Llywio a chynorthwyo prosesau gwneud penderfyniadau sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â llywio a chynorthwyo prosesau gwneud penderfyniadau sefydliadol. Mae'n cynnwys ymchwilio i'r wybodaeth, ei chyflwyno, ac ymgysylltu â chydweithwyr sy'n ymwneud â phrosesau gwneud penderfyniadau. Mae hefyd yn cynnwys cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, cofnodi a chyfleu penderfyniadau a wneir gan y corff llywodraethu, a sicrhau bod gweithdrefnau llywodraethu a phenderfyniadau'r sefydliad yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, sefydliadol, amgylcheddol a moesegol.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n llywio ac yn cynorthwyo prosesau gwneud penderfyniadau sefydliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Ymchwilio i wybodaeth a'i choladu er mwyn cynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
1. ymchwilio i wybodaeth i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
2. coladu gwybodaeth er mwyn datblygu'r syniadau a'r argymhellion ar gyfer gwneud penderfyniadau
3. cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chyfrannu at y trafodaethau wrth wneud penderfyniadau
4. rhoi gwybodaeth wedi'i choladu i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
5. cysylltu â chydweithwyr sy'n rhan o'r broses o wneud penderfyniadau
6. asesu cyfraniadau a wneir i'r broses o wneud penderfyniadau
7. nodi meini prawf a chytuno arnynt ar gyfer gwneud penderfyniadau
8. adolygu gwybodaeth i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
9. cyfiawnhau'r penderfyniadau a wneir trwy ddefnyddio tystiolaeth, dadleuon, cwestiynu a phendantrwydd
10. gwerthuso'r dulliau ar gyfer monitro effaith penderfyniadau
11. defnyddio gwersi a ddysgwyd i wella'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol
Hyrwyddo a hwyluso llywodraethu sefydliadol
12. nodi a chadarnhau cyfrifoldebau llywodraethu sefydliadol a sicrhau bod y staff perthnasol yn deall y rhain
13. rhoi gwybodaeth a chyngor i alluogi'r broses o wneud penderfyniadau
14. cofnodi'r penderfyniadau a wneir gan y corff llywodraethu a'u cyfathrebu
15. sicrhau bod llywodraethu a phenderfyniadau sefydliadol yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, sefydliadol, amgylcheddol a moesegol
Cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol sefydliadol
16. cadarnhau cyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol sefydliadol
17. asesu a gwerthuso goblygiadau cyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol
18. cyfleu'r safonau moesegol a chymdeithasol perthnasol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
19. rhoi gwybodaeth a chyngor ar safonau moesegol a chymdeithasol perthnasol fel bod modd gwneud penderfyniadau effeithiol
20. sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a phenderfyniadau'r sefydliad yn ystyried cyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Ymchwilio i wybodaeth a'i choladu er mwyn cynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
1. y ffynonellau gwybodaeth wrth baratoi i wneud y penderfyniadau
2. y meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau
3. sut i ymchwilio i wybodaeth a'i choladu i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
4. sut i gyfrannu mewn cyfarfodydd a thrafodaethau lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud
5. y ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth i hyrwyddo trafodaeth a llywio penderfyniadau
6. dulliau cofnodi a chyfleu gwybodaeth a phenderfyniadau sefydliadol
7. sut i gyfathrebu â chydweithwyr ac aelodau'r tîm yn y broses benderfynu
8. sut i adolygu a gwerthuso'r wybodaeth yr ymchwiliwyd iddi
9. sut i strwythuro syniadau, gwybodaeth ac argymhellion i gynyddu eu heffaith i'r eithaf
10. dulliau monitro effaith penderfyniadau
11. sut i goladu'r gwersi a ddysgwyd i wella'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol
Hyrwyddo a hwyluso llywodraethu sefydliadol
12. cwmpas, diben a manteision systemau a gweithdrefnau llywodraethu
13. rolau, cyfrifoldebau ac arwyddocâd pawb sy'n ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys ei randdeiliaid
14. y gweithdrefnau ar gyfer cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â llywodraethu
15. y dulliau cofnodi amcanion sefydliadol a systemau llywodraethu
16. diben ac effeithiau cwrdd â gofynion cyfreithiol a rheoliadol, cyfrifoldebau amgylcheddol a moesegol sy'n ymwneud â llywodraethu
17. goblygiadau diffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol sy'n ymwneud â llywodraethu
18. diben ac effeithiau gofynion cyfreithiol a dulliau trin gwybodaeth gyfrinachol a sensitif
19. y codau ymarfer perthnasol
20. y ffynonellau gwybodaeth a'r rhwydweithiau sy'n ymwneud â chyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol a diben cyflawni'r cyfrifoldebau hyn
21. y datganiad o genhadaeth ac amcanion, strategaethau a pholisïau sefydliadol
22. diben ac effeithiau gofynion cyfreithiol a rheoliadol, a'ch cyfrifoldebau moesegol mewn cysylltiad â chyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol y sefydliad
23. goblygiadau diffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol mewn cysylltiad â chyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol y sefydliad
Cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfrifoldebau moesegol a chymdeithasol sefydliadol
24. y camau allweddol yn y broses o wneud penderfyniadau
25. y cyd-destunau y mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud ynddynt
26. eich rôl yn cynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau
27. sut i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau
28. sut i fod yn rhagweithiol ac ymgysylltu â chydweithwyr yn ystod y broses o wneud penderfyniadau
29. sut i asesu cyfraniadau a wneir i'r broses o wneud penderfyniadau a gwerthfawrogi mewnbynnau
30. sut i adolygu'r broses o wneud penderfyniadau
31. sut i ddefnyddio'r dystiolaeth, dadleuon, cwestiynu a phendantrwydd i gyfiawnhau penderfyniadau
32. y cysyniad o gyfrifoldeb ar y cyd a pham mae hynny'n bwysig
33. sut i werthuso ffyrdd o fonitro effaith penderfyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
dadansoddi
cyfathrebu
gwerthuso
blaenoriaethu
datrys problemau
adrodd
ymchwilio