Arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion

URN: HSCCLD48
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer arwain ymarfer er mwyn sicrhau a diogelu hawliau unigolion. Mae’n cynnwys gwreiddio a chynnal diwylliant sy’n seiliedig ar hawliau mewn systemau ac agweddau at ymarfer, gan arwain at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn cynnwys grymuso unigolion i ymarfer eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill, gan arwain ymarfer sy’n cynnwys unigolion yn y broses o wneud penderfyniadau a chyd-gynhyrchu gwasanaethau gofal neu gymorth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. arwain ymarfer sy'n arddangos diwylliant o ymarfer gwrth-wahaniaethol sy'n hybu urddas a phreifatrwydd unigolion
  2. modelu a datblygu diwylliant o ddiogelwch seicolegol sy’n ddibynadwy ac sy’n gwerthfawrogi trefniadau cyfathrebu a chydweithio agored  
  3. creu diwylliant cyfartal, cynhwysol, amrywiol sy’n seiliedig ar hawliau yn y gweithle  
  4. hybu hawliau unigolion i gael gafael ar wybodaeth amdanynt eu hunain mewn fformatau hygyrch, ac i wneud sylwadau a chwynion  
  5. arwain ymarfer sy’n grymuso unigolion i ddadlau dros eu hawliau, eu gwerthoedd, eu diwylliant, eu ysbrydolrwydd a'u dewisiadau  
  6. arwain ymarfer sy’n grymuso unigolion i ymarfer eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill
  7. arwain ymarfer sy’n cefnogi unigolion i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus am eu bywydau a’u llesiant  
  8. sicrhau bod hawliau, gwerthoedd a dewisiadau unigolion wrth wraidd pob gweithred a phenderfyniad  
  9. hybu hawliau unigolion i reoli risg ac i gymryd risgiau cadarnhaol  
  10. ymyrryd a chymryd camau i fynd i'r afael â gwahaniaethu gan unigolion, eraill a’r gweithle
  11. cydnabod a chefnogi unigolion gyda chymhlethdod y penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud i gydbwyso eu hawliau, eu gwerthoedd a'u dewisiadau â rhai pobl eraill  
  12. cefnogi unigolion i adnabod strategaethau ar gyfer ymdopi â rheoleiddio emosiynol wrth ddelio â heriau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau  
  13. datrys problemau gydag unigolion ac eraill i fynd i’r afael â heriau o ran hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau
  14. cydweithio ag unigolion ac eraill i gyd-gynhyrchu, cynnal a gwerthuso systemau ac agweddau at ymarfer sy’n hybu ac yn gwarchod cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  15. arwain archwiliad mewnol o wybodaeth ac arferion gweithio sy’n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  16. rhoi adborth i wella effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  17. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  18. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw nodweddion gwarchodedig  
  2. y gwahanol fathau o wahaniaethu a'r ymddygiad a allai fod yn fynegiant o'r rhain
  3. croestoriadedd a sut mae’n berthnasol i wahaniaethu  
  4. effeithiau posibl stigma, stereoteipio, rhagfarn a labelu ar unigolion  
  5. egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, hawliau a chydraddoldeb  
  6. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ymdrin â heriau i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau  
  7. y rhagdybiaethau a'r gorthrwm sy'n amgylchynu gwahanol grwpiau a'r ffyrdd y mae hyn yn cael ei ymgorffori mewn cymdeithas  
  8. sut mae sicrhau bod hawliau ac anghenion unigolion yn cael eu cynrychioli, gan ddefnyddio eiriolwyr, technoleg ddigidol a dehonglwyr  
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  10. effaith anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd ac iechyd  
  11. pwysigrwydd rhoi gofal tosturiol i gefnogi llesiant ysbrydol  
  12. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  13. sut mae grymuso unigolion i ymarfer eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill  
  14. dylanwad diwylliant a chefndir ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  15. sut mae gweithio ag eraill i hybu hawliau, gwerthoedd, credoau a dewisiadau  
  16. cymhlethdod y penderfyniadau y mae angen i unigolion eu gwneud i gydbwyso eu hawliau, eu gwerthoedd a'u dewisiadau â rhai pobl eraill  
  17. sut a ble i gael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  18. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  19. egwyddorion asesiadau risg, rheoli risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol  
  20. sut mae systemau’n effeithio ar hawliau unigolion a phwrpas dylunio systemau sy’n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  21. dulliau cyd-gynhyrchu wrth ddatblygu, cynnal a gwerthuso systemau i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  22. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  23. theorïau sy’n berthnasol i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  24. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain ymarfer sy'n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  25. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  26. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn  
  27. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD48

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant, Hawliau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu