Ymgymryd ag arferion gwaith a’u hategu mewn amgylchedd busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd ag arferion gwaith ategol mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys cefnogi diben a gwerthoedd eich sefydliad, asesu a rheoli risgiau, cynnal diogelwch a chyfrinachedd, yn ogystal â hyrwyddo amrywiaeth a chynaliadwyedd.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes sydd mewn rolau goruchwylio neu reoli ac sy'n gyfrifol am ymgymryd arferion gwaith a'u hategu mewn amgylchedd busnes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cefnogi diben a gwerthoedd eich sefydliad
1. cefnogi cenhadaeth gyffredinol eich sefydliad ac amcanion eich tîm
2. nodi diben, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd eich sefydliad
3. rhoi gwerthoedd eich sefydliad ar waith ym mhob agwedd ar eich gwaith
4. gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid allanol mewn ffordd sy'n gwella delwedd eich sefydliad
5. gwella eich arferion gwaith yn unol ag amcanion, polisïau, systemau, gweithdrefnau a gwerthoedd y sefydliad
Asesu a rheoli risgiau
6. nodi ffynonellau risg posibl
7. asesu lefelau risgiau
8. monitro a lliniaru risgiau
9. nodi unrhyw risgiau posibl a'u rheoli pan mae'r rhain yn digwydd
10. gwerthuso eich dulliau asesu a rheoli risgiau
Cynnal diogelwch a chyfrinachedd
11. cynnal diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth gyfredol ynghylch diogelu data a defnyddio technolegau
12. rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch diogelwch a chyfrinachedd i'r aelod staff neu'r asiantaeth berthnasol
Cefnogi amrywiaeth
13. sefydlu a chynnal amgylchedd gwaith sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn parchu pob aelod staff yn eich sefydliad
14. gweithio gyda chydweithwyr a defnyddio eu profiad i wella eich arferion gwaith a'ch dulliau cyfathrebu
15. rhyngweithio â chydweithwyr mewn modd proffesiynol sy'n parchu eu cefndir, galluoedd, gwerthoedd, arferion a chredoau
16. cynnal hawliau aelodau staff, pan fo angen
17. dilyn gweithdrefnau a gofynion cyfreithiol eich sefydliad mewn cysylltiad â deddfwriaeth cydraddoldeb
Cynorthwyo cynaliadwyedd
18. sefydlu gweithdrefnau rheoli gwastraff a'u cynnal
19. cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl a dilyn gweithdrefnau ar gyfer ailgylchu a gwaredu deunyddiau gwastraff
20. dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cynnal a chadw offer
21. mynd ati'n barhaus i adolygu dulliau gweithio, gan gynnwys defnyddio technoleg, a ffyrdd o wella effeithlonrwydd
22. nodi offer a deunyddiau sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian
23. cynorthwyo cydweithwyr i berfformio yn y ffordd orau a rhoi'r gwerth mwyaf i'r sefydliad
24. sefydlu a chynnal gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chadw offer
25. gwella'ch dulliau gweithio a'r defnydd o dechnoleg i gynorthwyo cynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cefnogi diben a gwerthoedd eich sefydliad
1. cenhadaeth eich sefydliad ac amcanion y tîm
2. diben, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd eich sefydliad
3. cylch gwaith eich cyfrifoldebau gwaith a'ch awdurdod
4. yr arferion gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid allanol
5. sut i wella eich arferion gwaith yn unol â nodau ac amcanion y sefydliad
Asesu a rheoli risgiau
6. ffynonellau'r risgiau yn y gwaith rydych chi'n ei wneud
7. sut i asesu a monitro risgiau
8. y dulliau monitro risg a'i liniaru
9. pwysigrwydd adolygu a gwerthuso sut i nodi risgiau
Cynnal diogelwch a chyfrinachedd
10. diben a manteision cynnal diogelwch a chyfrinachedd
11. gweithdrefnau eich sefydliad a'r ddeddfwriaeth gyfredol ynghylch diogelu data a defnyddio technolegau
12. sut i roi gwybod i'r aelod staff neu'r asiantaeth berthnasol am unrhyw bryderon ynghylch diogelwch a chyfrinachedd
Cefnogi amrywiaeth
13. beth yw ystyr amrywiaeth a pham y dylid ei werthfawrogi
14. yr amgylchedd gwaith sy'n hyrwyddo amrywiaeth ac yn parchu pob aelod staff yn eich sefydliad
15. diben a manteision gweithio gyda chydweithwyr a defnyddio eu profiad i wella eich arferion gwaith a'ch dulliau cyfathrebu
16. y dulliau rhyngweithio â chydweithwyr gan barchu eu cefndir, galluoedd, gwerthoedd, arferion a chredoau
17. manteision cefnogi amrywiaeth yn eich sefydliad
18. sut i sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn cefnogi amrywiaeth ac yn gwneud y defnydd gorau o ddoniau pawb sy'n gysylltiedig
19. sut i gynnal hawliau aelodau staff
20. y ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn cynorthwyo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn amgylchedd gwaith
Cynorthwyo cynaliadwyedd
21. prif achosion gwastraff mewn amgylchedd gweinyddu busnes a sut i sicrhau bod cyn lleied o'r rhain â phosibl
22. y gofynion cymdeithasol a chyfreithiol ar gyfer ailgylchu gwastraff a'i waredu a'r gweithdrefnau sefydliadol sydd ar waith i gynorthwyo'r rhain
23. sut y gall cynnal a chadw offer yn rheolaidd helpu i leihau gwastraff a'r gweithdrefnau y dylech eu rhoi ar waith
24. sut i ddefnyddio technoleg i helpu i wella arferion gwaith
25. sut i gynnwys pob rhanddeiliad er mwyn gwella dulliau gweithio yn barhaus a'r defnydd o dechnoleg er mwyn bod mor effeithlon â phosibl
26. sut i ddewis ffynonellau deunyddiau ac offer sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian
27. diben a manteision ystyried cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol wrth ddewis cyflenwyr
28. eich dulliau gweithio a'r defnydd o dechnoleg i gefnogi cynaliadwyedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- cyfathrebu
- sgiliau rhyngbersonol
- monitro
- cynllunio
- datrys problemau
- darllen
- gweithio mewn tîm
- gweithio gydag aelodau staff eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Adnoddau
Busnes