Cyfrannu at arloesedd mewn amgylchedd busnes
URN: INSBA002
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
08 Chwef 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at arloesedd mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys cynhyrchu, datblygu a gwerthuso syniadau ar gyfer arloesedd mewn amgylchedd busnes. Mae hefyd yn cynnwys nodi ffyrdd posibl o wella arferion gwaith, cynhyrchion neu wasanaethau ac ymchwilio iddynt, gwerthuso'r syniadau a'u haddasu yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd.
Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n ymwneud â chyfrannu at arloesedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi arferion gwaith cyfredol yn y sefydliad
- nodi arloesedd posibl o ran dulliau gweithio, gwasanaethau neu gynhyrchion, ac ymchwilio iddynt
- coladu gwybodaeth i ategu'r arloesedd gyda'ch syniadau eich hun
- gwerthuso eich syniadau yn erbyn y meini prawf y cytunwyd arnynt yn ogystal â nodau ac amcanion sefydliadol
- nodi costau a manteision eich syniadau a dadansoddi eu heffaith ar ddulliau gweithio, gwasanaethau neu gynhyrchion
- cynnal dadansoddiad risg o'ch syniadau
- asesu pa mor gystadleuol yw eich syniadau
- cwestiynu eich syniadau a'ch rhagdybiaethau er mwyn datblygu cysyniadau a chynigion
- gwerthuso potensial eich syniadau gyda chydweithwyr ac aelodau'r tîm, gan nodi'r gwelliannau gofynnol
- rhannu eich syniadau â chydweithwyr ac aelodau'r tîm a'u hyrwyddo
- datblygu cynnig ffurfiol i ddylanwadu ar y rhanddeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- coladu'r adborth ac adolygu eich syniadau a'ch arferion gwaith
- gwella eich syniadau a'ch arferion gwaith o'r gwersi a ddysgwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr arferion gwaith yn y sefydliad ar hyn o bryd
- ystod y dulliau gweithio, gwasanaethau neu gynhyrchion yn eich sefydliad
- sut i ymchwilio i welliannau posibl er mwyn cynorthwyo'r arloesedd
- gwerth arloesedd ac atebion newydd i broblemau cyfredol
- sut i werthuso syniadau, gan gynnwys dadansoddi cost, budd ac effaith
- dulliau cynnal y dadansoddiad risg
- sut i asesu pa mor gystadleuol yw eich syniadau
- sut i gwestiynu eich syniadau a'ch rhagdybiaethau er mwyn datblygu cysyniadau a chynigion
- dulliau perthnasol o werthuso'ch syniadau a sut i gyflwyno gwelliannau
- sut i gyfathrebu eich syniadau a'ch arferion gwaith a'u hyrwyddo
- sut i ddatblygu cynigion a'u dogfennu
- sut i goladu adborth i adolygu eich syniadau a'ch arferion gwaith
- gwerth myfyrio ar sail y gwersi a ddysgwyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
dadansoddi
cyfathrebu
gwerthuso
cyd-drafod
trefnu
perswadio
cynllunio
datrys problemau.
cwestiynu
adolygu
dadansoddi risg
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Systemau
Cymorth i Fusnesau; Rheoli Gwybodaeth
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFABAA112, CFABAA113
Galwedigaethau Perthnasol
Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol
Cod SOC
2441
Geiriau Allweddol
Busnes; gweinyddiaeth; arloesedd