Paratoi a chydlynu cynlluniau a gweithdrefnau gweithredol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chydlynu cynlluniau a gweithdrefnau gweithredol. Mae'r safon yn cwmpasu'r polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol gan gynnwys parchu amrywiaeth a gwarchod diogelwch a chyfrinachedd. Mae'n cynnwys nodi risgiau a chynlluniau wrth gefn, sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd orau a bod camau gweithredu yn cael eu cydlynu yn unol â'r cynllun. Mae ar gyfer gweinyddwyr sy'n gyfrifol am baratoi, cydlynu a monitro cynlluniau gweithredol a gweithdrefnau gwaith.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n paratoi ac yn cydlynu cynlluniau a gweithdrefnau gweithredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- paratoi cynlluniau i gydlynu gweithrediadau perthnasol er mwyn cyflawni'r deilliannau a nodwyd
- nodi'r camau gweithredu er mwyn sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar gael ar gyfer cyflawni'r deilliannau y cytunwyd arnynt
- diffinio amserlen ar gyfer cyflawni deilliannau yn unol ag amcanion penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac â therfyn amser (CAMPUS) i gynorthwyo gwaith monitro
- sicrhau bod cynlluniau yn cyd-fynd â blaenoriaethau, amcanion a chyfyngiadau sefydliadol
- rhannu'r cynllun â'r holl randdeiliaid perthnasol a chael eu cymeradwyaeth
- nodi risgiau a pharatoi cynlluniau wrth gefn i sicrhau bod y deilliannau'n cael eu cyflawni
- monitro a diweddaru cynlluniau yn rheolaidd i adlewyrchu newidiadau i'r deilliannau neu'r amcanion
- gwneud yn siŵr bod aelodau staff perthnasol yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau o fewn y cynlluniau gweithredol
- cydlynu'r gweithgareddau er mwyn cyflwyno cynlluniau gweithredol
- rhoi gwybod am newidiadau mewn cynlluniau sy'n effeithio ar ddulliau gwaith a gweithgareddau lle bo angen
- cytuno ar gamau cywiro os nad yw gweithrediadau yn cyd-fynd â chynlluniau
- cadw pob cofnod yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol a diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- hyd a lled eich awdurdod wrth baratoi cynlluniau gweithredol a'u cydlynu
- yr aelodau staff fydd yn gysylltiedig â pharatoi cynlluniau gweithredol
- blaenoriaethau, amcanion a chyfyngiadau perthnasol y sefydliad
- sut i nodi risgiau a chynlluniau wrth gefn wrth gynllunio gweithrediadau
- pwrpas gosod amcanion penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac â therfyn amser (CAMPUS) a sut i wneud hynny
- manteision cyfathrebu clir wrth baratoi gweithrediadau a'u cydlynu
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol mewn perthynas â chynlluniau gweithredol
- yr ystod o dechnegau ac offer cynllunio
- sut i nodi a blaenoriaethu deilliannau ar gyfer cynlluniau gweithredol
- sut i nodi'r gweithredoedd, yr adnoddau a'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni deilliannau'r cynlluniau gweithredol y cytunwyd arnynt
- sut i fonitro'r cynllun yn erbyn y deilliannau a'r amcanion y cytunwyd arnynt
- manteision mynd ati'n barhaus i chwilio am gyfleoedd i wella
- diben cynnal diogelwch a chyfrinachedd
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a'r gofynion cyfreithiol a diogelu data o ran diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
cyfathrebu
sgiliau rhyngbersonol
darllen
gweithio mewn tîm