Arunigo ac ailegnioli systemau foltedd uchel mewn cerbyd trydan
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu cerbyd trydan a’i arunigo fel ei fod yn ddiogel gweithio arno. Hefyd, mae’n cwmpasu ailegnioli’r cerbyd ar ôl cyflawni’r gwaith gofynnol.
At ddibenion y safon hon, cerbyd trydan yw unrhyw gerbyd sy’n cael ei yrru’n rhannol neu’n gyfan gwbl gan drydan. Byddai hyn yn cynnwys:
• Hybrid (HEV) – yn cynnwys cerbydau hybrid ysgafn/micro lle’r ystyrir bod y foltedd yn beryglus.
• Hybrid Plygio i Mewn (PHEV)
• Cerbyd Trydan Pellter Estynedig (ER-EV) neu Gerbyd Trydan ag Ymestynnwr Pellter (RE-EV)
• Cerbyd Trydan Batri (BEV) neu Gerbyd Trydan Pur (PEV)
• Cerbyd Trydan Celloedd Tanwydd (FCEV).
Rhybudd: Mae arbenigwyr y diwydiant yn argymell mai dim ond pobl â hyfforddiant a phrofiad addas o weithio gyda cherbydau trydan ddylai gyflawni’r swyddogaethau isod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 Dod o hyd i leoliad gwybodaeth berthnasol am y cerbyd a’i defnyddio i bennu unrhyw beryglon posibl
P2 Nodi unrhyw beryglon posibl trwy gynnal asesiad risg dynamig o’r cerbyd
P3 Nodi cydrannau a cheblau foltedd uchel
P4 Hysbysu cydweithwyr perthnasol o’ch bwriad i weithio ar gerbyd foltedd uchel
P5 Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol cywir wrth arunigo ac ailegnioli’r system foltedd uchel
P6 Sicrhau bod yr ardal waith yn cael ei nodi’n glir a’i gwneud yn ddiogel
P7 Dilyn gweithdrefnau’r gweithgynhyrchwr i arunigo ac ailegnioli’r system foltedd uchel
P8 Gweithio mewn ffordd sy’n lleihau risg:
P8.1 anaf i chi’ch hun ac i eraill
P8.2 difrod i’ch amgylchedd gwaith
P8.3 difrod i systemau, cydrannau ac unedau eraill cerbyd
P9 Paratoi, gwirio a defnyddio’r holl gyfarpar profi priodol gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr
P10 Dilyn argymhellion y gweithgynhyrchwr i sicrhau bod y foltedd gweddilliol o fewn manyleb y gweithgynhyrchwr wrth arunigo’r system foltedd uchel
P11 Defnyddio dulliau profi addas i werthuso’n gywir berfformiad y system foltedd uchel wedi’i hailegnioli, gan sicrhau ei bod yn perfformio yn unol â manylebau gweithredu’r gweithgynhyrchwr a gofynion cyfreithiol
P12 Cyfeirio unrhyw broblemau gyda’r broses at unigolyn perthnasol yn eich gweithle
P13 Sicrhau bod cofnodion yn gywir, yn gyflawn ac yn cael eu trosglwyddo i’r unigolyn/unigolion perthnasol yn brydlon, yn y fformat gofynnol.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Defnyddio gwybodaeth dechnegol
K1 Y gwahanol fathau o gerbyd trydan a’u systemau trydanol
K2 Y derminoleg sy’n cael ei defnyddio o fewn systemau cerbydau trydan
K3 Sut i ddarganfod, dehongli a defnyddio ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i arunigo ac ailegnioli systemau foltedd uchel cerbyd trydan
K4 Pwysigrwydd gwybod sut a ble i gael at wybodaeth berthnasol am systemau penodol y cerbyd trydan
K5 Sut i bennu lleoliad a llwybr y cydrannau a’r ceblau foltedd uchel
K6 Systemau diogelwch cerbyd foltedd uchel penodol sy’n berthnasol i’ch gwaith
Gofynion a gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol
K7 Y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer neu ganllawiau diwydiant a gweithdrefnau atgyweirio a diogelwch presennol gwneuthurwr penodol y cerbyd sy’n berthnasol i weithio gyda cherbydau trydan
K8 Y peryglon sy’n gysylltiedig â gweithio gyda cherbydau trydan a sut i’w nodi
K9 Sut i ddewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol cywir a phriodol
K10 Sut i weithio mewn ffordd sy’n lleihau risg:
K10.1 anaf i chi’ch hun ac i eraill
K10.2 difrod i’ch amgylchedd gwaith
K10.3 difrod i systemau, cydrannau ac unedau eraill cerbyd
K11 Goblygiadau dargludedd trydanol trwy’r corff dynol
K12 Goblygiadau meysydd magnetig cryf a’r effeithiau ar ddyfeisiau meddygol
K13 Gweithdrefnau’r gweithle y mae’n rhaid eu dilyn os bydd sioc drydanol neu argyfyngau eraill
K14 Gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer atgyfeirio/rhoi gwybod am broblemau wrth weithio gyda cherbydau trydan
K15 Sut i roi gwybod i bobl eraill bod gwaith yn cael ei wneud ar gerbydau trydan
K16 Canllawiau penodol y gweithgynhyrchwr a’r rhagofalon sy’n angenrheidiol wrth wefru cerbyd trydan, cysylltu ffynhonnell bŵer ategol ato neu dynnu/codi cerbyd trydan
K17 Y peryglon sy’n gysylltiedig â cherbydau trydan pan fyddant yn dod i gysylltiad â thymereddau eithafol, effaith ac amodau andwyol eraill
Defnyddio cyfarpar profi
K18 Sut i ddewis a defnyddio’r cyfarpar profi trydanol cywir sy’n ofynnol
K19 Sut i raddnodi a phrofi cyfarpar cyn ei ddefnyddio
Arunigo ac ailegnioli systemau foltedd uchel cerbyd
K20 Sut i arunigo ac ailegnioli system foltedd uchel cerbyd trydan gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr
K21 Sut i brofi’n gywir bod y foltedd gweddilliol islaw manyleb y gweithgynhyrchwr yn dilyn y broses arunigo
K22 Sut i ddehongli canlyniadau profion a gwneud argymhellion ar sail y canlyniadau hyn a phwysigrwydd seilio argymhellion ar ganlyniadau profion
K23 Sut i brofi a gwerthuso perfformiad y system yn erbyn manylebau gweithredu’r gweithgynhyrchwr a gofynion cyfreithiol
K24 Pwysigrwydd sicrhau bod pob system cerbyd foltedd uchel yn gweithredu’n gywir ac yn ddiogel cyn rhyddhau’r cerbyd i’r cwsmer
Cwmpas/ystod
- Cerbyd – unrhyw gerbyd sy’n cael ei yrru’n rhannol neu’n gyfan gwbl gan drydan. Byddai hyn yn cynnwys
1.1. Hybrid (HEV) – yn cynnwys cerbydau hybrid ysgafn/micro lle’r ystyrir bod y foltedd yn beryglus.
1.2. Hybrid Plygio i Mewn (PHEV)
1.3. Cerbyd Trydan Pellter Estynedig (ER-EV) neu Gerbyd Trydan ag Ymestynnwr Pellter (RE-EV)
1.4. Cerbyd Trydan Batri (BEV) neu Gerbyd Trydan Pur (PEV)
1.5. Cerbyd Trydan Celloedd Tanwydd (FCEV) - Mae dulliau profi yn cynnwys:
2.1. synhwyraidd
2.2. gweithredol
2.3. mesur - Mae cydrannau yn cynnwys:
3.1. batris/stac, pod, modiwl
3.2. moduron
3.3. ceblau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae’r adran hon yn cynnwys enghreifftiau ac esboniadau o rai o’r termau a ddefnyddiwyd, ond nid yw’n llunio rhan o’r safon.
Peryglon sy’n gysylltiedig â chydrannau cerbydau trydanol foltedd uchel – maent yn bodoli nid yn unig yn ystod gwaith ar systemau foltedd uchel, fel y’u pennir uchod, ond hefyd ar bob system yrru drydanol pŵer uchel a systemau storio pwysedd uchel. Dylid dilyn canllawiau gwneuthurwyr cerbydau a chyfarpar bob amser.
Foltedd uchel – Rheoliad Rhif 100 y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Ewrop y Cenhedloedd Unedig (UNECE) — Dywed darpariaethau unffurf ynghylch cymeradwyo cerbydau o ran gofynion penodol ar gyfer y trên pŵer trydanol: Ystyr ‘Foltedd Uchel’ yw dosbarthiad cydran neu gylched trydan, os yw ei foltedd gweithio yn 60 V ac ≤ 1 500 V DC neu > 30 V ac ≤ 1 000 V AC isradd sgwâr cymedrig (rms). Dylid dilyn Rheoliadau Trydan yn y Gwaith (1989), a chanllawiau cysylltiedig yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) bob amser.
Ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i gerbydau trydan
Mae enghreifftiau’n cynnwys copïau caled o ganllawiau, data ar gyfrifiadur neu ddata a gafwyd o ddangosyddion diagnostig yn y cerbyd.
Gweithrediadau ar, ger neu gyda cherbyd trydan
Unrhyw weithgaredd nad yw’n cynnwys gweithio ar y systemau a’r cydrannau foltedd uchel.