Cydweithredu a rhoi cymorth mewn amgylchedd busnes

URN: INSBA009
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chydweithredu a rhoi cymorth mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys cydweithredu ag aelodau staff eraill er mwyn cyflawni nodau ac amcanion y sefydliad.  Mae'n cynnwys cynorthwyo aelodau'r tîm, rhannu nodau gwaith, amcanion, gofyn am adborth a gweithio mewn ffordd sy'n cydnabod cryfderau neu wendidau eich cydweithwyr ac aelodau staff eraill, yn ogystal â chyflwyno a hyrwyddo delwedd broffesiynol o'ch sefydliad. Mae'r safon hon yn mynd i'r afael â chynllunio, datrys a gwerthuso problemau busnes hefyd.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cydweithredu ac yn rhoi cymorth mewn amgylchedd busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio mewn ffordd sy'n ategu cenhadaeth eich sefydliad ac amcanion eich tîm
  2. ymgorffori gwerthoedd eich sefydliad yn eich arferion gwaith
  3. croesawu cyfleoedd i weithio gyda chydweithwyr eraill i gyflawni deilliannau penodol
  4. dilyn polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'ch swydd
  5. gweithio gyda'ch cydweithwyr ac aelodau staff eraill er mwyn cynnal delwedd broffesiynol o'ch sefydliad
  6. rhannu nodau gwaith a chynllunio amcanion gwaith gyda'ch cydweithwyr ac aelodau staff eraill
  7. gofyn am arweiniad gan gydweithwyr ac aelodau staff eraill, pan fo angen
  8. cyfrannu at wella amcanion, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd y sefydliad
  9. gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid allanol mewn ffordd sy'n hyrwyddo delwedd broffesiynol o'ch sefydliad
  10. rhoi cymorth i aelodau eraill y tîm fel sy'n briodol
  11. gweithio mewn ffordd sy'n cydnabod cryfderau neu wendidau eich cydweithwyr ac aelodau staff
  12. cyfathrebu â chydweithwyr, aelodau staff eraill a rhanddeiliaid
  13. cyfeirio problemau ac anghytundebau at aelod staff priodol
  14. cydnabod problem fusnes os oes un yn bodoli
  15. dadansoddi'r broblem fusnes, gan goladu gwybodaeth ychwanegol yn ôl yr angen
  16. trafod y broblem fusnes gyda chydweithwyr neu uwch-aelodau staff
  17. cytuno ar ddull o ddatrys y broblem fusnes
  18. gofyn am adborth gan gydweithwyr ac aelodau staff eraill i wella'ch gwaith eich hun
  19. rhannu adborth ar gyfer nodi gwelliannau neu ar gyflawni amcanion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cylch gwaith eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn y gwaith
  2. sut i weithio mewn ffordd sy'n ategu cenhadaeth gyffredinol eich sefydliad ac amcanion eich tîm
  3. sut mae eich rôl yn rhan o strwythur y sefydliad ac yn cyfrannu at ei weithrediadau
  4. sut i weithio gyda chydweithwyr ac aelodau staff eraill i gyflawni deilliannau a bennwyd
  5. diben gweithio gyda chydweithwyr ac aelodau staff eraill i gyflawni nodau ac amcanion
  6. polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd y sefydliad sy'n berthnasol i'ch rôl eich hun
  7. sut i ymgorffori gwerthoedd eich sefydliad yn eich ymarfer gwaith
  8. pwy i ymgynghori â nhw ynghylch polisïau, amcanion a gwerthoedd sefydliadol
  9. pam mae gweithio gyda chydweithwyr ac aelodau staff eraill yn gallu cyflawni deilliannau penodol
  10. diben rhannu nodau a chynlluniau gwaith wrth weithio gyda chydweithwyr ac aelodau staff eraill
  11. sut i gyfrannu at wella amcanion, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd
  12. y dulliau cyfathrebu â chydweithwyr, aelodau staff eraill a rhanddeiliaid
  13. sut i nodi pan fydd problem fusnes yn bodoli
  14. dulliau dadansoddi problem fusnes a gwybodaeth ychwanegol i'w chynorthwyo
  15. yr adnoddau sydd eu hangen i ddatrys problemau busnes
  16. sut i weithio mewn ffordd sy'n cydnabod cryfderau neu wendidau cydweithwyr ac aelodau staff eraill
  17. sut i weithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid allanol mewn ffordd sy'n hyrwyddo delwedd broffesiynol o'ch sefydliad
  18. y mathau o broblemau ac anghytundebau sy'n gallu digwydd wrth weithio gydag eraill a sut i'w datrys
  19. diben rhoi a derbyn adborth adeiladol
  20. sut i ddefnyddio adborth i wella'ch gwaith chi a gwaith eich cydweithwyr ac aelodau staff eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. cyfathrebu
  2. rheoli amser
  3. cyd-drafod
  4. cynllunio
  5. datrys problemau
  6. datrys anghytundeb
  7. gweithio mewn tîm
  8. gweithio gydag eraill

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Cyfrifoldebau gwaith; Gwasanaethau Cymorth i Fusnesau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAG1210, CFABAG1211, CFABAG129

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; gwaith tîm