Arwain effeithiolrwydd timau

URN: HSCCLD46
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer arwain effeithiolrwydd tîm. Mae'n cynnwys cydlynu rolau o fewn y tîm, meithrin arferion tîm, cefnogi cyfranogiad llawn, a chynnal safonau proffesiynol uchel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. arwain ac annog y tîm i gymryd perchnogaeth dros ganlyniadau a gweledigaeth y gweithle  
  2. arwain y gwaith o weithredu systemau cyfathrebu, datblygu, monitro ac adolygu i gyflawni canlyniadau'r tîm a gweledigaeth y gweithle  
  3. cydweithio i gefnogi’r tîm i gymryd perchnogaeth dros gyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau cyffredinol  
  4. arwain a hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau er mwyn parchu a gwerthfawrogi eraill  
  5. meithrin diwylliant o arweinyddiaeth ar y cyd a hybu arloesedd, creadigrwydd, dysgu a gwella perfformiad
  6. modelu ac arwain safonau moesegol, ymarfer proffesiynol ac atebolrwydd
  7. cyfathrebu’n broffesiynol ac yn effeithiol ag eraill  
  8. creu amgylcheddau sy'n cefnogi rhannu syniadau, safbwyntiau a phryderon i gydweithio’n well
  9. arwain a rheoli timau drwy arferion newydd a chymhleth, yn ogystal â newid
  10. cefnogi timau i reoli deinameg grŵp, datrys gwrthdaro a chanfod atebion i broblemau
  11. grymuso timau i reoli eu harferion iechyd meddwl a llesiant meddyliol eu hunain
  12. modelu arferion iechyd meddwl a llesiant meddyliol
  13. cefnogi timau i fonitro ac adolygu perfformiad gan nodi meysydd i’w gwella
  14. ategu gwerthoedd, cryfderau a chynnydd timau tuag at gyflawni canlyniadau
  15. cefnogi timau i reoli eu hymrwymiadau gwaith ac i gadw at derfynau amser  
  16. datblygu a rhannu eich gwybodaeth a’ch sgiliau i arwain timau effeithiol
  17. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain effeithiolrwydd timau
  18. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain effeithiolrwydd timau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y systemau cyfathrebu, datblygu, monitro ac adolygu gwahanol sy’n cefnogi canlyniadau'r tîm a gweledigaeth y gweithle
  2. sut mae annog y tîm i gymryd perchnogaeth dros ganlyniadau a gweledigaeth y gweithle
  3. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i wreiddio arferion sy’n ystyriol o drawma mewn timau
  4. pwysigrwydd arweinyddiaeth ar bob lefel yn y gweithle ac arweinyddiaeth gan ddinasyddion
  5. rôl arweinyddiaeth ar y cyd wrth hybu diwylliant o arloesedd, creadigrwydd, dysgu a gwella perfformiad
  6. pwysigrwydd safonau moesegol, ymarfer proffesiynol ac atebolrwydd uchel
  7. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain effeithiolrwydd timau
  8. dulliau ar gyfer ymgysylltu â thimau a sicrhau bod y cyfathrebu'n glir ac yn gynhwysol
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth weithio’n effeithiol ag eraill
  10. ffactorau sy’n creu amgylcheddau seicolegol diogel ac sy’n annog rhannu syniadau, safbwyntiau a phryderon
  11. sut mae arddangos empathi a gwrando’n weithredol
  12. dulliau o ryngweithio a sut y gallant effeithio ar waith tîm  
  13. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd wrth weithio’n effeithiol ag eraill
  14. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth weithio gydag eraill
  15. pwysigrwydd hybu urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio gydag eraill
  16. technegau a dulliau ar gyfer cefnogi rheoleiddio emosiynol, gwytnwch a llesiant timau
  17. sut mae cefnogi timau i fonitro ac adolygu perfformiad gan nodi meysydd i’w gwella
  18. pwysigrwydd ategu gwerth a chryfderau timau, yn ogystal â'u cynnydd tuag at gyflawni canlyniadau
  19. sut mae rheoli pryderon am berfformiad  
  20. effaith blaenoriaethau gwaith a sut mae cefnogi timau mewn cyfnodau prysur a llawn straen
  21. sut mae defnyddio hyfforddi a mentora i arwain effeithiolrwydd timau
  22. eich cryfderau arwain, meysydd i'w datblygu a strategaethau gwella  
  23. sut mae datblygu a rhannu eich gwybodaeth a’ch sgiliau i arwain timau effeithiol
  24. sut mae defnyddio technoleg ddigidol newydd a datblygol i arwain effeithiolrwydd timau
  25. egwyddorion cynaliadwyedd a sut mae arwain timau'n effeithiol i integreiddio'r egwyddorion hyn mewn ymarfer bob dydd  
  26. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain effeithiolrwydd timau
  27. theorïau sy’n berthnasol i arwain effeithiolrwydd timau
  28. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain effeithiolrwydd timau
  29. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain effeithiolrwydd timau
  30. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain effeithiolrwydd timau, a sut i fynd i'r afael â hyn
  31. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain effeithiolrwydd timau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD46

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arwain, effeithiolrwydd timau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu