Arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
URN: HSCCLD437
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth am wasanaethau ac adnoddau a chefnogi teuluoedd i gael gafael ar y gwasanaethau. Mae hefyd yn cynnwys datblygu’r ddarpariaeth ac annog arferion gorau yn y gwaith gyda babanod a phlant bach.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- annog teuluoedd i rannu eu hanghenion a’u dewisiadau mewn perthynas â gwasanaethau i fabanod neu blant bach
- asesu’r gwasanaeth i wneud yn siwr ei fod yn cwrdd ag anghenion babanod neu blant bach a theuluoedd
- helpu teuluoedd i gael gafael ar wybodaeth, cymorth ac adnoddau
- trafod costau gyda theuluoedd, gan gynnwys unrhyw gymorth ariannol
- rhoi gwybodaeth fanwl a hygyrch i deuluoedd am y gwasanaethau sydd ar gael
- cynllunio i ddatblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau
- nodi ffynonellau a threfnu adnoddau ar gyfer darparu gwasanaethau
- dod o hyd i gyllid yn allanol i gefnogi gwasanaethau
- gweithio gyda theuluoedd i wella gwasanaethau drwy nodi eu dewisiadau, eu hanghenion a’r adnoddau sydd ar gael
- arwain y gwaith o gynllunio gwelliannau i wasanaethau partneriaeth â theuluoedd
- gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i gefnogi babanod neu blant bach wrth iddynt symud i amgylcheddau newydd
- sicrhau bod y gweithle’n dilyn arferion gorau wrth weithio gyda babanod neu blant bach
- darparu amgylcheddau diogel sy'n hybu llesiant a datblygiad babanod neu blant bach
- sicrhau ymarfer myfyriol ac ymatebol sy’n hybu llesiant a datblygiad babanod neu blant bach
- nodi a defnyddio fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu sy’n cefnogi arferion gorau wrth weithio gyda babanod neu blant bach
- cydweithio ag eraill i nodi eu hanghenion dysgu a chyfleoedd datblygu i gefnogi babanod neu blant bach
- cefnogi eraill i gael mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu
- defnyddio adnoddau i weithredu a rhannu gwybodaeth am arferion gorau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain darpariaeth ar gyfer babanod neu blant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- meddyliwch ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain darpariaeth ar gyfer babanod neu blant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- datblygiad cyn geni a ffactorau sy'n effeithio ar dwf y ffetws a datblygiad yr ymennydd
- yr ystod o ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy’n effeithio ar ddatblygiad babanod a phlant bach
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad babanod a phlant bach
- y newidiadau y gall babanod a phlant bach fynd drwyddynt, a sut i’w cefnogi
- eich rôl o ran arwain gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer cynllunio, a sut mae hyn yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu datblygiad babanod a phlant bach
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ddarpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach
- sut mae rheoli a threfnu amgylcheddau ar gyfer babanod a phlant bach sy’n hwyluso ymlyniadau diogel ac yn cefnogi rheoleiddio emosiynol, llesiant a gwydnwch
- y cyfraniad mae chwarae'n ei wneud at ddatblygiad holistaidd babanod a phlant bach
- sut mae defnyddio dull gwella ansawdd i gefnogi gwelliant parhaus a chynnal safonau ansawdd ar gyfer dysgu a datblygu
- sut mae sicrhau bod gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau yn hygyrch i bawb
- y cymorth sydd ar gael i fabanod a phlant bach a’u teuluoedd
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth weithio mewn partneriaeth â theuluoedd
- dulliau o gefnogi eraill i weithio gyda babanod a phlant bach, a’u cefnogi
- sut mae arwain systemau, gweithdrefnau ac arferion sy’n cefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- egwyddorion asesiadau risg, rheoli risgiau a chymryd risgiau cadarnhaol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- theorïau sy’n berthnasol i arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach mewn partneriaeth â theuluoedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD437
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Arwain Darpariaeth ar gyfer babanod a phlant bach, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu