Arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant a phobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
URN: HSCCLD432
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill. Mae hyn yn cynnwys hwyluso’r gwaith o asesu a chefnogi dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod canllawiau neu fframweithiau cwricwlwm ar gyfer dysgu mathemategol yn cael eu nodi a’u dilyn
- arwain y gwaith o ddatblygu systemau i arsylwi ar ddysgu mathemategol plant neu bobl ifanc drwy chwarae a phrofiadau yn y byd go iawn
- cefnogi eraill i gydnabod ac ymateb i blant neu bobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol
- modelu dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn drwy gynnwys plant neu bobl ifanc ac eraill mewn asesiadau o ddysgu mathemategol
- goruchwylio’r defnydd o arsylwadau ac adborth i asesu dysgu mathemategol mewn cyd-destunau ystyrlon
- sicrhau bod arsylwadau’n cydnabod yr ystod lawn o sgiliau mathemategol, gan gynnwys sgiliau datrys problemau, adnabod patrymau, a rhesymu gofodol
- arwain y gwaith o ddatblygu profiadau dysgu mathemategol sy’n adeiladu ar ddiddordebau a chwilfrydedd naturiol plant neu bobl ifanc
- hybu a gwreiddio’r defnydd o ddyfeisiau ac adnoddau digidol i wella sgiliau meddwl a datrys problemau mathemategol
- cefnogi eraill i ddewis adnoddau o ansawdd uchel sy’n addas yn ddatblygiadol i gefnogi dysgu mathemategol
- modelu ac annog rhyngweithiadau sensitif ac ymatebol sy'n meithrin hyder a chwilfrydedd mathemategol
- sicrhau bod gan blant neu bobl ifanc fynediad cyfartal at brofiadau dysgu mathemategol
- creu amgylcheddau lle mae plant neu bobl ifanc yn teimlo’n hyderus i archwilio a chymryd rhan mewn ymarferion meddwl yn fathemategol
- datblygu systemau sy’n monitro ac yn gwerthuso sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol
- gweithio ar y cyd ag eraill i werthuso a yw’r ddarpariaeth ddysgu fathemategol yn effeithiol ac yn ymatebol i anghenion plant neu bobl ifanc
- adnabod meysydd i’w gwella ac arwain dysgu proffesiynol parhaus o ran datblygiad mathemategol
- arwain ymarfer myfyriol drwy gefnogi eraill i ddadansoddi a gwella eu dull o ddysgu mathemategol
- cefnogi eraill i gael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â dysgu mathemategol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant a phobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cefnogi plant neu bobl ifanc â’r newidiadau y gallant eu profi wrth ymgymryd â dysgu mathemategol
- dulliau cenedlaethol a lleol o ddysgu mathemategol a sut maent yn dylanwadu ar asesiadau a gwaith cynllunio’r cwricwlwm
- pwysigrwydd defnyddio data dilys a dibynadwy wrth asesu sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol
- prosesau eich gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol
- sut mae prosesau asesu mewnol yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm ac asesu ehangach
- sut mae arwain o ran defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu datblygiad mathemategol plant neu bobl ifanc
- pryd a sut mae defnyddio gwahanol fathau o arsylwadau i gefnogi dysgu mathemategol
- y dylanwadau ar ddysgu mathemategol a sut mae ymchwil yn llywio ymarfer effeithiol
- patrymau nodweddiadol dysgu mathemategol a datrys problemau o’r crud a sut mae cefnogi cynnydd plant neu bobl ifanc
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad mathemategol plant neu bobl ifanc
- rôl chwarae o ran datblygu sgiliau meddwl yn fathemategol a sut i integreiddio dulliau sy’n seiliedig ar chwarae yn effeithiol
- sut mae addasu eich ymarfer i gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol pan fydd ganddynt alluoedd, anghenion a dewisiadau gwahanol
- y mathau o adnoddau, profiadau a dulliau sy’n cefnogi dysgu mathemategol orau, gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol
- pwysigrwydd cynnwys pobl eraill o fewn dysgu mathemategol plant neu bobl ifanc, a sut i feithrin partneriaethau effeithiol
- sut mae cynnwys plant neu bobl ifanc yn y gwaith o asesu a llunio eu dysgu mathemategol eu hunain mewn ffyrdd sy’n addas i’w hoedran a’u hanghenion
- sut mae arwain o ran urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod datblygiad mathemategol
- sut mae monitro a gwerthuso darpariaeth ddysgu fathemategol a chynllunio ar gyfer gwelliant parhaus
- sut mae myfyrio ar eich rôl arwain o ran cefnogi dysgu mathemategol a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn
- sut mae cefnogi a datblygu sgiliau pobl eraill i sicrhau profiadau dysgu mathemategol o ansawdd uchel
- sut mae cefnogi eraill i fod yn hyderus wrth ddefnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i wella sgiliau datrys problemau a meddwl yn fathemategol
- sut mae creu amgylcheddau dysgu sy'n annog hyder, chwilfrydedd ac ymgysylltiad wrth feddwl yn fathemategol
- sut mae dadansoddi a defnyddio data arsylwi i lywio'r gwaith cynllunio a gwella darpariaeth ddysgu fathemategol
- sut mae ymgorffori dysgu mathemategol ar draws gwahanol rannau o’r cwricwlwm i’w wneud yn ystyrlon ac yn berthnasol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant a phobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
- theorïau sy’n berthnasol i arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth arwain y gwaith o gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi sgiliau plant neu bobl ifanc o ran dysgu mathemategol, archwilio a datrys problemau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD432
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cefnogi Sgiliau Plant a Phobl Ifanc, Mathemategol, Archwilio, Datrys Problemau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu