Arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth

URN: HSCCLD45
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth gydag unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion i ddatblygu cynlluniau gofal neu gymorth i fynd i’r afael â’u dewisiadau a’u hanghenion a rheoli cofnodion o’r cynlluniau mewn ffyrdd sy’n dangos perchnogaeth unigolion ohonynt. Mae hefyd yn cynnwys arwain y gwaith o roi’r cynlluniau ar waith a’u diwygio gyda chefnogaeth eraill i gwrdd â dewisiadau ac anghenion sy’n newid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth i unigolion
  2. asesu, a chefnogi eraill i asesu, anghenion, dyheadau a dewisiadau unigolion
  3. gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i gadarnhau canlyniadau cynlluniau gofal neu gymorth
  4. mynd ati gydag unigolion ac eraill i gyd-ddylunio cynlluniau personol sy’n adlewyrchu eu gwerthoedd, eu blaenoriaethau a’u canlyniadau
  5. grymuso a chefnogi annibyniaeth unigolion i sicrhau ymreolaeth, dewis a diogelwch
  6. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i reoli’r gwrthdaro rhwng dewisiadau personol, barn unigol, a pholisïau’r gweithle
  7. darparu gwybodaeth ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i ddewisiadau ac anghenion unigolion i lywio cynlluniau gofal neu gymorth
  8. arwain y gwaith o ddatblygu prosesau asesu risg sy’n nodi’r risgiau posibl ac yn cefnogi cymryd risgiau cadarnhaol
  9. sicrhau bod cynlluniau gofal neu gymorth yn defnyddio iaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
  10. sicrhau bod cynlluniau ar gael i unigolion ac eraill yn y fformat a’r iaith o’u dewis
  11. arwain y gwaith o roi cynlluniau gofal neu gymorth ar waith, gan nodi lle na fu’n bosibl cwrdd â dewisiadau a pham
  12. cefnogi’r adolygiadau o gynnydd tuag at ganlyniadau a sicrhau bod newidiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y cynlluniau gofal neu gymorth
  13. mynd i’r afael â heriau sy’n deillio o newidiadau i adnoddau yn ogystal â dewisiadau, anghenion ac amgylchiadau unigolion  
  14. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  15. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rôl eraill o ran cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, monitro ac adolygu cynlluniau gofal neu gymorth  
  2. sut mae nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynllunio gofal neu gymorth
  3. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i sicrhau bod cynlluniau gofal neu gymorth yn adlewyrchu eu dewisiadau a’u hanghenion
  4. sut mae ystyried dewisiadau ac anghenion holistaidd unigolion wrth ddatblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal neu gymorth
  5. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  6. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  7. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  8. sut mae cydbwyso dewisiadau ac anghenion unigolion â barn pobl eraill    
  9. dulliau i gefnogi unigolion ac eraill i fynegi eu barn, rheoli gwrthdaro, a deall eu dewisiadau a’u hanghenion eu hunain o fewn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  10. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  11. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod y gwaith cynllunio gofal neu gymorth
  12. sut mae sicrhau bod cynlluniau gofal neu gymorth yn cael eu cyflwyno mewn fformatau hygyrch  
  13. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  14. sut mae caffael a chael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cynlluniau gofal neu gymorth
  15. dulliau ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol wrth gynllunio gofal neu gymorth, gan gynnwys pryderon diogelu  
  16. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  17. y camau, y gweithdrefnau, y cofnodion a’r adroddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddatblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal neu gymorth
  18. y gwahaniaeth rhwng cynllunio sy’n cael ei arwain gan anghenion a chynllunio sy’n cael ei arwain gan wasanaeth, a sut mae hyn yn dylanwadu ar yr adolygiad a newidiadau i gynlluniau gofal neu gymorth
  19. strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â newidiadau posibl mewn adnoddau, gwasanaethau neu amgylchiadau personol  
  20. yr heriau posibl sy'n gysylltiedig ag adolygu a newid cynlluniau gofal neu gymorth i’r unigolyn
  21. theorïau sy’n berthnasol i arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth  
  22. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  23. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth
  24. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y broses o gynllunio gofal neu gymorth, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD45

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynllunio Gofal neu Gymorth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu