Gwerthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
URN: HSCCLD433
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn gwerthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd. Mae hefyd yn cynnwys cydlynu adnoddau i gwrdd â’u hanghenion ac arwain proses o newid a gwelliant yn yr amgylchedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu systemau a gweithdrefnau i fonitro a gwerthuso amgylcheddau
- sicrhau cydraddoldeb mynediad i amgylcheddau ar gyfer plant neu bobl ifanc ac eraill
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau bod plant neu bobl ifanc yn teimlo’u bod yn cael eu croesawu, eu parchu a’u gwerthfawrogi
- grymuso plant neu bobl ifanc ac eraill i werthuso amgylcheddau
- sicrhau bod amgylcheddau wedi cwrdd â dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc
- sicrhau bod amgylcheddau yn ysgogol ac yn hybu datblygiad holistaidd plant neu bobl ifanc
- sicrhau bod amgylcheddau yn sensitif i wahanol ddiwylliannau ac ethnigrwydd, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn darparu delweddau cadarnhaol o bob plentyn neu berson ifanc
- sicrhau bod amgylcheddau’n cefnogi plant neu bobl ifanc ac eraill drwy brosesau pontio
- defnyddio adnoddau'n effeithiol i gefnogi plant neu bobl ifanc mewn amgylcheddau
- sicrhau bod mannau, profiadau a rhyngweithiadau wedi'u cynllunio a’u trefnu’n dda gyda digon o adnoddau ar gyfer plant neu bobl ifanc
- darparu dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi chwarae a dysgu, gan sicrhau bod adnoddau digidol yn cefnogi yn hytrach na disodli profiadau chwarae cyfoethog yn y byd go iawn
- monitro’r gofal a’r cymorth a gynigir i blant neu bobl ifanc i sicrhau y llwyddir i gwrdd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol ac ieithyddol
- rhoi arferion ar waith sy’n cefnogi dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc ac yn ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o bobl eraill a’r byd ehangach
- sicrhau bod adnoddau'n ddiogel, yn hylan ac yn addas i’r diben
- datblygu systemau a gweithdrefnau i fonitro'r defnydd o adnoddau a’u hansawdd
- nodi a chytuno ar newidiadau i adnoddau mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill
- gweithio ar y cyd â phlant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio ar gyfer datblygiad parhaus
- paratoi eraill ar gyfer newid a datblygiad mewn ffyrdd sy’n gadarnhaol, yn ysgogol ac yn hybu creadigrwydd
- annog eraill i arloesi a chynnig cefnogaeth ar gyfer syniadau newydd
- gwrando ar blant neu bobl ifanc ac eraill yn ystod y broses o newid
- creu amgylchedd sy’n hybu datblygiad proffesiynol parhaus ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gwerthuso’r amgylchedd ar gyfer plant neu bobl ifanc
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth werthuso’r amgylchedd ar gyfer plant neu bobl ifanc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- datblygiad cyn geni a ffactorau sy'n effeithio ar dwf y ffetws a datblygiad yr ymennydd
- y patrwm o ran datblygiad o adeg geni hyd at 21 oed
- ystod o ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy’n effeithio ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
- sut mae cefnogi plant a phobl ifanc â’r newidiadau y gallant eu profi mewn amgylchedd
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ryngweithiadau plant a phobl ifanc â’r amgylchedd
- dylanwad diwylliant a chefndir ar amgylcheddau i blant a phobl ifanc
- sut mae arwain systemau, gweithdrefnau ac arferion i fonitro a gwerthuso’r amgylchedd i blant a phobl ifanc a theuluoedd
- y mathau o system sy'n addas ar gyfer monitro a gwerthuso amgylcheddau
- sut mae rheoli a threfnu amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n hwyluso ymlyniadau diogel ac yn cefnogi rheoleiddio emosiynol, llesiant a gwydnwch
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifanc
- sut mae darparu mannau a rhaglenni o brofiadau a rhyngweithiadau i gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc
- sut mae sicrhau bod mannau, profiadau a rhyngweithiadau yn cael eu hasesu am risg ac yn cael eu rheoli fel bod modd cymryd risgiau cadarnhaol
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i greu amgylcheddau cadarnhaol
- sut mae cefnogi eraill i addasu eu hymarfer a’u hamgylchedd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan gyfartal
- pwysigrwydd arwain eraill wrth ddarparu mannau, profiadau a rhyngweithiadau sy’n adlewyrchu cyfiawnder cymdeithasol, diogelu’r amgylchedd, dinasyddiaeth fyd-eang a dysgu yn yr awyr agored
- sut mae defnyddio dull gwella ansawdd i gefnogi gwelliant parhaus
- y mathau o gymorth sydd ei angen gan eraill yn ystod proses o newid
- sut mae modelu a dangos arferion da, arwain drwy esiampl ac annog a dylanwadu ar eraill
- technegau ar gyfer datrys problemau a meddwl yn flaengar
- deall ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer ar sail ymchwil
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i werthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gwerthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
- theorïau sy'n berthnasol i werthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gwerthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth werthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth werthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth werthuso’r amgylchedd ar gyfer plant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD433
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gwerthuso'r Amgylchedd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu