Gwirio gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd (helgig gwyllt)
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wirio gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd (FSMP) mewn helgig gwyllt. Mae gwirio FSMP yn bwysig i gynhyrchu cynnyrch terfynol sy’n bodloni gofynion sefydliadol a rheoleiddiol. Mae’r safon hon yn berthnasol i’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â monitro FSMP ar safleoedd helgig gwyllt.
Bydd angen i chi allu:
• Monitro’r gwaith o baratoi a diberfeddu rhywogaethau anifeiliaid hela gwyllt i sicrhau bod safonau diogelwch bwyd yn cael eu cynnal
• Darganfod diffygion mewn safonau paratoi, hylendid y carcas ac unrhyw enghreifftiau bod y carcas ddim yn cydymffurfio, a chymryd y camau gweithredu gofynnol
• Monitro cyflwyniad carcasau i’w harolygu i sicrhau bod eu cyflwyniad yn cydymffurfio â gofyniad deddfwriaeth bresennol
• Monitro trin a thrafod carcasau ar ôl marw a gweithredu a chynnal dulliau rheoli tymheredd
• Monitro sut caiff offal bwytadwy ac anfwytadwy ei drin
Mae’r safon hon i chi os ydych chi’n gweithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd a/neu weithrediadau cyflenwi ac rydych yn ymwneud â gwirio gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd (helgig gwyllt).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Monitro arferion, prosesau a gweithdrefnau diogel ar safleoedd helgig gwyllt
- gwirio bod y paratoi yn cael ei wneud yn hylan a bod holl groen anifeiliaid sy’n cael eu blingo yn ystod eu lladd yn cael eu gwaredu cyn arolygu
- gwirio a yw amodau hylendid cyffredinol y ffatri’n cael eu cynnal i safonau sy’n gyson â gofynion FSMP sefydliadol
- gwirio bod gweithrediadau diberfeddu’n cael eu gwneud yn hylan
- gwirio nad yw carcasau ac offal yn dod i gysylltiad â’i gilydd cyn yr arolygiad terfynol
- gwirio bod pob rhan briodol o’r carcas ac offal ar gael i’w harolygu, wedi’u cyfatebu yn gywir, a’u cyflwyno i’w harolygu yn y modd sydd wedi’i ragnodi gan yr FSMP sefydliadol
- gwirio bod carcasau ac offal wedi’u hoeri i’r tymheredd gofynnol a’u cynnal fel y nodir yn yr FSMP sefydliadol
- gwirio nad yw carcasau ac offal wedi’u hamlygu i halogiad ar ôl iddynt gyrraedd y safle cymeradwy a chyn eu dosbarthu
- o bryd i’w gilydd, monitro bod gwiriadau cofnodion a chofnodi tymereddau o fewn cyfleusterau oeri a thymereddau’r cynnyrch yn cael eu cyflawni
- monitro tymheredd carcasau sy’n cyrraedd a charcasau sy’n aros i’w dosbarthu
- gwirio bod offal yn cael ei baratoi a’i becynnu mewn ystafelloedd ar wahân yn unol â’r FSMP sefydliadol, ac eithrio’r gweithredoedd hynny y caniateir iddynt gael eu cyflawni yn ystod y broses ladd
- nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio â’r FSMP sefydliadol a chymryd y camau priodol Cynnal arolygiad iechyd ar ôl marwolaeth ar helgig gwyllt
- gwirio bod y wisg briodol yn cael ei gwisgo a bod yr holl gyfarpar a chyfleusterau ategol angenrheidiol ar gael i gyflawni’r arolygiad priodol
- gwirio bod carcasau ac offal, lle y mae’n bresennol, yn cael eu cyflwyno’n gywir i’w harolygu ac arolygu pob carcas, offal bwytadwy ac offal anfwytadwy, lle y bo’n bresennol, yn unol â’r FSMP sefydliadol
- dilyn gweithdrefnau penodedig ar gyfer cadw cig carcas, ei wrthod yn rhannol a’i wrthod yn llwyr; felly hefyd offal, lle y bo’n bresennol
- llunio barn am amodau penodol a dilyn y cyfarwyddiadau manwl sydd wedi’u cynnwys yn yr FSMP sefydliadol
- gwirio bod y cyfarpar ategol priodol ar gael i farcio carcasau a bod y cig y mae’r marc ansawdd yn gymwys i gael ei gymhwyso iddo yn cael ei farcio yn y modd rhagnodedig
- cymhwyso’r marc iechyd adeg yr arolygiad mewn modd sy’n sicrhau ei fod yn gwbl ddarllenadwy a’i fod yn y lleoliad cywir, yn unol â’r FSMP sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gweithdrefnau, yr arferion a’r problemau sy’n gysylltiedig â lladd, paratoi a diberfeddu anifeiliaid hela gwyllt
- yr FSMP sy’n berthnasol i weithrediadau hylendid mewn safleoedd helgig gwyllt
- y cofnodion i’w cynnal gan y deiliad a chan yr arolygiaeth yn gysylltiedig â lladd a phrosesu helgig gwyllt
- y wisg gywir a’r cyfarpar ategol angenrheidiol sy’n ofynnol i gyflawni eich dyletswyddau mewn ffatri helgig gwyllt
- y weithdrefn arolygu sy’n berthnasol i bob rhywogaeth anifail hela gwyllt sydd wedi’u pennu mewn rheoliadau, gan gynnwys datganiad yr heliwr
- y gweithdrefnau ar gyfer cadw, gwrthod yn rhannol a gwrthod yn llwyr helgig gwyllt ac offal y mae amheuaeth nad ydynt yn addas i’w bwyta gan bobl, neu ystyrir nad ydynt yn addas i’w bwyta gan bobl
- y barnau sy’n ofynnol yn gysylltiedig ag amodau penodol sy’n cael eu darganfod neu eu hamau yn ystod arolygu helgig gwyllt ac offal
- y gweithdrefnau a’r amodau sy’n gysylltiedig â nodi/marcio iechyd helgig gwyllt o dan reoliadau presennol
- beth sy’n cael ei ystyried yn ddiffyg cydymffurfio o dan delerau FSMP sefydliadol
- y camau priodol i’w cymryd pan nodir diffyg cydymffurfio â’r FSMP sefydliadol