Datblygu a chydlynu perfformiad sefydliadol
URN: INSBA004
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
08 Chwef 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chydlynu perfformiad sefydliadol. Mae'n cynnwys nodi a blaenoriaethu ffactorau perfformiad allweddol a chytuno arnynt, helpu defnyddwyr i roi'r gweithdrefnau ar waith, gwerthuso'r gweithdrefnau ac argymell newidiadau. Mae hefyd yn cynnwys nodi, datblygu, gweithredu a gwerthuso gwelliannau mewn perfformiad corfforaethol, yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoliadol.
Mae'r safon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n datblygu ac yn cydlynu perfformiad sefydliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu a nodi'r wybodaeth berthnasol am berfformiad sefydliadol
- nodi a blaenoriaethu'r dangosyddion perfformiad sefydliadol yn erbyn amcanion, strategaethau a pholisïau corfforaethol
- cytuno ar ddangosyddion a dulliau mesur ansoddol a meintiol o berfformiad sefydliadol
- dadansoddi a dehongli cyfleoedd ar gyfer gwella perfformiad sefydliadol
- nodi ac argymell systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- cytuno ar weithredu systemau a gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad sefydliadol
- dadansoddi canlyniadau systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- gwerthuso systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- argymell newidiadau i berfformiad sefydliadol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau perthnasol
- cadarnhau'r newidiadau sydd i'w gwneud o fewn amserlenni a therfynau amser y cytunwyd arnynt
- cynorthwyo'r gwaith o wneud penderfyniadau sefydliadol trwy gyflwyno a chyfathrebu'r canfyddiadau a'r canlyniadau
- helpu cydweithwyr ac aelodau'r tîm i fabwysiadu'r newidiadau i berfformiad sefydliadol
- monitro ac adolygu effaith ac effeithiolrwydd newidiadau i gynorthwyo'r gwaith o wneud penderfyniadau yn y dyfodol
- coladu gwersi a ddysgwyd o'ch profiad i lywio prosesau pellach a gwella arferion sefydliadol
- cymhwyso theori ac ymarfer gwella perthnasol i'ch prosesau sefydliadol
- sicrhau bod y cyfrifoldebau moesegol yn cael eu cyflawni wrth argymell cyfleoedd i wella perfformiad sefydliadol
- dilyn y gofynion cyfreithiol a rheoliadol yn cael eu dilyn wrth ddadansoddi cyfleoedd i wella perfformiad sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau coladu a nodi'r wybodaeth berthnasol am berfformiad sefydliadol
- amcanion, strategaethau a pholisïau sefydliadol
- mathau o systemau monitro perfformiad sefydliadol a dangosyddion perfformiad
- sut i ddatblygu systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- y dangosyddion a'r dulliau ansoddol a meintiol o fesur perfformiad sefydliadol
- sut i ddadansoddi a dehongli dilysrwydd gwybodaeth am berfformiad
- systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- dulliau gweithredu systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- sut i ddadansoddi a gwerthuso effaith systemau a gweithdrefnau monitro perfformiad sefydliadol
- y ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth i gydweithwyr ac aelodau'r tîm i fabwysiadu'r newid a chynorthwyo penderfyniadau
- y dulliau cyfathrebu â chydweithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- sut i fonitro ac adolygu effaith ac effeithiolrwydd newidiadau mewn perfformiad corfforaethol
- pam mae'n bwysig coladu gwersi a ddysgwyd o'ch profiad
- y theori a'r ymarfer gwella perthnasol i'ch prosesau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol sy'n ymwneud â monitro amcanion, strategaethau a pholisïau sefydliadol
- y cyfrifoldebau moesegol sy'n ymwneud â monitro amcanion, strategaethau a pholisïau sefydliadol
- goblygiadau diffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol sy'n ymwneud â monitro amcanion, strategaethau a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
dadansoddi
cyfathrebu
gwerthuso
cyd-drafod
cynllunio
blaenoriaethu
datrys problemau
ymchwilio
adrodd
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFABAH121, CFABAH122, CFABAH123
Galwedigaethau Perthnasol
Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth
Cod SOC
2441
Geiriau Allweddol
Busnes; gweinyddiaeth; perfformiad sefydliadol