ar gyfer trafodaethau
  10. diben cadw at y brîff a lefel yr awdurdod yn ystod trafodaethau
  11. sut i sicrhau bod ewyllys da yn cael ei gynnal yn ystod trafodaethau a'r manteision o gyflawni hyn
  12. y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch y dylech ymgynghori â nhw pan mae'r problemau y tu hwnt i'ch gwybodaeth neu'ch awdurdod chi
  13. sut i sicrhau bod y trafodaethau'n cael eu cwblhau
  14. diben a manteision cadw cofnodion o drafodaethau
  15. y gwersi a ddysgwyd a pham mae'n bwysig eu defnyddio i wella trafodaethau pellach

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. cyfathrebu

  2. cyd-drafod

  3. cynllunio

  4. datrys problemau

  5. gwneud cynigion

  6. adrodd

  7. ymchwilio


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Cyfrifoldebau gwaith; Gwasanaethau Cymorth i Fusnesau;


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAG123, CFABAG124

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; trafodaethau