Arwain y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol

URN: HSCCLD435
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o gefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae’n cynnwys cydlynu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau, yn seiliedig ar bolisi ac ymarfer yn eich gwlad a’ch lleoliad. Mae hefyd yn cynnwys adolygu ymarfer er mwyn i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol gael eu cynnwys a chymryd rhan. Mae’n gofyn i chi fynd ati ag eraill i gydlynu’r gwaith o gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydlynu polisïau a gweithdrefnau sy’n cefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  2. datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau sy’n gwella ymarfer cynhwysol ac yn cefnogi cyfranogiad effeithiol ar gyfer plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  3. sicrhau bod y derminoleg arbenigol yn syml ac yn glir i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith  
  4. nodi a defnyddio ystod o wybodaeth i lywio’r gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau
  5. rhoi gwybodaeth gywir a hygyrch i deuluoedd ac eraill
  6. trefnu ac amserlennu adolygiadau asesu fesul cam, gan ymestyn y cyfnod rhyngddynt pan fydd plant neu bobl ifanc yn gwneud cynnydd cyson
  7. rhoi ymateb graddoledig a phersonol ar waith sy'n cwrdd ag anghenion unigryw plant a phobl ifanc
  8. cynnal disgwyliadau uchel ac ymrwymo i godi cyflawniadau yn seiliedig ar werthusiadau realistig o alluoedd plant a phobl ifanc
  9. gweithio ar y cyd ag eraill i sicrhau adnoddau ychwanegol neu gychwyn asesiadau statudol
  10. cefnogi eraill i ddiweddaru cynlluniau unigol, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion newidiol
  11. sicrhau bod adnoddau ar gael a bod eraill yn nodi ac yn ymateb i anghenion ychwanegol plant neu bobl ifanc  
  12. magu hyder pobl eraill mewn perthynas â chefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  13. mynd ati i gynllunio’n strategol a chefnogi plant neu bobl ifanc drwy gyfnodau pontio
  14. sefydlu trefniadau gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wella’r cymorth integredig sydd ar gael i blant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  15. rhannu gwybodaeth berthnasol gyda phlant neu bobl ifanc, teuluoedd ac eraill  
  16. adolygu’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn berthnasol  
  17. defnyddio dulliau casglu a dadansoddi data i werthuso effaith polisïau a gweithdrefnau  
  18. nodi materion a chynllunio ar gyfer gwelliant parhaus wrth roi arferion cynhwysol ar waith
  19. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc a theuluoedd i ddatblygu ac adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion  
  20. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  21. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cefnogi â’r newidiadau y gallai plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol eu profi
  2. hawliau plant a phobl ifanc i gymryd rhan a chydraddoldeb mynediad a sut y mae’r hawliau hyn yn dylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir
  3. sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma ym mholisïau, gweithdrefnau ac arferion y gweithle  
  4. yr wybodaeth, yr adnoddau a’r cymorth arbenigol lleol a chenedlaethol sydd ar gael i blant a phobl ifanc, teuluoedd ac eraill
  5. egwyddorion gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth â theuluoedd
  6. y gwahaniaethau rhwng modelau anabledd cymdeithasol a meddygol a’u goblygiadau o ran darparu gwasanaethau
  7. ble i ddod o hyd i wybodaeth am anghenion ychwanegol penodol
  8. sut mae niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol yn dylanwadu ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  9. dylanwad diwylliant a chefndir ar bolisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  10. pwysigrwydd cynnwys plant a phobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau er mwyn sbarduno newid cadarnhaol
  11. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion
  12. sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  13. sut mae nodi a goresgyn heriau o ran mynediad a chyfranogiad
  14. y sail resymegol dros ddarpariaeth integredig a’r manteision a ddaw i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  15. y pwrpas a’r defnydd o ddulliau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol a sut i gefnogi eraill i ddefnyddio’r dulliau hyn
  16. pwysigrwydd eiriolaeth o ran hawliau a chyfranogiad plant a phobl ifanc
  17. yr amrywiaeth o gymhorthion, adnoddau, dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, a sut i gael gafael arnynt
  18. pwysigrwydd adnabod ac ymyrryd yn gynnar er mwyn atal rhagor o heriau dysgu neu ddatblygu
  19. sut mae defnyddio terminoleg arbenigol yn gywir ac yn sensitif
  20. y cymorth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd
  21. egwyddorion personoli mewn gofal, sut mae’r egwyddorion hyn yn newid arferion, a sut mae gofal personol yn cael ei gynllunio a’i reoli  
  22. y gwahaniaeth rhwng darparu dysgu wedi'i bersonoli a chwricwlwm gwahaniaethol  
  23. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  24. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  25. theorïau sy’n berthnasol i arwain y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  26. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  27. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth arwain y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  28. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth arwain y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  29. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu yn y gwaith o adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD435

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Adolygu Polisiau, Gweithdrefnau, Arferion, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu