Arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill

URN: HSCCLD44
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi â’r gwaith o ddatblygu arferion sy’n cefnogi hawliau, cynhwysiant a llesiant unigolion, ac yn hybu diogelu. Mae’r safon yn ymdrin â datblygu a gwerthuso ymarfer ataliol ac mae’n cynnwys gweithredu mewn perthynas ag achosion o niwed neu gamdriniaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau mynediad at bolisïau a gweithdrefnau diogelu yn eich gweithle
  2. sicrhau mynediad at wybodaeth am y gofynion diogelu a’r asesiadau risg ar gyfer unigolion
  3. hybu diwylliant sy’n gwreiddio diogelu mewn arferion bob dydd  
  4. annog eraill i gefnogi annibyniaeth, hyder a hunan-barch unigolion er mwyn sicrhau eu diogelwch personol a’u gallu i wneud penderfyniadau  
  5. hybu diwylliant sy’n grymuso unigolion i fynegi eu hanghenion, eu meddyliau a’u hemosiynau ynghylch diogelwch personol a diogelu
  6. modelu arferion sy’n dangos gwerthfawrogiad a pharch at farn, dewisiadau a phenderfyniadau unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol er mwyn cefnogi canlyniadau  
  7. caffael a chefnogi unigolion ac eraill i gael gafael ar adnoddau, dyfeisiau ac adnoddau digidol, a’u defnyddio, i gefnogi diogelwch personol
  8. gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi ymddygiad, sefyllfaoedd ac arwyddion a allai fod yn niweidiol neu'n gamdriniol, a chymryd camau i leihau’r risgiau hyn neu gael gwared arnynt yn gyfan gwbl  
  9. gweithredu a chefnogi eraill i ddilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu pan fydd niwed neu gamdriniaeth yn cael ei amau neu ei ddatgelu  
  10. arwain y gwaith o hybu cydweithio ag eraill i ddiogelu unigolion  
  11. rhannu gwybodaeth ac asesiadau risg i lywio arferion diogelu a chefnogi eraill i wneud hynny  
  12. gwerthuso effeithiolrwydd systemau diogelu ac arferion ataliol  
  13. grymuso unigolion ac eraill i gyfrannu at y gwaith o werthuso systemau diogelu ac arferion ataliol  
  14. gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i nodi, adolygu a gweithredu unrhyw newidiadau sydd eu hangen i systemau diogelu ac arferion ataliol
  15. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o niwed, camdriniaeth, esgeulustod ac ecsbloetiaeth
  2. beth yw ystyr ymddygiad y cyflawnwr a meithrin perthynas amhriodol, yr arwyddion, sut y gall godi a'r camau i'w cymryd
  3. beth yw bwlio, yr arwyddion, sut y gall godi, a’r camau i'w cymryd
  4. dylanwad pŵer a sut i sicrhau nad yw’n cael ei gamddefnyddio gan eraill i guddio pryderon diogelu  
  5. y ffactorau a allai gynyddu'r perygl o niwed neu gamdriniaeth
  6. sut mae gwreiddio niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol mewn arferion diogelu  
  7. yr arwyddion a allai ddangos bod unigolion neu eraill mewn perygl o gael eu niweidio neu eu cam-drin, neu eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol  
  8. y mathau o gamau, hepgoriadau, ymddygiad a sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol neu’n gamdriniol, a gwahanol ganfyddiadau o hyn
  9. cyfnodau pontio ym mywydau unigolion a allai olygu bod mwy o berygl iddynt gael eu niweidio a’u cam-drin  
  10. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ddiogelwch personol a diogelu  
  11. y ddyletswydd foesol a moesegol i arwain ymarfer sy’n hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion, ac eraill, ac i amddiffyn y cyhoedd yn ehangach
  12. eich prif rôl ataliol o ran diogelu unigolion ac eraill, a goblygiadau methu â gweithredu
  13. sut mae cefnogi chwythwyr chwiban i ddod ymlaen
  14. rôl asesiadau risg, rheoli risg a chymryd risgiau cadarnhaol wrth ddiogelu unigolion ac eraill
  15. sut mae grymuso eraill i gymryd camau cywir os bydd niwed neu gamdriniaeth yn cael ei amau neu ei ddatgelu  
  16. sut mae cefnogi unigolion ac eraill i nodi a rhoi gwybod am niwed neu gamdriniaeth, a pham y gallai fod yn anodd iddynt wneud hynny  
  17. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddiogelu
  18. rôl hyder a hunan-barch unigolion ac eraill o ran sicrhau diogelwch personol  
  19. sut mae adnabod a lleihau risgiau diogelu sy’n gysylltiedig â defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol ar-lein
  20. sut mae cefnogi’r gwaith o ddiogelu eich hun ac eraill mewn lleoliad gwaith neu wrth weithio ar eich pen eich hun
  21. yr hyn a ddysgwyd o adolygiadau i fethiannau difrifol er mwyn amddiffyn pobl rhag niwed, camdriniaeth, esgeulustod neu ecsbloetiaeth, a sut i roi’r hyn a ddysgwyd ar waith  
  22. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i ddiogelu unigolion ac eraill
  23. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddiogelu unigolion ac eraill  
  24. sut mae cefnogi unigolion ac eraill i ddeall a dilyn gwybodaeth, asesiadau risg, polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â diogelu
  25. sut mae gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i werthuso effeithiolrwydd systemau diogelu ac arferion ataliol
  26. pwysigrwydd cadw tystiolaeth sy’n gysylltiedig â niwed a chamdriniaeth posibl, a sut mae helpu eraill i wneud hyn  
  27. pryd y mae'n rhaid i chi rannu gwybodaeth a fyddai fel arall yn gyfrinachol, a sut mae helpu eraill i wneud hyn  
  28. pam ei bod yn bwysig cofnodi ac adrodd ffeithiau wrth ddiogelu, a sut mae helpu eraill i wneud hyn
  29. beth i'w wneud os ydych chi neu eraill wedi rhoi gwybod am bryderon ond nad oes camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw
  30. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  31. theorïau sy’n berthnasol i arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  32. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  33. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  34. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain y gwaith o ddiogelu unigolion  
  35. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  36. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddiogelu unigolion ac eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD44

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Diogelu Unigolion ac eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu