Cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid a’i werthuso

URN: INSBA010
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid a'i werthuso. Gall y cwsmeriaid fod yn rhai mewnol ac yn allanol i'ch sefydliad. Mae'n cynnwys nodi anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid, cyflwyno gwasanaethau yn unol ag amserlenni a safonau amser y cytunwyd arnynt, a chymryd camau i wella gwasanaethau ar sail adborth gan gwsmeriaid.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid a'i werthuso.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Nodi anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid

1.       meithrin perthnasoedd gwaith gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol

2.       nodi anghenion cwsmeriaid a'u cadarnhau

3.       cytuno ar amserlenni a safonau ansawdd gyda chwsmeriaid

4.       rheoli disgwyliadau pob cwsmer er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu bodloni

Cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid

5.       darparu gwasanaethau yn unol ag amserlenni a safonau ansawdd y cytunwyd arnynt

6.       dilyn y gweithdrefnau sefydliadol os na chedwir at amserlenni y cytunwyd arnynt

7.       gwneud yn siŵr bod anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid yn cael eu diwallu

8.       dilyn y gweithdrefnau cywir er mwyn mynd i'r afael â chwynion mewn modd proffesiynol ac o fewn amserlenni penodol

Monitro a gwerthuso gwasanaeth i gwsmeriaid

9.       cael adborth gan gwsmeriaid a'i gofnodi

10.   dadansoddi adborth gan gwsmeriaid a'i werthuso

11.   cymryd camau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

12.   dilyn y ddeddfwriaeth gyfreithiol a pherthnasol o ran diogelu data mewn cysylltiad â chyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid a thrin gwybodaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o gynhyrchion a gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad i gwsmeriaid mewnol ac allanol
  2. egwyddorion gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. diben a manteision cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n bodloni disgwyliadau cwsmeriaid neu'r rhagori arnynt
  4. sut i feithrin perthnasoedd gwaith gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol
  5. sut i reoli disgwyliadau cwsmeriaid a'u bodloni
  6. y mathau o safonau ansawdd sy'n briodol i'ch cyfrifoldebau eich hun
  7. sut i gadw at amserlenni a safonau ansawdd gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol
  8. sut i fonitro boddhad cwsmeriaid mewnol ac allanol
  9. y mathau o broblemau y gall cwsmeriaid mewnol ac allanol eu profi a sut i'w prosesu a'u datrys neu eu cyfeirio
  10. y gweithdrefnau perthnasol i'w dilyn wrth fynd i'r afael â chwynion
  11. y technegau ar gyfer casglu a dadansoddi adborth cwsmeriaid mewnol ac allanol
  12. diben a manteision gwella'n barhaus
  13. y ddeddfwriaeth gyfreithiol berthnasol ac o ran diogelu data mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a thrin gwybodaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. gwerthuso

  2. monitro

  3. datrys problemau

  4. cwestiynu

  5. gwrando

  6. cyd-drafod


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAC121

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; gwasanaeth i gwsmeriaid