Eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan

URN: HSCCLD49
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau a gweithio gyda nhw i asesu mathau addas o eiriolaeth mewn sefyllfaoedd penodol. Mae hefyd yn cynnwys mynd ati eich hunan i eirioli gydag unigolion yn ogystal â chefnogi unigolion i gael mynediad at eiriolaeth annibynnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu gallu unigolion i ddefnyddio systemau a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed mewn prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
  2. esbonio ac egluro hawl unigolyn i gael mynediad at eiriolaeth annibynnol neu eich defnyddio chi neu eraill mewn rôl eiriolaeth
  3. cynorthwyo unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau eirioli annibynnol
  4. cynorthwyo unigolion i ddewis y gwasanaeth neu’r eiriolwr annibynnol mwyaf addas
  5. cadarnhau eich bod chi neu ddarpar eiriolwyr eraill yn addas i weithredu ar ran unigolion
  6. myfyrio ar unrhyw brofiadau yn y gorffennol a allai ddylanwadu ar yr eiriolwr a ddewisir
  7. nodi ac asesu’r math o eiriolaeth sy’n cyd-fynd orau â dewisiadau, anghenion ac amgylchiadau unigolion
  8. canfod a yw unigolion yn dymuno i chi weithredu fel eiriolwr ar eu rhan mewn sefyllfa benodol
  9. mynd ati gydag unigolion i egluro’r canlyniadau a ddymunir ar gyfer eiriolaeth a chanlyniadau posibl eraill
  10. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau
  11. cynorthwyo unigolion i ddeall cysyniadau pŵer a grymuso mewn gwahanol sefyllfaoedd
  12. egluro prosesau a gweithdrefnau i helpu unigolion i gymryd rhan mor llawn â phosibl
  13. gweithio gydag unigolion i baratoi gwybodaeth sy'n cynrychioli eu buddiannau gorau
  14. cynorthwyo unigolion i gymryd rhan mewn prosesau i’r graddau maent yn dymuno ac yn gallu
  15. helpu unigolion i friffio eiriolwyr annibynnol
  16. cyflwyno achos gydag unigolion neu ar eu rhan er mwyn gyflawni’r canlyniadau a ddymunir
  17. mynd ati gyda’r unigolyn i gadarnhau canlyniadau cymryd rhan ac unrhyw benderfyniadau a wnaed
  18. cyfathrebu canlyniadau eiriolaeth mewn ffyrdd y gall unigolion eu deall
  19. cyflawni'r rôl a'r cyfrifoldebau rydych chi wedi cytuno arnynt yn ystod trefniadau eirioli
  20. gwneud penderfyniadau proffesiynol am wrthdaro rhwng buddiannau a allai godi petaech yn gweithredu fel eiriolwr
  21. herio systemau neu brosesau sy’n arwain at rwystrau rhag cyfranogi
  22. adolygu effeithiolrwydd y cymorth a roddir i unigolion
  23. adolygu effeithiolrwydd eiriolaeth gydag unigolion
  24.   cefnogi unigolion i adolygu effeithiolrwydd eiriolaeth annibynnol
  25. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan  
  26. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unigolion ac eraill
  2. egwyddorion a dulliau grymuso  
  3. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan
  4. yr ystod o wasanaethau ac adnoddau eirioli lleol a chenedlaethol, a sut mae cael gafael arnynt
  5. egwyddorion a dulliau eirioli
  6. sut mae cyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth i wahanol gynulleidfaoedd mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys rhai digidol
  7. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan
  8. agweddau at ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y gwasanaethau eirioli sydd eu hangen  
  10. sut mae delio â cheisiadau am eiriolaeth mewn ffordd sy'n cynorthwyo rheoleiddio emosiynol
  11. dylanwad diwylliant a chefndir ar y gwasanaethau eirioli mae unigolion eu hangen ac yn gofyn amdanynt
  12. sut mae derbyn, monitro a gwerthuso adborth am wasanaethau eirioli
  13. sut mae cefnogi unigolion i fynegi pryderon a defnyddio gweithdrefnau cwyno
  14. y ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth drafod a chytuno ar newidiadau i eiriolaeth
  15. theorïau sy’n berthnasol i eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan
  18. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan, a sut i fynd i’r afael â hyn
  19. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth eirioli gydag unigolion ac ar eu rhan

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD49

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Eirioli, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu