Cynorthwyo i roi newid ar waith mewn amgylchedd busnes

URN: INSBA001
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i roi newid ar waith mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys casglu gwybodaeth, cynorthwyo'r broses newid a'r strategaeth gyfathrebu, a nodi mecanweithiau cynorthwyo ar eich cyfer chi a'ch cydweithwyr. Mae'r safon yn trafod y strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â newid yn rhan o'ch rôl, sy'n cynnwys nodi, dadansoddi, gwerthuso a blaenoriaethu tueddiadau a digwyddiadau sy'n effeithio ar y ffordd y mae'r sefydliad yn gweithredu. Mae'r safon yn cynnwys ystyried gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol ar gyfer maes eich cyfrifoldebau a cheisio cyngor arbenigol lle bo hynny'n briodol.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cynorthwyo'r gwaith o roi newid ar waith, ond nad ydynt, o bosibl, yn atebol am gynllunio neu reoli'r broses.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi ar gyfer newid trwy gasglu gwybodaeth am gryfderau a gwendidau eich maes gwaith
  2. cynorthwyo'r broses o newid yn eich maes gwaith
  3. cyfrannu at gynlluniau ar gyfer newid
  4. sicrhau bod y dulliau perthnasol ar waith i nodi'r ffactorau sefydliadol mewnol ac allanol
  5. nodi a blaenoriaethu ffactorau mewnol ac allanol ar sail eu perthnasedd i'ch sefydliad
  6. dadansoddi a gwerthuso tueddiadau a digwyddiadau o ran eu goblygiadau i'ch sefydliad
  7. nodi a gwerthuso gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol a'u blaenoriaethu
  8. ceisio cyngor arbenigol ar ddehongliadau o ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol, lle bo angen
  9. rhoi gwybodaeth i'r cydweithwyr perthnasol ac aelodau'r tîm er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau
  10. esbonio pam mae angen newid wrth eich cydweithwyr
  11. cynorthwyo gyda'r strategaeth gyfathrebu i greu parodrwydd ar gyfer newid
  12. addasu i newid o fewn amserlenni penodol
  13. nodi mecanweithiau cymorth i chi eich hun a'ch cydweithwyr yn ystod y broses newid
  14. cytuno ar y camau sy'n ofynnol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o ran tueddiadau a digwyddiadau sy'n effeithio ar newid
  15. cynorthwyo cydweithwyr yn ystod newid a chynnal y broses
  16. gofyn cwestiynau am y broses newid pan fyddwch yn ansicr
  17. cyfrannu at werthuso newid
  18. sicrhau bod unrhyw gamau yn bodloni'r gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol maes eich cyfrifoldebau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. natur ffactorau sefydliadol mewnol ac allanol
  2. cenhadaeth ac amcanion eich sefydliad
  3. strategaethau a pholisïau eich sefydliad
  4. sut i baratoi ar gyfer newid yn eich maes gwaith
  5. y rhesymau dros newid a chyflymder y newid mewn sefydliadau
  6. effaith seicolegol newid ar aelodau'r tîm yn y gweithle
  7. eich rôl eich hun wrth hwyluso newid yn y gwaith
  8. sut i addasu i newid yn eich rôl eich hun
  9. gwerth gweld newid fel cyfle i'r busnes, y sefydliad, y tîm a chi eich hun
  10. y mathau o fecanweithiau cymorth ar eich cyfer chi eich hun a'ch cydweithwyr yn ystod y broses newid
  11. sut i roi newid yn y gwaith mewn persbectif
  12. y strategaethau ar gyfer ymdopi â newid neu ddysgu sut i reoli'r ffordd y mae newid yn effeithio ar eich maes gwaith eich hun
  13. sut i werthuso effaith newid yn y gweithle
  14. dulliau monitro a dadansoddi'r ffactorau sefydliadol mewnol ac allanol
  15. natur y dylanwadau allanol sy'n effeithio ar eich sefydliad
  16. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol a'r cyfrifoldebau moesegol sy'n ymwneud â dylanwadau allanol a allai effeithio ar fuddiannau sefydliadol
  17. goblygiadau diffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol
  18. y dulliau cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth gyda chydweithwyr, aelodau'r tîm a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  19. y dulliau cytuno a'r camau gweithredu i fodloni gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol maes eich cyfrifoldebau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. addasu i newid
  2. dadansoddi
  3. cyfathrebu
  4. clywed
  5. cyd-drafod
  6. blaenoriaethu
  7. datrys problemau
  8. cwestiynu
  9. adrodd
  10. ymchwilio

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Cyfrifoldebau Gwaith


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA111, CFABAH114

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; amgylchedd; newid